Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Cynllun tai arloesol, Allweddi Caerffili, i barhau
News Centre
Cynllun tai arloesol, Allweddi Caerffili, i barhau
Postiwyd ar : 23 Chw 2022
Mae Allweddi Caerffili, cynllun prydlesu sector preifat arloesol, ar fin parhau â'i waith i atal digartrefedd.
Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i’r fenter barhau i gael ei chyflawni gan ei Dîm Atebion Tai.
Mae'r tîm wedi darparu Allweddi Caerffili yn llwyddiannus ers dros dair blynedd, gan baru pobl ag eiddo addas a darparu cymorth i'r tenant a'r landlord i gynnal y denantiaeth.
Ar hyn o bryd, mae dros 100 o gartrefi wedi'u cofrestru gyda'r cynllun ac mae'r prosiect wedi helpu llawer o deuluoedd ac unigolion a fyddai, fel arall, wedi cael eu hunain yn ddigartref, gan gynnwys ailgartrefu'r rhai a oedd yn cysgu allan yn flaenorol.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Allweddi Caerffili oedd y cynllun cyntaf o’i fath ar gyfer awdurdod lleol yng Nghymru, ac rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi y byddwn ni'n parhau i’w gyflawni ac yn anelu at adeiladu ar ei lwyddiannau blaenorol.
“Gyda dros 50 o landlordiaid wedi'u cofrestru ar hyn o bryd gydag Allweddi Caerffili, mae'r cynllun yn fodel sefydledig y gellir ymddiried ynddo. Mae’n cynnig cyfoeth o fuddion, ac mae'n gynllun sydd â hanes profedig o atal digartrefedd, wrth helpu hefyd landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid addas ar gyfer eu cartrefi nhw.”
I gael gwybod rhagor am Allweddi Caerffili, ewch i
www.caerphillykeys.co.uk/cy/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y