Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Gwaith dymchwel i ddechrau ym meddygfa wag Caerffili
News Centre
Gwaith dymchwel i ddechrau ym meddygfa wag Caerffili
Postiwyd ar : 11 Chw 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu dechrau gwaith i ddymchwel hen feddygfa wag ym Mharc Lansbury, Caerffili.
Daeth yr adeilad, sydd wedi'i amgylchynu gan dir sy'n eiddo i'r Cyngor, yn wag pan ymddeolodd y meddyg teulu blaenorol, ac ni fynegodd unrhyw ddarpar berchnogion ddiddordeb yn yr eiddo.
Gwnaeth y Cyngor benderfyniad i brynu'r eiddo er mwyn ei gysoni â'r asedau o'i amgylch. Nid oedd yr eiddo'n cael ei ystyried yn briodol ar gyfer darparu gwasanaethau amgen ac, felly, cafodd y penderfyniad ei wneud i fwrw ymlaen â'r gwaith dymchwel er mwyn atal yr adeilad rhag mynd yn adfail a dod yn fagnet posibl ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn archwilio opsiynau ar gyfer y safle yn y dyfodol, a bydd ymgynghoriad cymunedol yn cael ei gynnal drwy gydol y broses.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae buddsoddiad sylweddol wedi’i wneud ym Mharc Lansbury dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o brosiect adfywio wedi’i dargedu, mewn partneriaeth â phreswylwyr. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned leol yn parhau i chwarae rhan allweddol mewn cynlluniau ar gyfer Parc Lansbury a’r safle hwn.
“Rydyn ni hefyd yn cydnabod bod y safle hwn wedi cael ei ddefnyddio fel man i goffáu trasiedi a ddigwyddodd ym Mharc Lansbury rai blynyddoedd yn ôl. Hoffem ni sicrhau y bydd y plac coffa sydd wedi’i leoli yn yr adeilad ar hyn o bryd yn cael ei dynnu’n broffesiynol a’i storio’n ddiogel, hyd nes mae lleoliad arall yn cael ei gytuno gyda’r teulu a’r gymuned leol.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y