Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Y Cyngor yn rhybuddio tenantiaid am 'ffermwyr hawliadau'
News Centre
Y Cyngor yn rhybuddio tenantiaid am 'ffermwyr hawliadau'
Postiwyd ar : 16 Chw 2022
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhybuddio tenantiaid i fod yn wyliadwrus o 'ffermwyr hawliadau' sy'n gweithredu yn yr ardal.
Mae'r cwmnïau yn gweithredu trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys galw diwahoddiad, pamffledi a'r cyfryngau cymdeithasol i annog tenantiaid i fwrw ymlaen â hawliadau yn erbyn ei landlord am ddiffyg atgyweirio. Wedyn, yn y mwyafrif o achosion, bydd gan denantiaid gostau cyfreithiol i'w talu hyd yn oed os ydyn nhw'n tynnu'u hawliad yn ôl.
Mae neges y Cyngor yn dod ar ôl sawl digwyddiad yn y Fwrdeistref Sirol lle cafodd tenantiaid sy'n agored i niwed eu targedu gan gwmnïau o'r math. Mae achosion blaenorol y mae'r Cyngor wedi deilio â nhw yn cynnwys cwmnïau rheoli hawliadau yn oedi cyn cyflwyno’r hawliad nes bod cyfnod ailfeddwl y tenant wedi dod i ben. Yn yr achosion hyn, mae'r Cyngor wedi cwblhau'r atgyweiriadau yn y cyfamser, gan arwain at wrthdroi'r hawliad.
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Rydyn ni wedi cael gwybod am nifer o ddigwyddiadau yn ddiweddar lle mae tenantiaid wedi cael eu targedu dros y ffôn, negeseuon testun a galwadau carreg drws gan gwmnïau ‘ffermwyr hawliadau’. Mae'r cwmnïau hyn yn gweithredu drwy annog tenantiaid i lofnodi cytundeb ac, yna, mae eu manylion nhw'n cael eu gwerthu i gwmni cyfreithiol, sydd, yn aml, yn codi ffioedd sylweddol y mae angen i'r tenant eu talu.
“Rydyn ni'n annog tenantiaid i fod yn wyliadwrus o unrhyw alwadau diwahoddiad y maen nhw'n eu cael ac i geisio cyngor gan swyddogion y Cyngor cyn arwyddo unrhyw ddogfennau. Mae tenantiaid hefyd yn cael eu hatgoffa, fel rhan o’u Cytundeb Tenantiaeth nhw, fod yn rhaid iddyn nhw roi gwybod i ni’n gyflym os oes angen unrhyw atgyweiriadau yn y cartref.”
Gall tenantiaid y Cyngor ym Mwrdeistref Sirol Caerffili roi gwybod am atgyweiriadau a cheisio cyngor gan eu swyddfa dai leol nhw drwy ffonio 01443 873535 neu
ymweld â.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y