Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Y Cyngor yn cwblhau rhaglen gwella cartrefi gwerth £260 miliwn
News Centre
Y Cyngor yn cwblhau rhaglen gwella cartrefi gwerth £260 miliwn
Postiwyd ar : 08 Chw 2022
Mr Tiley & Cllr Philippa Marsden, Leader of CCBC
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi ei fod wedi cwblhau ei raglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC).
Y rhaglen flaenllaw hon yw'r buddsoddiad unigol mwyaf erioed yn stoc tai’r Cyngor, gyda dros £260 miliwn yn cael ei wario ar welliannau i gartrefi a chymunedau tenantiaid.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Caerffili yn berchen ar 10,660 o gartrefi ledled y Fwrdeistref Sirol ac yn eu rheoli nhw. Drwy ei raglen SATC, mae cartrefi tenantiaid wedi cael eu hadnewyddu’n fewnol ac yn allanol gydag addasiadau i sicrhau bod cartrefi’n diwallu anghenion aelwydydd unigol yn ogystal ag ystod eang o welliannau amgylcheddol i wella cymunedau.
Yn ddiweddar, ymwelodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, ag un o’r tenantiaid olaf i gael gwelliannau fel rhan o’r rhaglen. Dywedodd Mr Tiley, sy’n byw ym Mhont-y-waun, “Rydw i wedi byw yma ers 11 mlynedd, ac mae’r gwelliannau y mae’r Cyngor wedi’u cyflawni wedi gwneud byd o wahaniaeth. Rydw i'n llawer mwy cyfforddus, a bydd hyn yn gwneud bywyd o ddydd i ddydd yn haws.”
“Hoffwn i ddiolch i’r Arweinydd am gymryd amser i ymweld â fy nghartref a gwrando ar fy meddyliau a fy marn i.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Marsden, “A hoffwn i ddiolch i Mr Tiley am roi croeso mor gynnes i mi i'w gartref heddiw ac am ddweud wrthyf i am ei brofiad o'r rhaglen SATC.
“Rydw i’n falch iawn o gyhoeddi ein bod ni bellach wedi cwblhau’r rhaglen SATC ac yn cydnabod nad yw cyflawni rhywbeth o’r raddfa hon wedi bod heb ei heriau, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o gyflwyno’r rhaglen hon, o’r dechrau i’r diwedd.
“Er ein bod ni wedi cyflawni’r cam cychwynnol hwn o sicrhau bod cartrefi yn cyrraedd y Safon, nid yw hyn yn golygu bod ein gwaith ni ar ben! Mae ein tîm Cartrefi Caerffili eisoes yn brysur yn datblygu cynlluniau i sicrhau bod cartrefi’n cael eu cynnal i’r Safon dros y blynyddoedd i ddod, yn ogystal â chyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ni ar gyfer adeiladu tai newydd y Cyngor.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y