Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Cyngor yn ffonio trigolion sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
News Centre
Cyngor yn ffonio trigolion sy'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf
Postiwyd ar : 08 Chw 2022
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ffonio trigolion sy'n gymwys i gael taliad o dan Gynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Llywodraeth Cymru.
Mae Tîm Rhenti’r Cyngor yn ceisio ffonio’r holl drigolion cymwys a’u helpu nhw i lenwi eu cais nhw dros y ffôn. Gall galwadau gan y tîm ymddangos fel rhif preifat ac, felly, mae'r Cyngor yn annog trigolion i ateb.
Yn ystod yr alwad, bydd gofyn i drigolion ddarparu eu manylion banc nhw oherwydd, heb y wybodaeth hon, ni fydd yn bosibl cyflwyno hawliad. Os nad oes gan ymgeiswyr gyfrif banc, rydych chi'n gallu defnyddio perthynas neu ffrind dibynadwy.
Os ydych chi'n ansicr ynghylch pwy yw'r galwr, ni ddylech chi rannu unrhyw wybodaeth bersonol. Gofynnwch am enw'r swyddog a chysylltu â'r Cyngor ar 01443 811450 neu drwy anfon e-bost at
SwyddfaCymorthTenantiaeth@caerffili.gov.uk
i gadarnhau a yw'r alwad yn ddilys.
Drwy'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £200 i ddarparu cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd gaeaf. Mae’r cynllun yn agored i aelwydydd lle mae un aelod yn cael budd-daliadau oedran gweithio sy’n seiliedig ar brawf modd ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.
Rhaid gwneud pob cais erbyn 28 Chwefror 2022.
Gall trigolion ym Mwrdeistref Sirol Caerffili hefyd weld a ydyn nhw'n gymwys a gwneud cais ar-lein drwy fynd.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y