Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Cabinet yn caniatáu cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu tai newydd
News Centre
Cabinet yn caniatáu cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu tai newydd
Postiwyd ar : 23 Chw 2022
Rhoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ganiatâd ar gyfer cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu cartrefi newydd ar ddau safle.
Cymeradwyodd aelodau'r Cabinet gynigion i greu datblygiad deiliadaeth gymysg blaenllaw ar safle hen Ysgol Gyfun Oakdale a chynllun arloesol ar gyfer pobl hŷn ar hen safle cartref gofal Tŷ Darran yn Rhisga.
Mae'r Cyngor eisoes wedi cynnal astudiaethau dichonoldeb i asesu addasrwydd y safle tir llwyd yn Oakdale ac mae cais cynllunio amlinellol wedi'i gyflwyno. Pe bai'n cael ei gymeradwyo, y datblygiad fydd y cyntaf o'i fath gan y Cyngor a fydd yn cynnig cartrefi i gael eu gwerthu ar y farchnad agored ochr yn ochr â thai fforddiadwy a chymdeithasol.
Mae cais cynllunio amlinellol hefyd wedi'i gyflwyno ar gyfer hen safle Tŷ Darran. Bydd yr adeilad newydd arfaethedig ar gyfer pobl hŷn yn cael ei ddylunio gyda lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni i leihau biliau tenantiaid, a hefyd leihau allyriadau carbon. Bydd hefyd yn cynnwys fflatiau eang a lifft i bob llawr.
Os bydd y datblygiad yn cael ei gymeradwyo, bydd yn cynnwys amrywiaeth o fannau cymunedol y bydd modd eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau wedi'u trefnu. Bydd y fflatiau hefyd yn cynnwys mannau awyr agored personol, fel balconïau, ynghyd â gerddi cymunedol hygyrch.
Bydd y cynllun tai newydd yn cael ei reoli gan y Cyngor a bydd yn cael ei ddefnyddio i adleoli tenantiaid presennol o gynlluniau tai yn yr ardal sydd wedi'u rhaglennu i'w cau.
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Rydyn ni wrth ein bodd bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r cynlluniau cyffrous ac arloesol hyn. Mae'r ddau ddatblygiad yn cynnig cyfoeth o botensial a byddan nhw'n ein galluogi ni i gyflawni ein hymrwymiad ni i ddarparu cartrefi cyngor newydd o ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon yn y Fwrdeistref Sirol.
“Ni fu erioed mor bwysig mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a lleihau biliau ynni i’n trigolion ni; bydd y datblygiadau di-garbon net arloesol hyn yn cael effaith aruthrol wrth gyflawni hyn.
“Yn ogystal â chynyddu ein stoc ni o dai cyngor, fel rhan o’r cynlluniau ar gyfer Oakdale, byddwn ni'n darparu ein heiddo ni i'w gwerthu ar y farchnad agored am y tro cyntaf erioed, ochr yn ochr â chyfleoedd perchentyaeth cost isel i helpu prynwyr tro cyntaf.
“Bydd ein cynlluniau cyffrous ni ar gyfer hen safle Tŷ Darran yn cynnwys cyfleuster newydd sy'n wahanol i unrhyw un o'n cynlluniau tai lloches presennol ni; bydd lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni, a mannau cymunedol ac awyr agored hyblyg a fydd yn cynnig mwy o gyfleoedd i wella iechyd a lles tenantiaid.
“Byddwn ni'n sicrhau bod cymunedau lleol yn cael eu diweddaru wrth i gynlluniau ar gyfer y ddau safle fynd yn eu blaen.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y