Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Chwefror 2022
Cabinet yn cytuno ar godiad rhent blynyddol
News Centre
Cabinet yn cytuno ar godiad rhent blynyddol
Postiwyd ar : 09 Chw 2022
Cytunodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar renti tenantiaid ar gyfer 2022/23.
Cytunodd aelodau’r Cabinet ar gynnydd o 2%, a fyddai’n cyfateb i gynnydd o £1.84 yr wythnos ar rent tenant cyfartalog o £93.62.
Dywedodd y Cyng. Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol a Thai, “Mae sicrhau bod rhenti’n parhau i fod yn fforddiadwy i’n tenantiaid yn allweddol ac mae’r cynnydd o 2% eleni yn parhau i fod yn is na’r uchafswm o 3.1% a ganiateir o dan bolisi Llywodraeth Cymru.
“Mae ymarfer ymgynghori helaeth hefyd wedi’i gynnal gyda thenantiaid i ddeall eu barn am fforddiadwyedd, lle dywedodd y mwyafrif o’r ymatebwyr wrthym eu bod yn teimlo bod ein rhenti yn deg, yn fforddiadwy ac yn darparu gwerth am arian.
“Rydym yn deall y bydd unrhyw gynnydd mewn rhent yn peri pryder ac yn sicrhau tenantiaid bod gennym ystod o gymorth ar gael i denantiaid sy’n profi anawsterau ariannol.
“Mae codiadau rhent yn angenrheidiol i’n galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau sy’n ymwneud â thai, buddsoddi yn ein stoc tai a chyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu tai cyngor newydd. Os na chaiff rhenti eu cynyddu'n flynyddol, gallai hyn arwain at fenthyca ychwanegol a thaliadau dyled; bydd yn gorfodi’r cyngor i adolygu gwasanaethau.”
Gall tenantiaid sydd â phryderon am eu rhent neu sy’n wynebu anawsterau ariannol gysylltu â Gwasanaeth Cymorth i Denantiaid y cyngor ar 01443 866534 neu drwy anfon e-bost at
swyddfacymorthtenantiaeth@caerffili.gov.uk
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y