Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2023
Cytuno ar gynlluniau i drawsnewid gwasanaethau landlordiaid yng Nghyngor Caerffili
News Centre
Cytuno ar gynlluniau i drawsnewid gwasanaethau landlordiaid yng Nghyngor Caerffili
Postiwyd ar : 13 Rhag 2023
Heddiw (13 Rhagfyr), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi rhoi cymeradwyaeth unfrydol i gynlluniau i drawsnewid sut mae tenantiaid yn cael mynediad at eu gwasanaethau landlordiaid.
Cytunodd aelodau’r Cabinet i gau swyddfeydd tai ym Mharc Lansbury, Graig-y-rhaca a’r Gilfach yn barhaol, yn ogystal â swyddfa gymunedol yn Nhŷ Sign, Rhisga. Fe wnaethon nhw hefyd gytuno i adleoli gwasanaethau landlordiaid i swyddfeydd y Cyngor yn Nhŷ Penallta, sy'n golygu y bydd staff yn ymuno â thîm tai ehangach Cartrefi Caerffili i hwyluso gwaith mewn partneriaeth gwell a lleihau dyblygu.
O dan y cynlluniau newydd, bydd y gwasanaeth landlordiaid yn newid o fodel cyflawni traddodiadol yn y swyddfa i fodel cyflawni yn y gymuned. Mae hyn yn golygu rhagor o gyfleoedd ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb, yng nghartrefi’r tenantiaid eu hunain ac mewn lleoliadau cymunedol.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni'n cydnabod bod y dull blaenorol o ddarparu gwasanaethau landlordiaid yn y Fwrdeistref Sirol yn hen ffasiwn ac wedi creu rhwystrau i lawer o denantiaid.
“Fe wnaethon ni ymgynghori â phob tenant ynghylch y cynigion hyn cyn iddyn nhw gael eu hystyried gan y Cabinet. Diolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad, a ddangosodd fod mwyafrif y tenantiaid yn cytuno â chynigion i staff weithio’n fwy rheolaidd mewn lleoliadau cymunedol ac i Cartrefi Caerffili gynnig rhagor o ymweliadau cartref.
“Bydd y dull canolog hwn yn caniatáu i ni esblygu’r gwasanaeth ymhellach a’n galluogi ni i dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, er budd tenantiaid. Rydyn ni hefyd yn ehangu ein harlwy digidol, gyda phorth ar-lein yn cael ei lansio yn gynnar yn 2024, a fydd yn ei gwneud yn haws i denantiaid gael mynediad at wybodaeth a rhoi gwybod am bryderon yn gyflym ac yn gyfleus, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.”
Mae tenantiaid Cyngor Caerffili (deiliaid contract) yn gallu cael mynediad at wasanaethau o'u swyddfa dai trwy ffonio 01443 873535, e-bostio
TîmTaiCBSC@caerffili.gov.uk
neu drwy
fynd
.
Bydd y Cyngor yn ysgrifennu at bob tenant yn y flwyddyn newydd i roi rhagor o wybodaeth.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Cyrtiau Tennis Parc Caerffili yn Ailagor Ar ôl Gwaith Adnewyddu
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y