Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2023
Cyngor Caerffili yn cymeradwyo adroddiad y Gwasanaethau Cymdeithasol
News Centre
Cyngor Caerffili yn cymeradwyo adroddiad y Gwasanaethau Cymdeithasol
Postiwyd ar : 05 Rhag 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo adroddiad sy’n amlinellu’r llwyddiannau a’r heriau o ran darparu gwasanaethau cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Mae Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, a gafodd ei gymeradwyo yng nghyfarfod llawn y Cyngor ddydd Mercher 29 Tachwedd, yn adlewyrchu ar berfformiad yn ystod 2022/23 yn ogystal ag amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Mae cyflawniadau allweddol a gafodd eu cyflawni yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad, yn cynnwys:
Dechrau gwaith dymchwel i ddatblygu tai seibiant newydd i oedolion a phlant.
Prynu dau eiddo i ddatblygu dau gartref plant â gwelyau.
Cydweithio â'r bwrdd iechyd wedi arwain at ehangu Cynllun Cysylltu Bywydau De-ddwyrain Cymru i ddarparu gwasanaeth i oedolion hŷn â phroblemau iechyd meddwl.
Y Cyngor wedi cyflogi pobl ag anabledd dysgu i weithio mewn caffi cymunedol.
Mae’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys:
Parhau i ehangu gofal preswyl i blant a llety â chymorth i bobl ifanc ledled y Fwrdeistref Sirol.
Archwilio agor siop goffi gymunedol arall i ddarparu rhagor o gyfleoedd i bobl ddysgu a datblygu sgiliau newydd.
Cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu cyflogi mewn prosiectau cyfleoedd dydd.
Agor cyfleuster seibiant ychwanegol i blant ag anableddau.
Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ofal Cymdeithasol, “Mae’r sector gofal cymdeithasol yn parhau i wynebu heriau sylweddol wrth i ni barhau i ymdrin ag effaith y pandemig gyda'r argyfwng costau byw yn y cefndir.
“Rydw i’n falch iawn o weld ein bod ni'n parhau i ymateb i’r her yng Nghaerffili, gan ddod o hyd i atebion arloesol i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar unigolion i’r rhai sydd eu hangen fwyaf ac rydw i am ddiolch i’r holl staff a fu’n ymwneud â darparu gofal cymdeithasol ar draws y Cyngor.”
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y