Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2022
Ffair y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni hynod lwyddiannus yng Nghaerffili yn dod â’r nife
News Centre
Ffair y Gaeaf a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni hynod lwyddiannus yng Nghaerffili yn dod â’r nifer mwyaf erioed o ymwelwyr i’r dref
Postiwyd ar : 14 Rhag 2022
Cafodd trydedd Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf yn y Fwrdeistref Sirol eleni ei chynnal yng nghanol tref Caerffili ar ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr, ac roedd yn llwyddiant ysgubol arall i’r Fwrdeistref Sirol.
Cafodd nifer trawiadol o dros 7,500 o bobl ei gofnodi ar y peiriant cyfrif ymwelwyr yng nghanol y dref, sef mwy na dwbl nifer yr ymwelwyr o gymharu â’r penwythnos blaenorol. Cafodd swm syfrdanol o 25,500 o ymwelwyr ei gofnodi yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell ar y peiriant cyfrif ymwelwyr, sy'n fwy na'r nifer a aeth i'r Ŵyl Fwyd ac i Ŵyl y Caws Bach yn gynharach yn y flwyddyn. Yn ogystal, daeth 2,000-3,000 o bobl i wylio’r orymdaith lusernau ysblennydd a’r arddangosfa tân gwyllt yn hwyrach yn y nos, ar ôl i bron i 1,000 o lusernau gael eu gwneud yn y gweithdai cyn yr orymdaith.
Roedd dros 60 o stondinau bwyd a chrefft yn bresennol yn ystod y dydd, ac roedd rhai ohonyn nhw'n cynnwys Marchnad Crefftwyr Caerffili, Ffair Bwyd a Chrefft Crafty Legs a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell. Fe wnaeth y rhan fwyaf o fasnachwyr werthu popeth a oedd ganddyn nhw. Daeth yr holl berfformwyr stryd â’r adloniant, gan gynnwys Tywysog Iâ, pluen eira crwydrol, coblynnod Siôn Corn gyda’u 'Good-O-Meter', 'Surf’s Up Santa', a Choeden Nadolig ar Goesau Bachau. Roedd yna hefyd rai perfformwyr byw anhygoel yn yr orymdaith: Henllys Pipes & Drums Band, Cardiff Imperial Redcoats, Samba Galêz, a Giant Lumens.
Clywch beth oedd gan fusnesau lleol i’w ddweud am y digwyddiad:
Dywedodd Sarah Harris-Clint o Crafty Legs Events, “Am ddiwrnod anhygoel a noson wych. Roeddwn i mor falch a hapus o fod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol mor wych yn ein tref leol ni. Roedd yn wych gweld cymaint o wynebau hapus llawn gwenau o gwmpas a'i weld mor brysur. Roedd ein crefftwyr a'n busnesau bach ni wrth eu bodd. Roedd y digwyddiad wedi’i drefnu’n dda iawn o’r dechrau i’r diwedd ac roedd yr orymdaith lusernau a’r tân gwyllt yn ddiweddglo ardderchog i ddiwrnod gwych i Gaerffili!”
Dywedodd Christopher Hall o Farchnad Crefftwyr Caerffili, “Cafodd pawb a ymunodd â ni ym Marchnad Crefftwyr Caerffili amser gwych yn Ffair Fwyd a Chrefft Caerffili. Roedd yr awyrgylch yn drydanol, roedd gweld cymaint o bobl allan yn mwynhau eu hunain yn swynol ac roedd y tân gwyllt ar y diwedd yn eithaf arbennig.”
Dywedodd Martin Cook o Coffi Vista, “Roedd yn un o’n diwrnodau masnachu gaeaf mwyaf llwyddiannus erioed yng Nghaerffili! Fe wnaethon ni ymestyn ein horiau agor ni i gyd-fynd ag oriau agor y digwyddiad. Roedd yn llwyddiant mawr ar ein rhan ni. Braf oedd gweld cymaint o ymwelwyr i’r dref o’r tu allan i’r ardal. Roedd y ffordd y cafodd y castell ei oleuo, y tân gwyllt a Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yn ychwanegu at y dathliadau a'r awyrgylch. Rwy’n mawr obeithio y bydd yn rhywbeth sy’n parhau yn y dyfodol!”
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd, “Digwyddiad llwyddiannus arall yng Nghaerffili. Daeth masnachwyr a thrigolion allan yn llu i gefnogi'r dref. Ffantastig!"
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y