Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Rhagfyr 2022
Cabinet Caerffili yn cytuno ar Bolisi Perchentyaeth Cost Isel
News Centre
Cabinet Caerffili yn cytuno ar Bolisi Perchentyaeth Cost Isel
Postiwyd ar : 14 Rhag 2022
Heddiw (14 Rhagfyr), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo Polisi Perchentyaeth Cost Isel yn unfrydol. Bydd yn helpu'r rhai sydd ar incwm is i gael mynediad i berchentyaeth fforddiadwy.
Mae'r polisi'n berthnasol i'r eiddo hynny sydd wedi'u prynu gan y Cyngor drwy'r system gynllunio neu eiddo sydd wedi'i adeiladu drwy ei raglen ddatblygu ei hun. Nid yw’n berthnasol i gartrefi o fewn stoc dai bresennol y Cyngor.
Drwy’r polisi, gall darpar brynwyr tai brynu eiddo drwy rannu ecwiti, rhanberchnogaeth, neu ranberchnogaeth ar gyfer pobl hŷn. I fod yn gymwys, rhaid i ddarpar brynwyr tai fodloni meini prawf penodol, sy'n cael eu nodi yn y polisi.
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Rydyn ni'n deall bod llawer o bobl leol yn dyheu am berchentyaeth, ond mae problemau cynyddol ynghylch fforddiadwyedd yn atal llawer rhag gallu prynu eu cartref eu hunain.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni yng nghanol argyfwng tai cenedlaethol a gyda dros 6,000 o ymgeiswyr wedi’u cofrestru ar Gofrestr Tai Cyffredin Caerffili, nid yw darparu ystod o opsiynau i bobl gael mynediad i dai cynaliadwy a fforddiadwy erioed wedi bod yn fwy pwysig.
“Mae'r Cyngor yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni ei gynlluniau uchelgeisiol i adeiladu cartrefi newydd a chynyddu'r stoc dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref Sirol. Mae lansio’r Polisi Perchentyaeth Cost Isel yn gam arall ar y daith gyffrous hon.”
Mae modd gweld Polisi Perchentyaeth Cost Isel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yma.
Rhannwch y dudalen hon :
Share on Facebook
Share on Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Email Address
Telephone
Address
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y