Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar achosion o amrywiolyn Omicron o'r Coronafeirws yng Nghymru
Postiwyd ar : 15 Rhag 2021
Meddai Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Mercher 15 Rhagfyr) yn cadarnhau tri deg achos newydd o amrywiad Omicron yng Nghymru. Daw hyn â ni at gyfanswm o chwech deg dau achos.
"Mae rhan o’r cynnydd heddiw yn gysylltiedig â newid yn y diffiniad achos a cytunwyd arno ledled y DU, gan fod achosion a nodwyd yn flaenorol yn debygol iawn bellach yn cael eu dosbarthu fel rhai a gadarnhawyd gan genoteipio. Fodd bynnag, fel yr ydym wedi nodi o’r blaen, mae disgwyl cynnydd cyflym dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.”
Mae'r dadansoddiad o achosion Omicron yn ôl ardal bwrdd iechyd fel a ganlyn.
Bwrdd Iechyd |
Cyfanswm o achosion |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
23 (+9) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
10 (+5) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
6 (+1) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
9 (+5) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
9 (+7) |
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
3 (+2) |
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
2 (+1) |
Cyfanswm |
62 (+30) |