Y Cyngor yn paratoi i gefnogi busnesau lleol
Postiwyd ar : 23 Rhag 2021
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn paratoi i gefnogi busnesau lleol y mae Omicron wedi effeithio arnyn nhw, yn dilyn y cyhoeddiad heddiw am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.
Mae cefnogaeth ariannol gwerth cyfanswm o £120 miliwn ar gael i fusnesau cymwys ledled Cymru, a bydd awdurdodau lleol yn anelu at ddechrau prosesu ceisiadau o 10 Ionawr 2022.
Bydd grantiau cymorth busnes newydd ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio gan y symudiad i rybudd lefel dau.
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerffili, “Mae gennym ni hanes rhagorol o brosesu’r amrywiol becynnau cymorth ariannol sydd wedi bod ar gael dros y 18 mis diwethaf.”
“Rydyn ni wedi talu mwy na £60 miliwn i fusnesau cymwys ers dechrau’r pandemig, felly rydyn ni’n barod i barhau gyda’r gefnogaeth hon yn y Flwyddyn Newydd.”
Mae disgwyl y bydd manylion y grantiau a'r broses ymgeisio ar gael i awdurdodau lleol ddechrau mis Ionawr.
I ddarllen cyhoeddiad llawn Llywodraeth Cymru ewch i:
£120 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan Omicron