Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Awst 2022
Glasbrint ar gyfer dyfodol mwy disglair
News Centre
Glasbrint ar gyfer dyfodol mwy disglair
Postiwyd ar : 08 Awst 2022
Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud mewn nifer o ddatblygiadau cyffrous a fydd yn helpu trawsnewid canol tref Caerffili dros y blynyddoedd i ddod.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a nifer o bartneriaid eraill i gyflwyno glasbrint uchelgeisiol gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer y dref o'r enw Rhaglen Llunio Lleoedd Tref Caerffili 2035.
Mae cynlluniau i ddatblygu cyfnewidfa drafnidiaeth newydd gwerth £30 miliwn yng nghanol y dref, ynghyd â buddsoddiad CADW o £5 miliwn ar gyfer gwaith datblygu yng Nghastell Caerffili, ac mae’r ddau yn brosiectau sy’n symud ymlaen yn gyflym.
Mae prosiect y gyfnewidfa drafnidiaeth gyhoeddus wedi symud ymlaen yn ddiweddar i'r cam cyflawni o ymgynghori. Mae'r cyhoedd wedi cael y cyfle i rannu barn ar y prosiect arfaethedig. Bydd y safbwyntiau hyn yn cael eu defnyddio i ffurfio cynnig a fydd yn gweddu i anghenion y gymuned.
Gwnaeth y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, sylwadau ar y cynnydd cadarnhaol sydd wedi’i wneud yn ystod y misoedd diwethaf:
“Yn ôl ym mis Ionawr, dadorchuddiodd Cyngor Caerffili lasbrint cyffrous ar gyfer trawsnewid canol tref Caerffili a’r ardal gyfagos yn y dyfodol. Chwe mis yn ddiweddarach, rydw i wrth fy modd â’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud i fwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn. Bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth yn ganolbwynt strategol hanfodol a fydd yn cysylltu canol y dref â’r seilwaith trafnidiaeth angenrheidiol i sefydlu Caerffili fel un o’r prif atyniadau i dwristiaid.
“Hefyd, rydyn ni newydd lansio nifer o geisiadau ‘Codi'r Gwastad’ uchelgeisiol gwerth cyfanswm o £80 miliwn a fydd, os yn llwyddiannus, yn helpu adfywio’r Fwrdeistref Sirol ehangach.
“Mae’n amlwg bod dyfodol canol tref Caerffili a’r Fwrdeistref Sirol ehangach yn ddisglair ac rydyn ni'n cymryd camau breision tuag at gyflawni ein glasbrint Caerffili 2035 ni.”
Gyda chymorth Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae cynnydd yn parhau i gael ei wneud i asesu dichonoldeb nifer o gynlluniau eraill i ddatblygu:
Datblygiad manwerthu a phreswyl cymysg mawr gwerth £15 miliwn yn Pentrebane Street, gyda'r Cyngor, ar hyn o bryd, yn edrych ar opsiynau i adleoli masnachwyr o'r farchnad dan do bresennol.
Creu datblygiad gwesty ‘bwtîc’ newydd yn Park Lane
Cynlluniau i greu ardal hamdden newydd uchelgeisiol yn cynnig cyfleoedd hamdden, manwerthu, masnachol a busnes newydd yng nghanol y dref.
Mae newyddion positif arall o ran y dref gydag agoriad swyddogol bragdy newydd Brew Monster. Mae hen uned Plumbsave yn Lôn-y-Twyn wedi’i hadnewyddu’n llwyddiannus ac mae’n nodi’r prosiect cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o raglen Caerffili 2035.
Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid Hinsawdd:
“Mae Rhaglen Caerffili 2035 yn ymwneud â symud canol tref Caerffili ymlaen, nid mater o setlo ar gyfer yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd. Rydyn ni am i Gaerffili ddod yn gyrchfan enwog i bobl y Fwrdeistref Sirol a'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r dref. Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf yw’r dechrau o’n taith ni tuag at gyflawni hyn.
“Agoriad bragdy Brew Monster yw’r cyntaf o nifer o brosiectau sydd wedi'u cyflawni ar gyfer yr ardal leol ac rydw i’n siŵr bod pobl leol eisoes yn mwynhau’r lleoliad newydd.
“Mae'r cynnydd sy’n cael ei wneud ar brosiect y gyfnewidfa drafnidiaeth a’r gwaith ailddatblygu parhaus yng Nghastell Caerffili i gynnwys canolfan groeso newydd gyda derbynfa, caffi ac ystafell gotiau; mannau eistedd y tu allan; gwell arddangosiad a dehongliad o'r ased hanesyddol; gwell darpariaeth manwerthu a swyddfa docynnau; a Neuadd Fawr ar ei newydd wedd wedi'i basio. Rydyn ni'n archwilio opsiynau ar gyfer marchnad newydd a rhagor o ddigwyddiadau yn y dref, ac mae llawer mwy o syniadau yn cael eu hystyried”.
Bydd rhagor o wybodaeth am y datblygiadau o fewn glasbrint Caerffili 2035 yn cael ei chyhoeddi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros y misoedd nesaf wrth i wahanol agweddau o'r cynllun yn symud yn eu blaen.
I weld manylion prosiectau Caerffili 2035, ewch i'r wefan bwrpasol hon:
www.caerphillytown2035.co.uk/cy/
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y