Teyrngedau i'r cyn Faer
Postiwyd ar : 23 Ebr 2024
Yn anffodus mae cyn Faer poblogaidd Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi marw ar ôl brwydr hir gyda salwch.
Bu farw’r Cynghorydd Dianne Price, a fu’n cynrychioli ward Bargod ers 2004, wedi’i hamgylchynu gan ei theulu ar 20 Ebrill.
Talodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, deyrnged i etifeddiaeth Dianne, “Mae cymuned Bargoed, a’r fwrdeistref sirol ehangach, wedi colli gwas cyhoeddus ymroddedig a weithiodd yn ddiflino i wella bywydau pobl leol. Roedd Dianne yn gymeriad lliwgar, hoffus a dreuliodd yr 20 mlynedd diwethaf yn cynrychioli Bargod ac roedd hi’n bencampwr dros y dref.”
“Fe fydd colled fawr ar ei hôl gan bawb oedd yn ei hadnabod ac mae ein meddyliau gyda theulu Dianne ar yr adeg drist iawn yma,” ychwanegodd.
Tyfodd Dianne, a oedd yn briod a gyda thri o blant, yn Cascade a symudodd i Fargod pan oedd yn 10 oed. Ar ôl gadael yr ysgol roedd ganddi amrywiaeth o swyddi, a'r hiraf ohonyn nhw oedd fel rheolwr ei siop Shoefayre leol, lle bu'n gweithio am 18 mlynedd.
Bydd manylion yr angladd yn cael eu cyhoeddi maes o law.