Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2024
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
News Centre
Trawsnewid bywydau trwy brosiect Allweddi Caerffili
Postiwyd ar : 22 Ebr 2024
Mae menter tai arloesol sydd wedi'i chydlynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i drawsnewid bywydau ac atal digartrefedd.
Mae prosiect Allweddi Caerffili yn helpu landlordiaid preifat i ddod o hyd i denantiaid tymor hir ar gyfer eu heiddo, ac yn atal digartrefedd. Ar hyn o bryd, mae 41 o landlordiaid wedi cofrestru gydag Allweddi Caerffili, gan gynnig 97 eiddo ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ers ei lansio ym mis Awst 2018, mae Allweddi Caerffili wedi llwyddo i ailgartrefu 271 o bobl. Mae bywyd un o'r tenantiaid a gafodd ei gartrefu drwy'r prosiect wedi ei drawsnewid. Roedd Michelle* wedi treulio amser yn y carchar, wedi'i ddilyn gan sawl mis mewn llety dros dro ac yna, oherwydd iechyd meddwl dirywiol, cafodd ei derbyn i'r ysbyty am 8 wythnos.
Pan gafodd ei rhyddhau o'r ysbyty, cafodd Michelle ei hailgartrefu drwy gynllun Allweddi Caerffili, lle cafodd ymweliadau wythnosol gan weithiwr cymorth tai. Ar ôl symud i’w heiddo newydd, dechreuodd hyder Michelle dyfu, a dechreuodd reoli ei harian a delio â’i gohebiaeth ei hun. Cafodd ymweliadau cymorth eu lleihau wrth i annibyniaeth Michelle gynyddu.
Dechreuodd Michelle wirfoddoli mewn caffi lleol ac, yn fuan, roedd hi'n teimlo'n barod i ddychwelyd i gyflogaeth. Mae hi bellach yn gweithio’n rhan amser i elusen leol sy’n cynorthwyo oedolion agored i niwed, gan gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol a chelf a chrefft. Dywedodd Michelle, “Fe wnaeth y cymorth a gafodd ei ddarparu gan Allweddi Caerffili fy helpu i gyrraedd y sefyllfa rydw i ynddo nawr. Mae fy rôl newydd wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas i mi ac wedi cael effaith gadarnhaol ar fy iechyd meddwl.”
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Dai, Cyngor Caerffili, “Allweddi Caerffili oedd y prosiect cyntaf o’i fath gan awdurdod lleol yng Nghymru. Mae wedi sicrhau canlyniadau gwych ac wedi atal llawer o bobl rhag dod yn ddigartref. Mae tai yn cael effaith enfawr ar iechyd corfforol a meddyliol, ac mae stori Michelle yn dangos y gwahaniaeth enfawr mae cael cartref diogel yn gallu ei wneud i fywydau pobl.”
I gael rhagor o wybodaeth am Allweddi Caerffili, ewch i:
www.caerphillykeys.co.uk/cy/
, e-bostio
AllweddiCaerffili@caerffili.gov.uk
neu ffonio 01443 873564.
*Enw wedi cael ei newid.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y