Rhybudd i drigolion Bargod am alwyr diwahoddiad yn cynnig ail-chwistrellu patios
Postiwyd ar : 26 Ebr 2024
Mae Safonau Masnach Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael gwybod bod galwr diwahoddiad yn ardal Bargod yn cynnig gwneud gwaith i ail-chwistrellu patios.
Dywedodd deiliad y cartref y bydden nhw’n ystyried y cynnig, ond dychwelodd y masnachwr i ddechrau gweithio pan nad oedden nhw gartref, gan roi gwybod i gymdogion y byddai'n dychwelyd yn ddiweddarach am ei daliad.
Ein cyngor ni yw peidio byth â delio â galwyr diwahoddiad ar stepen y drws.
Peidiwch byth â rhoi mynediad i alwyr diwahoddiad i'ch eiddo neu ardd na thalu ymlaen llaw am waith sydd heb ei gwblhau eto.
Peidiwch â chael eich rhoi dan bwysau i gytuno i waith y mae'r galwr yn dweud wrthoch chi sy'n angenrheidiol, ni waeth pa mor fach yw'r ffi.
Mae Safonau Masnach Caerffili yn cynnig sticeri dim galwadau diwahoddiad am ddim i breswylwyr. Mae modd eu cael drwy e-bostio safonaumasnach@caerffili.gov.uk.”
Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am drosedd ar stepen y drws a masnachwyr twyllodrus.