News Centre

​Terfynu contract menter cyllid preifat yn gallu arbed £2 filiwn bob blwyddyn

Postiwyd ar : 20 Ebr 2023

​Terfynu contract menter cyllid preifat yn gallu arbed £2 filiwn bob blwyddyn

Mae disgwyl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili arbed hyd at £2 filiwn y flwyddyn ar ôl cytuno i dynnu'n ôl o gontract hirsefydlog sy'n golygu bod cwmnïau preifat yn darparu gwasanaethau cymorth mewn dwy ysgol allweddol yn yr ardal.

Cafodd Ysgol Lewis Pengam ac Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar y safle yn Gelli-haf eu hadeiladu yn wreiddiol fel rhan o fenter cyllid preifat yn 2001. Mae'r math hwn o gontract menter cyllid preifat yn galluogi prosiectau i gael eu cyflawni drwy drefniant partneriaeth rhwng awdurdod lleol a buddsoddwyr preifat.

Er bod 9 mlynedd yn weddill o hyd ar y contract menter cyllid preifat gwreiddiol, mae'r Cyngor wedi nodi y bydd manteision allweddol i'w cael drwy derfynu'r contract yn gynnar.

Mae'r penderfyniad yn ymwneud â darparu gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau, glanhau, arlwyo a chynnal a chadw tiroedd yr ysgolion.

“Mae’n bwysig nodi bod y penderfyniad hwn yn effeithio ar wasanaethau cymorth penodol ac y bydd pob agwedd arall o ran addysgu a dysgu yn parhau heb gael eu heffeithio,” meddai’r Cynghorydd Carol Andrews, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros Addysg.

“Mae ein staff ni'n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â’r ddwy ysgol dros y misoedd nesaf, wrth i fanylion manylach y trefniadau newydd gael eu datblygu. Yn eu cyfanrwydd, bydd yr arbedion ar ôl terfynu'r contract hefyd yn helpu lleihau’r baich ariannol ar ystâd ein hysgolion dros y blynyddoedd nesaf,” ychwanegodd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob cyngor yng Nghymru sydd â chontractau menter cyllid preifat eu hadolygu er mwyn asesu a ydyn nhw'n parhau i gynnig gwerth am arian.

Mae'r Cyngor wedi nodi manteision ariannol sylweddol oherwydd y penderfyniad hwn a'r arwyddion cynnar yw y gallai'r arbedion cyllidebol i'r Cyngor fod tua £2 filiwn y flwyddyn. 



Ymholiadau'r Cyfryngau