Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2023
Perchennog Siop Pysgod a Sglodion Gorau Cymru yn Agor Ail Fwyty Gyda Chymorth gan Gyngor Bwrdeistref
News Centre
Perchennog Siop Pysgod a Sglodion Gorau Cymru yn Agor Ail Fwyty Gyda Chymorth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Postiwyd ar : 28 Ebr 2023
Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngwobrau Cenedlaethol Pysgod a Sglodion y Deyrnas Unedig 2023, lle cawson nhw eu cydnabod fel y gorau yng Nghymru, a’r ail gorau yn y Deyrnas Unedig gyfan, mae perchennog Fish Kitchen 1854 ar fin lansio ei fwyty pysgod a sglodion newydd ym Margod.
Cafodd Fish Kitchen 1854 ei enw fel ffordd o gydnabod treftadaeth leol Maes-y-cwmwr ac agoriad y draphont sy'n agos i’r siop pysgod a sglodion. Mae'r bwyty pysgod a sglodion newydd ym Margod yn dilyn thema debyg, gyda’r enw Fish Kitchen 1931, gan ddefnyddio’r dyddiad bu’r siop pysgod a sglodion cyntaf agor ar y safle yn 1931.
Mae'r camau terfynol nawr ar waith i greu profiad â thema er mwyn i ymwelwyr ddathlu eu treftadaeth a'r pyllau glo a oedd unwaith bobman ledled cymoedd De Cymru. Mae'r bwyty wedi cael ei adnewyddu'n llawn gyda llawr mesanîn uwchben y gegin. Bydd gan y bwyty ardal â bythau a byrddau, wedi'i dylunio yn ôl thema’r draphont, gyda phob bwth wedi'u henwi ar ôl y pyllau glo lleol. Bydd hanes y dref hefyd yn cael ei ddathlu, gyda sgriniau wrth bob bwth yn adrodd treftadaeth a hanes yr ardal.
Mae cynlluniau ar waith i wneud y bwyty yn lle sydd rhaid ymweld ag ef, sy'n cynnig profiad o safon uchel ac sy'n werth da am yr arian. Mae'r perchennog, Lee Humphreys, yn edrych ymlaen at dynnu sylw at beth sydd gan Fargod i'w cynnig, gyda chynlluniau i ddarparu mwy na beth sydd gan y rhan fwyaf o siopau pysgod a sglodion traddodiadol i’w cynnig. Mae yna hefyd gynlluniau i wneud cais am drwydded i weini alcohol yn y fangre a darparu danteithfwydydd môr o safon uchel.
Mae Fish Kitchen 1931 wedi derbyn dau grant gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig trwy eu Cronfa Ffyniant Gyffredin, gwerth cyfanswm o £50,000. Rhoddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili'r cyllid hwn i Fish Kitchen 1931 o gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Roedden nhw hefyd wedi derbyn grant pellach gwerth £10,000 gan Gronfa Fenter Caerffili a grant gwerth £25,000 gan y Gronfa Trawsnewid Trefi.
Bydd y fenter newydd yn creu rhwng 20 a 30 swydd mewn amrywiaeth o rolau yn y busnes ac mae cynlluniau ar waith i weithio'n agos gyda chyflenwir a busnesau lleol. Roedd sylw penodol wedi cael ei rhoi at ddefnyddio busnesau a masnachwyr lleol i ymgymryd â'r gwaith adnewyddu. Wrth i gamau olaf y gwaith cael eu cwblhau, mae gan y gymuned leol ddiddordeb mawr iawn, ac maen nhw'n cyfrif y dyddiau tan ei ddyddiad agor cynlluniedig ar 29 Mai.
Dywedodd y perchennog, Lee Humphreys, "Rydw i'n gyffrous iawn i agor y lle newydd hwn, gan roi profiad pysgod a sglodion ag elfen hanesyddol i Fargod. Diolch i'r cymorth gan Dîm Busnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, byddaf yn gallu creu swyddi newydd a recriwtio pobl leol yn ogystal â hyrwyddo'r dreftadaeth leol. Heb eu cymorth nhw, fyddwn ni ddim wedi gallu cyflawni ein cynllun. Mae'r Cyngor wedi bod yn allweddol wrth ein helpu ni i greu'r busnes newydd hwn."
Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd, "Roedd yn wych i siarad â Lee am ei gynlluniau ar gyfer The Fish Kitchen. Rydyn ni wedi bod wrth ein boddau i weithio'n agos ag ef gan gynnig cymorth ariannol, a fydd yn helpu tuag at greu'r fenter newydd, wych hon".
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y