Noson i groesawu gwesteion o Wcráin a’u gwesteiwyr
Postiwyd ar : 26 Ebr 2022
Baner genedlaethol yr Wcráin
Mae gwahoddiad i westeion o Wcráin i Fwrdeistref Sirol Caerffili a'u gwesteiwyr i fynychu noson arbennig o groeso a rhwydweithio yr wythnos nesaf.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cynnal noson ‘Croeso i Gaerffili’ yn ei bencadlys, Tŷ Penallta, ddydd Mawrth 3 Mai 2022 rhwng 5.30pm a 7.30pm.
Bydd noson Croeso i Gaerffili yn gyfle i gwrdd â chyd-westeiwyr a chyd-westeion, yn ogystal â chynnig amrywiaeth o gymorth, arweiniad a gwybodaeth gan nifer o wahanol sefydliadau a fydd wrth law i helpu gwesteiwyr a gwesteion dros y misoedd nesaf.
Yn dilyn croeso byr, bydd gwesteion yn cael eu gwahodd i ymweld â nifer o stondinau gwybodaeth gan wahanol sefydliadau, gan gynnwys:
- Adran Gwaith a Phensiynau – yn cynnig cymorth gyda cheisiadau budd-daliadau
- Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (ar gyfer unrhyw rai sy'n weddill)
- Derbyniadau ysgol Bwrdeistref Sirol Caerffili – gan gynnwys cymorth gyda cheisiadau am brydau ysgol am ddim, grantiau gwisg ysgol, cludiant ysgol ac ati
- Tîm Addysg i Oedolion a cholegau lleol – yn cynnig gwybodaeth a chymorth gyda Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a chyrsiau byr eraill sydd ar gael yn lleol
- Tîm Gofalu am Gaerffili'r Cyngor – yn tynnu sylw at y cymorth brysbennu sydd ar gael, cyfeirio at grwpiau cymunedol lleol a chyfleoedd gwirfoddoli
- Gwasanaethau Cymdeithasol – i ateb unrhyw ymholiadau neu gwestiynau am ddiogelu
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – yn cynnig gwybodaeth am gofrestru gyda meddyg teulu a phrosesau sgrinio
- A llawer mwy…
Bydd lluniaeth ysgafn hefyd yn cael ei ddarparu, a bydd cyfle gwych i westeiwyr a gwesteion gwrdd ag eraill, a helpu adeiladu ar y cyfeillgarwch a'r rhwydweithiau sydd eisoes yn dechrau sefydlu ledled y Fwrdeistref Sirol.
I gadarnhau eich presenoldeb chi, cysylltwch â’r tîm yn Ymgynghori@caerffili.gov.uk erbyn dydd Gwener 29 Ebrill 2022.