Parc Gwledig Bargod - Gwaith adfer wal ystlys afon
Postiwyd ar : 27 Ebr 2022
Mae Grŵp Prosiectau Peirianneg Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflogi Edwards Diving Services Ltd i wneud gwaith i ailosod cladin cerrig a gafodd ei ddifrodi gan stormydd ar hyd waliau ystlys yr afon ym Mharc Gwledig Bargod.
Mae cyllid ar gyfer y gwaith hwn wedi’i geisio a’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru. Bydd cyfyngiadau lleol ar y llwybrau cerdded yn yr ardal gyfagos yn cael eu gorfodi yn ystod y gwaith hwn er budd diogelwch y cyhoedd.
Y bwriad yw i’r gwaith ddechrau ar 6 Mai 2022 a dod i ben ar 19 Medi 2022, ac rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gall hyn achosi wrth i ni wneud y gwaith adfer hanfodol hwn.
Am bob ymholiad, cysylltwch â Rheolwr Prosiect Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Donald Grewar, ar 07768 701104 neu grewad@caerffili.gov.uk