Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Tanysgrifio
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Swyddi a hyfforddiant
Prydau ysgolion cynradd
Canolfannau Hamdden
Etholiad Cyffredinol 2024
Treth y Cyngor
Casgliad bin wedi'i golli
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth a chyngor
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Chwilio, olrhain a gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio
Diwrnodau casglu gwastraff
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
Ebrill 2022
Ymgyrch newydd yn galw ar yrwyr i fynd a'u sbwriel gartref
News Centre
Ymgyrch newydd yn galw ar yrwyr i fynd a'u sbwriel gartref
Postiwyd ar : 21 Ebr 2022
Caerffili yn ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i fynd i’r afael â sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd.
Mae Caerffili yn annog gyrwyr i gadw eu cydwybod a’n ffyrdd yn glir fel rhan o ymgyrch genedlaethol newydd.
Gyda mwy o gerbydau ar ein ffyrdd nag erioed o’r blaen ac arferion bwyta prydau cyflym yn dod yn fwy poblogaidd, mae sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd yn broblem gynyddol yn ledled y wald. Mae’n achosi niwed i’n hamgylchedd a’n bywyd gwyllt. Mae’n difetha’r golygfeydd hardd i bobl leol ac ymwelwyr, ac mae hefyd yn anodd, yn beryglus ac yn ddrud i’w glirio.
Mae ymchwil yn dangos bod 78% o bobl sy’n taflu sbwriel o’u cerbyd yn teimlo’n euog. Mae ymgyrch newydd Cadwch Gymru’n Daclus yn annog gyrwyr i beidio â gadael unrhyw beth ar eu hôl ac i fynd â’u sbwriel gartref.
Mae’r ymgyrch genedlaethol yn cael ei chynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol dan arweiniad Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.
Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: “Does dim esgus dros daflu sbwriel ar hyd ochr y ffordd. Nid yn unig y mae’n difetha ein gwlad brydferth, a’r peth cyntaf mae ymwelwyr yn ei weld weithiau wrth gyrraedd Cymru, ond mae hefyd yn cael effaith sylweddol ar ein hamgylchedd a’n bywyd gwyllt. Rydyn ni’n amcangyfrif bod y gost o gasglu a chael gwared ar sbwriel ar hyd ochr y ffyrdd yng Nghymru yn £3.5 miliwn o leiaf bob blwyddyn.
Mae ein hymgyrch newydd yn gofyn i chi wneud y peth iawn a rhoi'r brêcs ar daflu sbwriel drwy dynnu sylw at sut mae sbwriel yn gwneud i bobl deimlo. Mae’r mwyafrif helaeth o yrwyr yn gwybod bod taflu sbwriel o’u cerbyd yn annerbyniol, ac rydyn ni am i bawb beidio â gadael unrhyw beth ar eu hôl.
Pan fyddwch chi allan yn eich cerbyd, peidiwch â gadael unrhyw beth ar eich ôl. Cadwch eich cydwybod a’n ffyrdd yn glir drwy fynd â’ch sbwriel gartref neu ei roi yn y bin agosaf.”
I gael rhagor o wybodaeth ac i lwytho deunyddiau am ddim i lawr, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus:
https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/
Mae Caru Cymru wedi cael cyllid drwy gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Adolygu canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus Bwrdeistref Sirol Caerffili ar y Strategaeth Wastraff
Apêl y Cyngor ar ôl i 'nifer fawr' o offer gael ei ddwyn o’r depo yn Abercarn
Rhaglen flynyddol Sialens Ddarllen yr Haf yn dychwelyd ar gyfer 2024
Ysgolion yn dathlu llwyddiant yng Ngwobrau Ysgolion ac Addysg De Cymru 2024.
Dathlwch Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2024 y penwythnos hwn
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y