Cynllun cydraddoldeb strategol 2024-2028

Cyngor bwrdeistref sirol caerffili

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg, ac mewn ieithoedd a fformatau eraill ar gais.

This document is available in English, and in other languages and formats on request.

Rhagair

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn credu na ddylid gwahaniaethu yn erbyn neb na'i roi dan anfantais oherwydd ei hunaniaeth neu ei gefndir. Rydym eisiau bwrdeistref sirol lle mae pawb yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg ym mhob agwedd ar fywyd pob dydd.

Er ein bod yn ymdrechu i drin yr holl drigolion ac ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol yn gyfartal, rydym hefyd yn cydnabod bod gan bobl wahanol anghenion. Mae'r cynllun hwn yn ystyried y gwahanol anghenion hyn a'i nod yw sicrhau nad oes rhwystrau sy'n atal unrhyw un rhag cael mynediad at wasanaethau'r Cyngor.

Wrth i'n cymunedau newid, mae amrywiaeth yn fater allweddol i ni. Credwn ei bod yn ddyletswydd arnom i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac annog mwy o gydlyniant drwy greu cymunedau lle mae pawb yn teimlo ei fod yn cael ei barchu ac yn ddiogel rhag aflonyddu.

Rydym hefyd yn parhau i ymrwymo i sicrhau cydraddoldeb ym mhob agwedd ar ein gwasanaeth ac yn ein harferion cyflogaeth, sydd hyd yn oed yn bwysicach yn ystod yr amseroedd heriol hyn ac mewn hinsawdd ariannol mor anodd.

Bydd y cynllun yn cael ei fonitro bob blwyddyn er mwyn adolygu effaith y cynnydd a wnawn a bydd yr adroddiadau blynyddol yn parhau i gael eu cyhoeddi. Bydd yr adroddiadau hefyd yn cael eu cyhoeddi a'u hyrwyddo'n eang yn fewnol ac yn allanol er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r gwaith sy'n cael ei wneud.

Gobeithiwn eich bod yn cytuno bod y cynllun hwn yn parhau i ddatblygu'r gwaith cydraddoldeb ac amrywiaeth yr ydym wedi'i wneud hyd yma ac yn dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau parch a thegwch i bawb yn y Fwrdeistref Sirol.

Christina Harrhy

Prif Weithredwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyng Sean Morgan

Arweinydd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Adran 1 - amdanom ni

Mae bwrdeistref sirol Caerffili yn cwmpasu ardal sy'n ymestyn o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y gogledd, i Gaerdydd a Chasnewydd yn y de. Caiff yr ardal ei ffinio gan awdurdod lleol Merthyr Tudful yn y gogledd, Rhondda Cynon Taf yn y gorllewin a Blaenau Gwent a Thorfaen yn y dwyrain.

Rydym yn darparu gwasanaethau i tua 176,000 o drigolion sy'n byw ar draws cymysgedd o gymunedau trefol a gwledig, sy'n byw mewn 76,000 o aelwydydd. Dangosodd Cyfrifiad 2021 fod 40.9% o’n poblogaeth dros 50 oed; gwyddom y bydd y ffigur hwn yn cynyddu’n gymesur wrth i ddisgwyliad oes gynyddu.

Mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig mae gennym amrywiaeth gynyddol o ran ethnigrwydd ac hunaniaeth genedlaethol, ac mae mwy o bobl yn fwy agored i ddatgan eu hunaniaeth rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Mae gennym gyfran uwch o bobl heb unrhyw gymwysterau na chyfartaledd Cymru, 24.1% o gymharu â 19.9% ar gyfer Cymru, a chyfran is o bobl â chymwysterau lefel 4 neu uwch, 25.3% o gymharu â 31.5% ar gyfer Cymru. Fodd bynnag, mae gweithgaredd economaidd ein poblogaeth yn gymharol debyg i gyfartaledd Cymru gyda 53.2% o fenywod a 60.6% o wrywod mewn gwaith. Mae patrymau gwaith newidiol yn dangos bod 23.9% o bobl bellach yn gweithio o gartref yn bennaf, gyda 59.7% yn teithio i'r gwaith mewn car neu fan. Mae 4% o’n trigolion wedi gwasanaethu naill ai yn y lluoedd arfog rheolaidd neu wrth gefn yn y DU.

Y Cyngor yw'r 5ed cyngor lleol mwyaf yng Nghymru a dyma'r cyflogwr mwyaf yn yr ardal. Mae'r Cyngor yn cyflogi ychydig dros 8,000 o staff gyda 73% ohonynt yn byw yn y fwrdeistref sirol. Cânt eu cyflogi i amrywiaeth o rolau gwahanol o fewn meysydd gwasanaeth sy'n ffurfio'r Cyfadrannau canlynol:

  • Gwasanaethau Corfforaethol ac Addysg
  • Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
  • Economi a'r Amgylchedd

Arweinir y Cyfadrannau gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol sydd, ynghyd â’r Prif Weithredwr, a’r Dirprwy Brif Weithredwr, yn ffurfio’r Tîm Rheoli Corfforaethol sy’n goruchwylio’r gwaith o gyflawni busnes y Cyngor, gan gynnwys cyflawni’r cynllun hwn.

Mae'r Cyngor yn gweithredu arddull cabinet o lywodraeth leol a arweinir gan Arweinydd ac a gefnogir gan 9 Aelod Cabinet. Mae gennym 69 o Gynghorwyr etholedig sydd ag amrywiaeth o rolau, gan gynnwys cytuno ar fframwaith polisi’r Cyngor, treth y cyngor a’r gyllideb.

Mae'r Cyngor yn darparu dros 600 o wasanaethau i'r fwrdeistref sirol i sicrhau bod ein pobl a'n lleoedd yn ffynnu ac yn wydn. O gymorth blynyddoedd cynnar i ofal cymdeithasol, ysgolion i gartrefi gofal, diogelu'r amgylchedd ac isadeiledd, darparu tai cymdeithasol, cynllunio, diogelu'r cyhoedd, adfywio economaidd, a chynllunio trafnidiaeth ac ati. Mae ehangder ein cyfrifoldebau yn eang ac yn cynyddu.

Rydym yn wynebu heriau sylweddol, mae'r rhagolygon ariannol ar gyfer y Cyngor yn peri pryder difrifol, ac mae'r rhagamcanion ar gyfer cymorth ariannol y llywodraeth yn gwaethygu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'n rhaid i ni ail-lunio ac ail-drefnu ein gwasanaethau i sicrhau ein bod yn gallu wynebu'r heriau yn uniongyrchol a pharhau i gefnogi ein pobl a'n lle.

Mae datganiad cydraddoldeb y Cyngor yn nodi'r ymrwymiad hwn yn glir;

Mae'r Cyngor yn cydnabod bod gan bobl anghenion, gofynion a nodau gwahanol, a byddwn yn gweithio yn erbyn pob math o wahaniaethu drwy hyrwyddo cysylltiadau da a chyd-barch o fewn ein cymunedau, ein trigolion, ein haelodau etholedig, y rhai sy'n gwneud cais i ni am swyddi a'n gweithlu a rhyngddynt.

Byddwn hefyd yn gweithio i greu mynediad cyfartal at ein gwasanaethau i bawb, waeth beth fo'u tarddiad ethnig, rhyw, Oed, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, ailbennu rhywedd, credoau crefyddol neu ddiffyg cred, y defnydd o'r Gymraeg, iaith arwyddion Prydain neu ieithoedd eraill, cenedligrwydd, cyfrifoldeb am unrhyw ddibynyddion neu unrhyw reswm arall na ellir dangos bod cyfiawnhad drosto.

Mae parchu amrywiaeth yn allweddol wrth i'n cymunedau newid a datblygu yn yr 21ain ganrif. Rhaid inni barchu'r hyn a fu o'r blaen a'r cyflawniadau hyd at y pwynt hwnnw, ond rhaid inni hefyd dderbyn a pharchu bod pethau wedi newid ac yn parhau i esblygu. Rhaid inni barchu pawb sy'n byw neu'n gweithio yma, sy'n cynrychioli neu sy'n ymweld â'r fwrdeistref sirol.

Mae'n rhaid i wasanaethau'r Cyngor adlewyrchu'r anghenion amrywiol hyn ac mae gan y Cyngor gefndir cryf yn darparu gwasanaethau hygyrch mewn ffordd synhwyrol, bwyllog a chost-effeithiol. Mae cyllid llywodraeth leol yn cael ei herio o hyd ac mae’n rhaid ystyried yr effaith ar unigolion mwyaf bregus ein cymdeithas, drwy Asesiadau Effaith Integredig, y mae'r cynllun hwn yn gadarn o'u plaid.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i sicrhau ei fod yn cyflawni gwerth am arian o'i benderfyniadau caffael trydydd parti, gan gydnabod gwerth defnyddio dulliau caffael i gefnogi ei amcanion Diwylliannol, Cymdeithasol, Economaidd ac Amgylcheddol ehangach, mewn ffyrdd sy'n cynnig buddiannau hirdymor gwirioneddol i'r gymuned a wasanaethir ganddo a phobl Cymru, gan ar yr un pryd ystyried gwerth am arian.

Mae ein Rhaglen Gaffael yn strategaeth fyw, sy’n hyblyg ac yn addasadwy ac yn ymateb i'r amgylchedd newidiol; mae’n fodiwlaidd ei natur er mwyn gallu ei hadolygu'n hawdd a'i diweddaru bob blwyddyn yn unol â datblygiadau yn y tirlun caffael. Byddwn yn anelu at welliant parhaus er mwyn cyflwyno newidiadau gwirioneddol a gwella bywydau'r rheini sy'n byw ac yn gweithio yn ein bwrdeistref.

Bydd y Cyngor yn defnyddio ei brosesau caffael i feithrin newid cymdeithasol cadarnhaol lle y bo'n briodol. Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu Cod Ymarfer y Gadwyn Gyflenwi Foesegol a byddwn yn ei roi ar waith er mwyn meithrin amodau gwaith teg i bawb.

Bydd y cynllun yn cael ei fonitro bob blwyddyn i adolygu effaith y cynnydd a wneir gennym a byddwn yn parhau i gyhoeddi ein Hadroddiad Cydraddoldeb statudol. Bydd hefyd yn cael cyhoeddusrwydd ac yn cael ei hyrwyddo'n eang yn fewnol ac yn allanol er mwyn gwella ymwybyddiaeth o'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

Cyd-destun

Datblygwyd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn ar gyfer 2024-2028 i ddangos ymrwymiad y Cyngor i fodloni Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Mae'n amlygu cysylltiadau â'r ddeddfwriaeth a'r rheoliadau ar Safonau'r Gymraeg a materion Hawliau Dynol a sut mae'n ategu pedwar o'r saith nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru, sef Cymru iachach, Cymru sy'n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. Mae hefyd yn amlinellu sut y bydd y Cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i hybu cydraddoldeb a chynhwysiant i bob grŵp gwarchodedig.

Gan adeiladu ar ein gwaith cydraddoldeb blaenorol, mae'r cynllun yn esbonio i'r staff, y trigolion, y rhanddeiliaid a'r aelodau etholedig sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gyflawni ei ymrwymiadau cydraddoldeb a dal hefyd i fod yn sefydliad cynhwysol nad yw'n goddef gwahaniaethu o unrhyw fath.

Er mwyn ein helpu i ysgrifennu'r cynllun hwn, gwnaethom ymgysylltu â'n trigolion, ein staff, ein rhanddeiliaid a'n haelodau etholedig. Gwnaethom hefyd ddefnyddio amrywiaeth o wybodaeth am gydraddoldeb a'n helpodd i ddiffinio ein hamcanion cydraddoldeb ar gyfer y 4 blynedd nesaf, a thrwy wrando arnynt, gobeithio bod yr amcanion hyn yn ystyrlon ac y byddwn yn gallu eu cyflawni.

Gwnaethom edrych i weld pa flaenoriaethau yr oedd angen eu hystyried yn genedlaethol ac ar lefel y Cyngor, gan eu seilio ar y dystiolaeth a oedd ar gael i ni i gefnogi'r gwaith. Cynhaliwyd cryn dipyn o waith dros y blynyddoedd er mwyn asesu ein cynnydd yn erbyn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus drwy gynlluniau gwasanaeth a'r broses hunanasesu.

Gwnaethom ystyried ffynonellau gwybodaeth allanol fel adroddiadau gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a Llywodraeth Cymru, polisïau a blaenoriaethau, adroddiadau ymchwil ac ystadegau perthnasol eraill a oedd ar gael i'n helpu.

Mae nifer o adroddiadau allanol gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi ategu ac wedi dylanwadu ar ddatblygiad ein hamcanion cydraddoldeb ni.

A yw cymru’n decach? 2018 – y comisiwn cydraddoldeb a hawliau dynol

Amlinellodd adroddiad 2018 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, A yw Cymru'n Decach? 2018, y themâu canlynol, ac mae’r amcaniaon y Cynllun hwn wedi'u datblygu i gyd-fynd â'r themâu hyn:

  • Addysg
  • Gwaith
  • Safonau Byw
  • Iechyd
  • Cyfiawnder a Diogelwch Personol
  • Cymryd Rhan

Mae'r adroddiad yn nodi bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran gwneud Cymru'n decach, ond mae'n awgrymu bod llawer mwy o waith i'w wneud. Ffocws allweddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol oedd anfantais economaidd-gymdeithasol, anabledd, rhyw a hil ac adlewyrchwyd y rhain yn Amcanion Cydraddoldeb Strategol y Cyngor 2024-2028.

Mae'r cynllun Gweithredu yn Adran 2 yn nodi sut y mae'r amcanion cydraddoldeb a'r camau gweithredu yn gysylltiedig â'r themâu a nodwyd yn adroddiad A yw Cymru'n Decach? 2023.

A yw cymru’n decach? 2023 – y comisiwn cydraddoldeb a hawliau dynol

Adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach? Adroddiad 2023, y Monitor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yw’r adolygiad diweddaraf a’r cyntaf ers Brexit, y pandemig COVID-19 a dechrau’r argyfwng costau byw.

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg sy’n seiliedig ar dystiolaeth o gynnydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Fe’i trefnir gan y naw nodwedd warchodedig a gwmpesir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae pob un yn edrych ar y themâu canlynol yn fanylach:

  • Addysg
  • Gwaith
  • Safonau Byw
  • Iechyd
  • Cyfiawnder a Diogelwch Personol
  • Cyfranogiad

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys pennod sy’n canolbwyntio ar feysydd blaenoriaeth allweddol gan gynnwys hawliau dynol, statws economaidd-gymdeithasol a’r iaith Gymraeg.

Er mwyn helpu i wella'r camau gweithredu blynyddol, rydym hefyd yn croesawu unrhyw sylwadau cyffredinol, parhaus ar gynnwys, ansawdd a hygyrchedd y ddogfen ac ar effaith y camau gweithredu hynny ar y bobl a wasanaethir gennym a'r bobl a gyflogir gennym.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech wybod mwy am y gwaith y mae'r Cyngor yn ei wneud, cysylltwch â:

Tîm Cydarddoldeb a’r Gymraeg

Tŷ Penallta

Parc Tredomen

Ystrad Mynach

CF82 7PG

Ebost: cydraddoldeb@caerffili.gov.uk

Ffôn: 01443 864404 / 01443 864353

Deddfwriaeth

Deddf cydraddoldeb 2010

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dod â chyfreithiau gwrthwahaniaethu blaenorol ynghyd ac yn disodli'r cyfreithiau hynny, gan greu un Ddeddf. Mae'r Ddeddf yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sydd wedi disodli'r holl ddyletswyddau unigol a oedd ar waith yn flaenorol, sef cydraddoldeb o ran hil, anabledd a rhyw. Mae adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, sy'n gosod dyletswydd ar y Cyngor, a sefydliadau cyhoeddus eraill, i roi sylw dyladwy wrth wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni'r gofyniad i wneud y canlynol:

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio ac ymddygiad arall anghyfreithlon a waherddir gan y Ddeddf.
  • Hybu cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.
  • Meithrin cysylltiadau da rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.

Wrth hybu cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phersonau nad ydynt yn ei rhannu, mae'n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn gwneud y canlynol;

  • Dileu a lleihau'r anfanteision a wynebir gan bobl oherwydd eu nodweddion gwarchodedig.
  • Cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl o grwpiau gwarchodedig p'un a ydynt yn wahanol i anghenion pobl eraill ai peidio.
  • Annog pobl â nodweddion gwarchodedig i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus neu mewn gweithgareddau eraill lle nad oes nifer cymesur ohonynt yn cymryd rhan.

Mae'r trydydd nod yn cyfeirio at feithrin cysylltiadau da ac mae hyn yn golygu mynd i'r afael â rhagfarn a hybu dealltwriaeth rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phersonau nad ydynt yn ei rhannu. Gallai hyn olygu o dan rai amgylchiadau y caiff rhai pobl eu trin yn fwy ffafriol nag eraill, ar yr amod bod hynny o fewn darpariaethau'r Ddeddf.

Rhestrir naw nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

  • Ailbennu Rhywedd
  • Anabledd
  • Beichiogrwydd a Mamolaeth
  • Credydd neu Gred
  • Cyfeiriadedd Rhywiol
  • Hil
  • Oed
  • Priodas a Phartneriaieth Sifil
  • Rhyw

Yng Nghymru, mae dyletswyddau statudol penodol, sef rheoliadau sy'n nodi'r camau gweithredu y mae'n rhaid i'r Cyngor eu cymryd er mwyn cydymffurfio. Cyhoeddwyd y Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2011 ac maent yn cynnwys y meysydd canlynol:

  • Amcanion Cydraddoldeb – llunio a chyhoeddi set o amcanion cydraddoldeb sy'n bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Ymgysylltu – cynnwys pobl sy'n cynrychioli un nodwedd warchodedig neu fwy ac y mae ganddynt ddiddordeb yn y ffordd y mae'r Cyngor yn ymgymryd â'i swyddogaethau.
  • Asesiadau Effaith Cydraddoldeb – cynnal Asesiadau Effaith Cydraddoldeb a'u cyhoeddi ochr yn ochr ag adroddiadau y mae angen gwneud penderfyniadau yn eu cylch.
  • Gwybodaeth am Gydraddoldeb – casglu a chyhoeddi gwybodaeth am gydraddoldeb sy'n sicrhau cydymffurfiaeth â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Gwybodaeth am Gyflogaeth – casglu a chyhoeddi data monitro'r gweithlu bob blwyddyn.
  • Gwahaniaethau Cyflog – sicrhau bod gan y Cyngor amcan cydraddoldeb sy'n ymwneud yn benodol â gwahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau.
  • Hyfforddi Staff – hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a'r dyletswyddau penodol yng Nghymru. Defnyddio gweithdrefnau asesu perfformiad i nodi anghenion hyfforddi staff a'u diwallu.
  • Cynllun Cydraddoldeb Strategol – cyhoeddi cynllun cydraddoldeb strategol sy'n nodi Amcanion Cydraddoldeb y Cyngor ar gyfer bodloni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Caffael – wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau gan sefydliadau eraill, cynnwys amodau sy'n berthnasol i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus fel rhan o'r prosesau caffael.

Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol (cymru) 2015

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i sicrhau y caiff Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ei hystyried wrth ddarparu gwasanaethau ac ymgymryd â gweithgareddau. Mae'r Ddeddf yn rhoi egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith sy'n anelu at wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Bydd hyn yn ein helpu i greu Cymru yr ydym am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Er mwyn sicrhau bod pawb yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae'r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant, ac er y bydd cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor yn berthnasol i bob un o'r nodau llesiant, mae'r cynllun yn cefnogi cynnydd yn erbyn y 3 nod canlynol yn benodol:

  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru sy'n fwy cyfartal

Mae Egwyddor Datblygu Cynaliadwy'r Ddeddf yn rhoi gwybod i'r Cyngor beth i'w ystyried wrth gyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf. Wrth wneud penderfyniadau, mae'n rhaid i'r Cyngor ystyried yr effaith y gallai'r penderfyniad ei chael ar genedlaethau'r dyfodol. Er mwyn gwneud hynny, nodwyd pum ffordd o weithio y mae'n rhaid eu hystyried a'u rhoi ar waith wrth wneud penderfyniadau, sef:

  • Hirdymor – Pwysigrydd sicrhau cydnwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.
  • Atal – Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion.
  • Integreiddio – Ystyried sut gall amcanion llesiant y corf cyhoeddud effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’n hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.
  • Cydweithio – Gallai cydweithredu ag unrhyw berson arall (neu wahanol adrannau yn y corf ei hun) helpu’r corf i fodloni ei amcanion llesiant.
  • Cynnwys – Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflwani’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal maent yn ei gwasanaethu.

Defnyddiwyd y pum ffordd o weithio i lywio amcanion cydraddoldeb y Cyngor.

Mesur y gymraeg (cymru) 2011

Cyflwynwyd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i ddisodli Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac fel rhan o'r ddeddfwriaeth, yng Nghymru, mae gan y Gymraeg yr un statws cyfreithiol â'r Saesneg ac ni ddylid ei thrin yn llai ffafriol.

Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â set genedlaethol o Safonau'r Gymraeg a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ffurf Hysbysiad Cydymffurfio i'r Cyngor. Mae'r Hysbysiad Cydymffurfio yn nodi pa rai o'r 176 o safonau yn y ddeddfwriaeth sy'n gymwys i'r Cyngor, ynghyd ag unrhyw eithriadau a'u dyddiadau gweithredu.

Nid yw materion y Gymraeg wedi'u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ond, yn hytrach, mae ganddynt set o safonau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Cydnabuwyd ers amser bod yr agenda polisi cydraddoldeb ac agenda polisi'r Gymraeg yn ategu ei gilydd ac yn dylanwadu ar ei gilydd. Atgyfnerthir hyn ymhellach gan un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Gwneir datblygiadau sy'n ymwneud â'r Gymraeg yn gorfforaethol yn unol â nodau'r Mesur, a wnaeth y canlynol:

  • cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg;
  • creu system newydd o osod dyletswyddau ar gyrff i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • creu Comisiynydd y Gymraeg â phwerau gorfodi cryf er mwyn amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg i gael gafael ar wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg;
  • rhoi'r hawl i unigolion a chyrff apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir mewn perthynas â darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • creu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg er mwyn cynghori'r Llywodraeth ar ei strategaeth mewn perthynas â'r Gymraeg;
  • caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg gynnal ymchwiliadau swyddogol i achosion lle y ceir ymgais i ymyrryd â rhyddid siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd.

Mae pob un o’r saith nod llesiant yn rhan allweddol o sut y dylai Cymru edrych, ac er bod y saith nod yn bwysig ynddynt eu hunain, ni ddylid edrych arnynt yn unigol oherwydd eu bod i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd. Os edrychwn ar y saith nod o safbwynt y Gymraeg, gallwn weld sut mae’r Gymraeg yn rhan o, ac yn chwarae rhan ym mhob agwedd ar addysg, iechyd a gofal cymdeithasol, cydlyniant cymunedol, yr economi a mwy.

Roedd canllawiau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2018 o’r enw Safonau sy’n ymwneud â hybu’r Gymraeg, yn cynnwys enghraifft yn dangos sut mae’r saith nod llesiant yn berthnasol i’r Gymraeg. Am y rhesymau hyn y mae'r Gymraeg wedi'i hintegreiddio i'r Amcanion Cydraddoldeb a'r Iaith Gymraeg a'r Cynllun Gweithredu, ac wedi cael amcan cydraddoldeb corfforaethol ei hun.

Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

Ar 31 Mawrth 2021 daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru. Mae’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i ni, fel sefydliad, wrth wneud penderfyniadau strategol megis penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion, ystyried sut y gallai ein penderfyniadau helpu i leihau’r anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau canlyniadau gwell i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Bydd y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cefnogi hyn drwy sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau strategol:

  • ystyried tystiolaeth ac effaith bosibl
  • drwy ymgynghori ac ymgysylltu
  • deall barn ac anghenion y rhai yr effeithir arnynt gan y penderfyniad, yn enwedig y rhai sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol
  • croesawu her a chraffu
  • ysgogi newid yn y ffordd y gwneir penderfyniadau a'r ffordd y mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn gweithredu.

Cynllun gweithredu gwrth-hiliaeth cymru

Yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn datgan:

Ar ddechrau 2020, dechreuodd Llywodraeth Cymru weithio ar gynllun gweithredu ar gyfer cydraddoldeb hil, ar ôl galwadau gan Fforwm Hil Cymru, a sefydliadau eraill ar lawr gwlad. Fodd bynnag, bron ar unwaith, bu’n rhaid i’r gwaith ddod i ben oherwydd pandemig COVID-19. Wedyn, ym mis Mai 2020, syfrdanwyd pobl ledled y byd gan lofruddiaeth George Floyd. Taflodd y ddau ddigwyddiad oleuni ar yr hiliaeth systemig a wynebir gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill. Gwnaethant danlinellu’r angen i weithredu ar fyrder.

Drwy gydol y broses o ddatblygu’r cynllun, clywsom neges glir ynglŷn â’r diffyg ymddiriedaeth a deimlir gan lawer o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, o ran a fydd cyrff cyhoeddus yn gorfodi eu hawliau – hawliau cyfreithiol – ond hawliau nad ydynt yn cael fawr ddim effaith wirioneddol ar eu bywydau yn aml. Yn y cynllun newydd hwn, rydym yn amlinellu sut rydym wedi datblygu camau gweithredu ac iddynt fwy o ffocws, er mwyn ein helpu i wneud y newidiadau angenrheidiol, ac unioni systemau sydd wedi torri.

Mae Cyngor Caerffili yn cefnogi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru yn llawn a'i ddiben, ac wedi ymgorffori'r camau gweithredu perthnasol yn ein hamcanion cydraddoldeb.

Cynllun gweithredu lhdtc+ i gymru

Yng Nghynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn datgan:

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Mae’n nod uchelgeisiol, ond credwn y gallwn gefnogi holl bobl LHDTC+ Cymru i fyw eu bywydau i’r eithaf: i fod yn iach, yn hapus, a theimlo’n ddiogel.

Fel llywodraeth, safwn gyda’n cymunedau LHDTC+. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi’u hymgorffori yn ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu (Llywodraeth Cymru 2021a), yn elfen allweddol o’r Cytundeb Cydweithio (Llywodraeth Cymru 2021b) â Phlaid Cymru, a pham rydym wedi datblygu’r Cynllun Gweithredu uchelgeisiol hwn. Ein nod, drwy’r Cynllun hwn, yw dangos ein hymrwymiad clir i barchu, diogelu a chyflawni hawliau dynol holl bobl LHDTC+ Cymru (OHCHR 2022a).

Bydd y Cynllun hwn yn gweithredu fel y fframwaith ar gyfer datblygu polisi LHDTC+ yn y llywodraeth a chyda’n partneriaid. Mae’n nodi camau pendant y byddwn yn eu cymryd i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn ddiffuant, yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain.

Mae'r Cyngor yn llwyr gefnogi Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru a'i ddiben, ac mae wedi ymgorffori'r camau gweithredu perthnasol yn ein hamcanion cydraddoldeb.

Adran 2 – amcanion a chynllun gweithredu cydraddoldeb strategol

Amcan cydraddoldeb 1: mynediad at wasanaethau a gwybodaeth – deall a dileu'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau

Cyd-destun

Mae'r amcan hwn yn ffocysu ar ddarparu gwasanaethau hygyrch a chynhwysol i drigolion y fwrdeistref sirol. Byddwn yn cyflawni hyn drwy barhau i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau er mwyn nodi a dileu rhwystrau i wasanaethau. Mae rhai o’r hyn rydyn ni wedi’i gynllunio yn cynnwys creu canolfannau cymunedol, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a datblygu cyfleoedd teithio llesol ymhellach, a fydd yn galluogi ein cymunedau i fyw bywydau iachach a mwy egnïol.

Gall y rhwystrau sy'n cael eu profi gan grwpiau ac unigolion gynnwys cyrchu gwybodaeth mewn ieithoedd a fformatau priodol i ddiwallu eu hanghenion, anawsterau iechyd meddwl, trafnidiaeth, diweithdra neu fynediad at dechnoleg. Dylai meysydd gwasanaeth roi cynlluniau a strategaethau ar waith ar y cyd er mwyn mynd i'r afael yn llwyddiannus â'r rhwystrau a nodwyd a chael gwared arnyn nhw.

Mae grymuso grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig i allu cyrchu’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw yn ffocws allweddol i'r Cyngor. Cefnogir y gwaith hwn gan Dîm Gofal Caerffili y Cyngor. Mae Gofalu am Gaerffili yn ffordd wahanol o weithio sy’n symud i ffwrdd o drafodion i ‘beth sy’n bwysig i bobl’, gan newid gwerthoedd a systemau sefydliadol. Mae Gofalu am Gaerffili’n darparu dull newydd o ddarparu gwasanaethau gan ddarparu persbectif newidiol ar adeiladu pontydd gyda chymunedau, gan roi asedau unigol a chymunedol ar waith. Y weledigaeth hirdymor yw y bydd ystod lawer mwy o wasanaethau yn gweithio ar y cyd 'dan ymbarél' Gofalu am Gaerffili i gefnogi ymyrraeth gynnar ac atal i ddiwallu anghenion holl drigolion bwrdeistref Caerffili gyda ffocws ar leihau anghydraddoldebau a chefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein bwrdeistref.

Grŵp penodol a allai wynebu heriau wrth addasu i fywyd sifil a chael mynediad at wasanaethau yw’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd, sy’n cwmpasu unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac unigolion sy’n gysylltiedig â’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys aelodau o deuluoedd milwrol a dibynyddion. Mae mwyafrif helaeth y 2.8 miliwn o gyn-aelodau'r Lluoedd Arfog sy’n byw ym Mhrydain heddiw wedi addasu’n llwyddiannus i fywyd sifil, gan wneud defnydd da o’r sgiliau a’r profiad maen nhw wedi'u cael wrth wasanaethu yn y Lluoedd Arfog. Fodd bynnag, mae angen cymorth naill ai ar adeg rhyddhau neu flynyddoedd lawer wedyn i leiafrif sylweddol ohonyn nhw.

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac mae’n anrhydedd i fod wedi ennill Aur yn y Cynllun Cydnabod Cyflogwr Amddiffyn. Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl sy’n sicrhau y dylai’r rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, a’u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a’r gymdeithas y maen nhw'n eu gwasanaethu gyda’u bywydau.

Data perthnasol

Yn Nhrafodaeth Caerffili (Hydref 2022) teimlodd 93% y dylen ni gynyddu cyfleoedd i bobl fod yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Roedd 93% o ymatebwyr yn meddwl bod Mannau Gwyrdd a Pharciau yn bwysig i gael eu blaenoriaethu yng nghyllideb 2023, gyda 51% o’r 93% yn dweud eu bod nhw'n meddwl bod hyn yn bwysicach na’r llynedd.

Mae data Cyfrifiad 2021 yn dangos nad oes gan 20.3% o gartrefi yn y fwrdeistref sirol gar neu fan.

Mae data Cyfrifiad 2021 hefyd yn dangos bod 0.04% o bobl 3 oed a hŷn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu prif iaith.

Yn ôl data Cyfrifiad 2021 mae 6,350 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Yn yr adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach? 2023 yn nodi bod pobl rhwng 64-74 oed a’r rhai dros 75 oed yn sylweddol llai tebygol o fod â mynediad i’r rhyngrwyd gartref yn 2021-2022 na phob grŵp oedran iau. Fodd bynnag, cynyddodd cyfran y bobl mewn grwpiau oedran ôl-ymddeol sydd â mynediad i’r rhyngrwyd rhwng 2018-2019 a 2021-2022.

Themâu o ‘a yw cymru’n decach? 2023’

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion gwarchodedig perthnasol

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, Y Gymraeg

Dogfennau ategol

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent – Cynllun Llesiant 2023-2028

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 – Cyngor Caerffili

Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol – Cyngor Caerffili

Strategaeth Ddigidol i Gymru - Llywodraeth Cymru

Cynlluniau Teithio Llesol – Cyngor Caerffili

Strategaeth Adfywio – Cyngor Caerffili

Tîm Gofalu am Gaerffili – Cyngor Caerffili

Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog – Cyngor Caerffili

Census 2021 – British Sign Language - Signature

Datganiad Hygyrchedd – Cyngor Caerffili

‘A Yw Cymru’n Decach? 2023’ – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 

Camau gweithredu

1-2 flynedd

  • Diweddaru ac adolygu canllawiau staff ar ddatblygu gwybodaeth hygyrch
  • Cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG 2.1 AA)
  • Datblygu gwefan hygyrch newydd y Cyngor
  • Gweithio gyda meysydd gwasanaeth i sicrhau bod casglu data cydraddoldeb yn ystyrlon
  • Meysydd gwasanaeth i ymateb i bob cwyn sy’n ymwneud â chydraddoldeb mewn modd amserol, a dysgu oddi wrthyn nhw
  • Ymgorffori Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog wrth ddarparu gwasanaethau

2-3 blynedd

  • Gwaith parhaus i arolygu stoc adeiladau’r cyngor (gan gynnwys ysgolion) ar gyfer gwelliannau o ran mynediad

3-4 blynedd

  • Cyflawni ar egwyddorion y Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol
  • Cefnogi rhanddeiliaid i ‘helpu eu hunain’ trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth gynhwysfawr, gan gynnwys cyfeirio at wasanaethau eraill
  • Datblygu Hybiau Cymunedol i ddod â mynediad at wasanaethau'r Cyngor yn nes at gymunedau
  • Gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i gadw trefi yn gysylltiedig a gwella cyfleoedd teithio llesol rhwng cymunedau, fel y gall pobl gael mynediad at addysg, gwasanaethau, gwybodaeth, cyflogaeth a chymorth

Pam?

Cynhwysiant Digidol – Mae gwella sgiliau trigolion a staff yn golygu y byddan nhw’n gallu defnyddio gwybodaeth a chael gafael ar wybodaeth ar ffurf ddigidol, gan ddileu nifer o rwystrau a galluogi trigolion i chwarae mwy o ran. Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio, y newyddion, mynediad at gyfleoedd am swyddi, cyllid (bancio ar-lein), gwybodaeth am drafnidiaeth, opsiynau tai neu hyd yn oed brynu ar-lein. Bydd sgiliau digidol yn galluogi trigolion a staff i ddod o hyd i fanylion am wasanaethau'r Cyngor, ac i gael gafael ar wybodaeth gyfredol am ddatblygiadau a allai effeithio arnyn nhw, fel ymgynghoriadau, gwaith priffyrdd, digwyddiadau ac ati.

Monitro Cydraddoldeb – Bydd gwella'r ffordd y caiff gwybodaeth monitro cydraddoldeb ei chasglu yn nodi pa broblemau sy’n bodoli o fewn gwasanaethau, ac a yw trigolion â nodweddion gwarchodedig yn wynebu unrhyw broblemau neu'n cyrchu gwasanaethau’n gydradd. Bydd data monitro cydraddoldeb yn ein helpu ni i ddeall pwy yw ein cwsmeriaid a sut i deilwra ein gwasanaethau i ddiwallu eu hanghenion. Bydd casglu'r data hyn ar gyfer canmoliaeth a chwynion yn helpu i nodi'r meysydd lle rydyn ni’n gwneud yn dda a'r meysydd lle y mae angen i ni wella. Bydd y wybodaeth hon yn golygu y byddwn ni’n gallu darparu mynediad cydradd at wasanaethau a chael gwared ar y rhwystrau sy’n cael eu nodi.

Hygyrchedd – Bydd gwella ein hygyrchedd i gwsmeriaid, ac ad-drefnu ein pwyntiau mynediad, yn cefnogi ein Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol, gan gynnwys ad-drefnu pwyntiau cyswllt a rhifau, a digideiddio gwasanaethau cwsmeriaid. Mae ein camau i wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a mynediad rhwng cymunedau i’w gweld mewn amrywiaeth o Gynlluniau Tref, Teithio Llesol a Strategaeth Adfywio.

Amcan cydraddoldeb strategol 2: addysg, sgiliau a chyflogaeth – gwella cyfleoedd addysg, sgiliau a chyflogaeth i bawb

Cyd-destun

Prif nod yr amcan hwn yw sicrhau bod ein cymunedau mewn sefyllfa dda i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy sy'n talu'n dda fel modd o atal tlodi. Trwy sicrhau bod ein trigolion yn barod i fynd i'r amgylchedd gwaith, byddwn ni’n atal problemau hirdymor sy'n gysylltiedig â sgiliau isel ac anghyflogadwyedd.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â’n prosesau hunanwerthuso ein hunain, yn awgrymu bod y pandemig wedi effeithio’n fwy ar rai grwpiau o ddysgwyr nag eraill. Mae strategaeth addysg newydd y Cyngor, 'Dilyn Rhagoriaeth Gyda'n Gilydd' - Strategaeth Addysg 2022-2025, yn adlewyrchu'r pryderon hyn drwy gydnabod a chefnogi gwahanol grwpiau o ddysgwyr mewn ffordd briodol. Gweledigaeth y strategaeth yw y bydd yr holl blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n cael mynediad at addysg yn ‘Dilyn Rhagoriaeth Gyda’n Gilydd’.

Bydd cynyddu nifer y trigolion sy'n manteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn gyfraniad cadarnhaol at greu cymunedau cydlynol, gwydn a ffyniannus. Mae'r agenda sgiliau yn holl bwysig o ran datblygiad economaidd a ffyniant economaidd y wlad, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Y peth allweddol fydd canolbwyntio ar leihau nifer y bobl ifanc nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, gan gael gwared ar fwlch anweithgarwch economaidd; nodi'r bylchau a'r prinderau o ran sgiliau mewn sectorau blaenoriaeth, cynyddu nifer y prentisiaethau a gwella eu hansawdd; a gwella canfyddiad pobl o brentisiaethau fel llwybr i gyflogaeth sy’n talu’n dda.

Mae Cyngor Caerffili wedi datblygu model cymorth cyflogaeth unigol cadarn drwy ddarparu Cymunedau am Waith a Mwy (CaW+) a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) ar y cyd – Colofn Pobl a Sgiliau a ariennir gan Lywodraeth y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF neu’r Gronfa) yn rhan ganolog o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.

Mae CaW+ yn gweithredu fel y swyddogaeth cymorth cyflogadwyedd o fewn tîm cyflogadwyedd Cyngor Caerffili ar gyfer y rhai sy'n barod neu ar gael i weithio, neu sydd wedi cael eu hasesu fel rhai sydd bron yn barod i weithio. Bydd mentoriaid yn cefnogi pob cwsmer di-waith sydd â rhwystrau i gyflogaeth - Anweithgar yn Economaidd, Di-waith Tymor Byr, Di-waith Hirdymor, a NEET 16-24 oed (pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant), ar draws yr holl godau post ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae gan yr amcan hwn hefyd gysylltiadau â'r Amcanion Llesiant yn y Cynllun Corfforaethol yn benodol;

  • Amcan Llesiant 1 – Galluogi ein Plant i Lwyddo mewn Addysg
  • Amcan Llesiant 2 – Galluogi ein Trigolion i Ffynnu
  • Amcan Llesiant 4 – Galluogi ein Heconomi i Dyfu

Data perthnasol

Yn ôl data Cyfrifiad 2021, Caerffili oedd y trydydd mwyaf yng Nghymru o ran gostyngiad pwynt canran yng nghyfran y bobl 16 oed a hŷn (ac eithrio myfyrwyr amser llawn) a oedd yn ddi-waith (o 4.7% yn 2011 i 2.6% yn 2021). Mae’r data’n dangos bod 43% o’r boblogaeth 16 oed a hŷn yn y fwrdeistref sirol yn anweithgar yn economaidd. Mae'r data hwn yn cynnwys myfyrwyr a phobl wedi ymddeol.

Mae gennym ni gyfran uwch o bobl heb gymwysterau na chyfartaledd Cymru, 24.1% o gymharu â 19.9% ar gyfer Cymru, a chyfran is o bobl â chymwysterau lefel 4 neu uwch, 25.3% o gymharu â 31.5% ar gyfer Cymru.

Mae’r adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach? 2023 yn dangos bod data Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod 13.6% (14,200) o bobl ifanc 16–18 oed heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) ar ddiwedd 2021 o gymharu â 11.7% (11,900) ar ddiwedd 2020. Mae’r data hefyd yn dangos bod 16.3% ( Roedd 37,800) o bobl ifanc 19-24 oed yn NEET yn 2021 o gymharu â 15.8% (37,700) yn 2020. Cedwir llygad barcud ar effaith y pandemig a’r argyfwng costau byw, fel ar yr adeg adrodd roedd y rhain ddim yn hysbys eto.

Rhwng 2010-11 a 2019-20, roedd gan y grŵp oedran 55-64 yng Nghymru gyfradd cyflogaeth is na phob grŵp oedran iau. Yn ogystal â'r cyfraddau cyflogaeth isel, roedd gan y grŵp oedran hwn hefyd gyfraddau arbennig o uchel o anweithgarwch economaidd. Yn 2019, roedd 40.1% yn economaidd anweithgar.

Un o’r blaenoriaethau yng nghynllun cyflogadwyedd a sgiliau 2022 Llywodraeth Cymru yw creu 125,000 o brentisiaethau erbyn 2026. Rhan o gerrig milltir cenedlaethol y llywodraeth yw cael o leiaf 90% o bobl ifanc 16–24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050.

Themâu o ‘a yw cymru’n decach? 2023’

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion gwarchodedig perthnasol

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, y Gymraeg

Dogfennau ategol

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 – Cyngor Caerffili

Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd - Llywodraeth Cymru

Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr

Strategaeth Addysg – ‘Dilyn Rhagoriaeth Gyda’n Gilydd’ 2022–2025 - Cyngor Caerffili

Strategaeth Gwrthdlodi – Cyngor Caerffili

Gofalu am Gaerffili – Cyngor Caerffili

Tîm Cymorth Cyflogaeth – Cyngor Caerffili

‘A Yw Cymru’n Decach? 2023’ – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Camau gweithredu

1-2 flynedd

  • Cynllun Ailsefydlu i gyfeirio pobl at gyrsiau fel ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’ (ESOL) a chyrsiau sgiliau hanfodol eraill

2-3 blynedd

  • Darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant i helpu unigolion i ennill y sgiliau, y cymwysterau a'r profiad angenrheidiol i sicrhau cyflogaeth, yn enwedig plant ac oedolion sy’n agored i niwed
  • Mentoriaid i gynorthwyo dinasyddion trwy’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy i geisio am gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth
  • Mae trigolion yn derbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion lles cymdeithasol i’w galluogi i gynyddu incwm y cartref, rheoli dyled a datblygu sgiliau i wella eu gallu ariannol
  • Gweithio’n agos gydag ysgolion, yn enwedig y rhai sydd â chanolfannau adnoddau arbenigol ac Ysgol Cae’r Drindod, i sicrhau bod cymorth addysgol digonol ar gael

Pam?

Cyfleoedd o ran Sgiliau a Chyflogaeth – Drwy fynd i'r afael ag achosion tlodi a sicrhau bod ein rhaglenni grant gwrth-dlodi yn cydweithio, byddwn ni’n gallu cynnig y cymorth gorau posib i'r unigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Bydd cynyddu nifer y trigolion sy'n manteisio ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth yn gyfraniad cadarnhaol at greu cymunedau cydlynol, gwydn a ffyniannus, gan felly wella ansawdd bywyd ac iechyd y rheiny sy'n byw yn y fwrdeistref sirol.

Cyfleoedd Addysg – Mae’r Cyngor wedi rhestru’r ddau amcan canlynol yn ei Gynllun Corfforaethol newydd 2023-2028 ‘Galluogi ein Plant i Lwyddo mewn Addysg’ a ‘Galluogi ein Heconomi i Dyfu’ a fydd yn ein helpu i gyflawni rhai o’r camau gweithredu yn yr amcan hwn. Gweledigaeth strategaeth addysg newydd y Cyngor ‘Dilyn Rhagoriaeth Gyda’n Gilydd’; yw sicrhau bod pob plentyn, person ifanc ac oedolyn sy’n cael mynediad at addysg yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i gael mynediad i’r amgylchedd gwaith.

Fel awdurdod rydyn ni wedi ymrwymo i raglen fuddsoddi uchelgeisiol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Bydd dau o brosiectau cyntaf y rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B yn cynorthwyo’r Cyngor i ddiwallu anghenion ei ddysgwyr mwyaf agored i niwed a Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Amcan cydraddoldeb strategol 3: cymunedau cynhwysol – hybu a hwyluso cymunedau cynhwysol a chydlynol

Cyd-destun

Cydlyniant cymunedol, fel y’i diffinnir yng Nghynllun Cyflawni Cenedlaethol Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru, yw gallu pob cymuned i weithredu a thyfu'n gytûn yn hytrach na gwrthdaro. Mae gan Gyngor Caerffili hanes cryf o ymateb i heriau cydlyniant cymunedol, boed hynny’n ddyfodiad cymunedau newydd, yn atal radicaleiddio neu’n lliniaru tensiynau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ac eto, mae parhad a phegynnu’r ddadl wleidyddol, yn enwedig ynghylch materion fel Brexit a phatrymau mudo ehangach – ynghyd â chyffredinolrwydd y cyfryngau cymdeithasol – yn parhau i ddylanwadu ar sut mae cymunedau’n ymateb i newid.

Er mwyn i gymunedau ffynnu, rhaid bod – a chael ei weld fel bod – cyd-fynediad at gyfleoedd; sef y gred bod gan bob rhan o’r gymuned ran gyfartal yn ei llwyddiant a’i dyfodol, heb yr un rhan unigol o’r gymuned yn cael ei gweld fel un sy’n tanseilio cyfleoedd un arall a chred gyffredin mewn set o egwyddorion cyffredin:

  • lle y caiff amrywiaeth cefndiroedd ac amgylchiadau pobl ei gwerthfawrogi a'i hystyried mewn modd cadarnhaol;
  • lle caiff y rheiny o wahanol gefndiroedd gyfleoedd tebyg mewn bywyd;
  • lle y caiff cydberthnasau cadarn a chadarnhaol eu meithrin rhwng pobl o wahanol gefndiroedd ac amgylchiadau yn y gweithle, mewn ysgolion ac mewn cymdogaethau.

Mae’r weledigaeth hon yn cael ei chryfhau ymhellach gan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu Cydlyniant Cymunedol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru Llywodraeth Cymru, sydd oll yn adlewyrchu’r rôl y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae wrth feithrin cydlyniant cymunedol ac sydd felly wedi’u hymgorffori drwy’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol hwn.

Wrth gyfeirio at 'gymunedau', yn aml rydyn ni’n disgrifio ardal ddaearyddol, ond mae modd hefyd ddefnyddio'r term cymuned i ddiffinio unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig (er enghraifft, ethnigrwydd neu ddiwylliant, grŵp oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, iaith, rhywedd) neu ddiddordebau.

Data perthnasol

Yn ôl data Cyfrifiad 2021 roedd 97.7% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Wyn gyda 2.3% ym mhob grŵp ethnig arall gyda’i gilydd.

O’r trigolion 16 oed a hŷn, dywedodd 2.5% o’r boblogaeth nad oedd eu cyfeiriadedd rhywiol yn heterorywiol, gyda 6.6% arall o’r boblogaeth heb ateb y cwestiwn. Dyma’r tro cyntaf i’r cwestiwn hwn gael ei ofyn mewn cyfrifiad.

Fel yr adroddwyd yn adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach? 2023’, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru (NSW), yn 2021-22 roedd Cristnogion yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn fodlon iawn â’u hardal leol na’r rhai heb Grefydd. Yn yr un cyfnod, dywedodd 58% o oedolion Cristnogol eu bod yn fodlon iawn â'u hardal leol, o gymharu â 51% o'r rhai heb Grefydd.

Canfu dadansoddiad NSW hefyd fod ymatebwyr heterorywiol yn 2018/19 yn fwy tebygol (72.6%) o gytuno eu bod yn perthyn i’w cymuned leol na’r holl ymatebwyr eraill (63.2%). Roedd oedolion heterorywiol hefyd yn fwy tebygol (72%) o deimlo'n ddiogel na'r holl oedolion eraill (64%).

Mae menywod yn sylweddol llai tebygol o deimlo’n ddiogel yn eu cymuned leol na dynion ac yn teimlo’n llai diogel yn 2021/22 nag yn 2016/17. Mae data NSW ar gyfer 2021/22 yn dangos bod 51% o fenywod yn teimlo’n ddiogel gartref ac yn cerdded neu’n teithio yn yr ardal leol (56% yn 2016/17) o gymharu ag 81% o ddynion (82% yn 2016/17).

Ceir tystiolaeth o ddata yn yr adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach? 2023 sydd yn dangos bod yr holl droseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru rhwng 2018-19 a 2021-22 wedi cynyddu o 3,932 i 6,295. Yng Nghymru, cofnodwyd 1,074 o droseddau a waethygwyd gan hiliaeth neu grefydd gan yr heddlu yn 2017-2018 gyda’r ffigwr hwn yn cynyddu i 2,934 yn 2021/22.

Themâu o 'a yw cymru'n decach? 2023'

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion gwarchodedig perthnasol

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, y Gymraeg

Dogfennau ategol

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 – Cyngor Caerffili

‘A Yw Cymru’n Decach? 2023’ – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – Llywodraeth Cymru

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (ArWAP) – Llywodraeth Cymru

Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru – Llywodraeth Cymru

Cynllun Gweithredu Cydlyniant Cymunedol – Llywodraeth Cymru

Camau gweithredu

1-2 flynedd

  • Y Cyngor i gynnig hyfforddiant gwrth-hiliaeth a dim goddefgarwch i bob grŵp staff ac aelodau etholedig ar ddeall a herio hiliaeth yn barhaus
  • Sicrhau bod rhaglenni cyflogadwyedd yn gynhwysol ac yn bodloni anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig
  • Parhau i gynorthwyo a chynnal hawliau a buddiannau gorau plant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hunain
  • Sicrhau bod gwasanaethau digartrefedd yn cynnwys anghenion penodol pobl LHDTC+
  • Darparu hyfforddiant cydraddoldeb sy'n cynnwys anghenion pobl LHDTC+
  • Parhau i gefnogi'r Gymuned LHDTC+ drwy gynnal Pride Caerffili blynyddol ein hunain
  • Swyddog Cymunedau Oed Gyfeillgar i barhau i adeiladu perthnasoedd gyda sefydliadau sy’n cynrychioli pobl a gyda thrigolion hŷn

2-3 blynedd

  • Annog a chynorthwyo staff i fynychu unrhyw hyfforddiant cydraddoldeb a’r Gymraeg

3-4 blynedd

  • Sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i fod yn gynhwysol o bobl LHDTC+

Pam?

Mae Cymru o gymunedau cydlynus yn un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n sicrhau bod cydlyniant yn parhau wrth wraidd dull gweithredu'r Cyngor a chyrff cyhoeddus eraill wrth roi polisïau ar waith a darparu gwasanaethau nawr ac yn y dyfodol. Mae’r Ddeddf, Cynllun Cyflawni Cenedlaethol, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru Llywodraeth Cymru, yn gweithio law yn llaw, gan ddilyn yr un egwyddorion o ran integreiddio, cydweithio a chyfranogiad, a gan sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yn parhau'n ymatebol i anghenion lleol. Mae’r camau gweithredu yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor yn cyd-fynd â’r camau gweithredu yn y cynlluniau hyn, ac yn dangos sut y byddwn ni’n parhau i feithrin cysylltiadau da a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb â gwreiddiau dwfn yn ein cymunedau.

Amcan cydraddoldeb strategol 4: ymgysylltu cynhwysol ac effeithiol – ymgysylltu’n effeithiol gyda’n cymunedau, goresgyn rhwystrau i ymgysylltu a chefnogi ac annog yr holl drigolion i leisio eu barn.

Cyd-destun

Mae ein “Fframwaith Ymgynghori ac Ymgysylltu” yn nodi ein hymagwedd ar gyfer dealltwriaeth gyffredin i wella prosesau ymgysylltu ymhellach ar draws y sefydliad. Mae’n diffinio ymgysylltu fel unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud sy’n rhoi gwybod i ddinasyddion am yr hyn rydyn ni’n ei wneud, neu sy’n cynnwys dinasyddion ym mhroses benderfynu’r Cyngor.

Mae'r fframwaith hwn wedi’i ategu gan yr Egwyddorion Cenedlaethol ar Gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd yng Nghymru a’r Gyfraith Ymgynghori

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED) penodol i Gymru fel sydd wedi’i nodi yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i’r Cyngor gynnwys pobl y mae’n ystyried sy’n cynrychioli un neu fwy o’r grwpiau gwarchodedig ac sydd â diddordeb yn y modd y mae corff cyhoeddus yn cyflawni ei swyddogaethau.

Er mwyn cefnogi ymgysylltiad cymunedol effeithiol, cryfhau perthnasoedd a chydweithio â’n cymunedau i ddylunio a darparu gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion orau, mae angen i ni ddeall a chael gwared ar y rhwystrau o ran ymgysylltu. Tra bo datblygiadau mewn technoleg yn ein galluogi i ddarparu gwybodaeth mewn fformatau digidol, mae rhwystrau’n parhau i fodoli sy’n atal trigolion rhag ymgysylltu â ni, e.e. trafnidiaeth, iechyd meddwl, statws economaidd-gymdeithasol, sgiliau llythrennedd a rhifedd isel ac ati. Mae angen i ni sicrhau bod gwahoddiadau i ymgysylltu yn hygyrch ac wedi'u targedu at y bobl briodol, a bod gan bobl fynediad hawdd at wybodaeth berthnasol sydd wedi'i theilwra i ddiwallu eu hanghenion – bod y deunyddiau sy’n cael eu darparu yn berthnasol, yn briodol ac yn ddealladwy ac ar gael mewn ieithoedd a fformatau gwahanol.

Mae capasiti a gallu gwahanol randdeiliaid i gymryd rhan yn amrywio. Bydd gweithio gyda chymorth sefydliadau partner sydd â phrofiad o gynorthwyo grwpiau penodol yn gwella ein hymgysylltiad.

Mae ymgysylltu cynhwysol ac effeithiol yn allweddol i'n helpu ni i gyflawni pob un o'r amcanion llesiant yng Nghynllun Corfforaethol 2023-2028 y Cyngor.

Data perthnasol

Mae dadansoddiad llawn o randdeiliaid yn cael ei gynnal ar ddechrau pob ymarfer ymgynghori/ ymgysylltu i sicrhau bod pawb a allai gael eu heffeithio neu sydd â diddordeb penodol mewn cymryd rhan yn cael eu hannog a'u galluogi i wneud hynny. Bydd y dadansoddiad rhanddeiliaid yn nodi gwahanol grwpiau ac unigolion ac yn caniatáu ar gyfer ymgysylltu wedi'i dargedu yn seiliedig ar bwnc yr ymgynghoriad (fel sydd wedi'u nodi gan Asesiad Effaith Integredig). Yn ystod y cyfnod ymgynghori ac ymgysylltu, rydyn ni'n gallu monitro cyfranogiad gwahanol grwpiau, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig, a lle bo angen, targedu ymhellach y grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli, yn enwedig pan fyddant nhw wedi’u nodi fel rhanddeiliaid allweddol.

Themâu o 'a yw cymru'n decach? 2023'

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion gwarchodedig perthnasol

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, Y Gymraeg

Dogfennau ategol

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 – Cyngor Caerffili

‘A Yw Cymru’n Decach? 2023’ – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 – Llywodraeth Cymru

Strategaeth Cwsmeriaid a Digidol 2019-2023 – Cyngor Caerffili

Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu 2019-2022 – Cyngor Caerffili

Fframwaith Ymgynghori ac Ymgysylltu 2020-2025 – Cyngor Caerffili

Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc – Llywodraeth Cymru

Camau gweithredu

  • Adolygu a chryfhau prosesau mewnol ar gyfer cynnal Asesiadau Effaith Integredig (AEI) ac ymgynghoriad cysylltiedig – sicrhau bod yr AEI yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer nodi’r bobl y mae angen i ni eu targedu (rhanddeiliaid) wrth ymgysylltu ar bynciau penodol
  • Archwilio sgiliau a datblygu hyfforddiant i sicrhau bod gan staff y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ymgysylltu'n effeithiol â chymunedau
  • Nodi rhwystrau sy'n atal ymgysylltu llawn ac effeithiol â rhanddeiliaid; a nodi'r camau gweithredu sydd eu hangen i gael gwared ar y rhwystrau hynny
  • Adolygu a diweddaru ein grwpiau rhanddeiliaid allweddol ar draws y fwrdeistref sirol sy'n cynrychioli grwpiau â nodweddion gwarchodedig a chryfhau ein perthynas â sefydliadau partner a rhanddeiliaid perthnasol.
  • Monitro hygyrchedd, cynhwysiant ac amrywiaeth ein hymgysylltiad i wneud yn siŵr ein bod yn clywed lleisiau pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol a phrofiadau byw, gan gynnwys pobl heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Adolygu a chryfhau prosesau mewnol i sicrhau ein bod ni'n cynllunio ein hymgysylltiad i wneud gwahaniaeth trwy gyfleu pwrpas yr ymgysylltu (sut y gallen nhw a'u cymunedau elwa) a'r broses yn glir. e.e. trwy'r gweithgor ymgynghori ac ymgysylltu mewnol, llwyfan newydd “Trafodaeth Caerffili”.

Pam?

Mae barn trigolion a rhanddeiliaid yn ganolog o ran llywio prosesau gwneud penderfyniadau’r Cyngor ac wrth helpu i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i ddiwallu anghenion ein cymunedau yn y ffordd orau bosibl. Wrth i ni wynebu heriau ariannol parhaus, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni'n gweithio gyda’n cymunedau ar draws ein bwrdeistref sirol i’w cefnogi i leisio eu barn.

Amcan cydraddoldeb strategol 5: y gymraeg – sicrhau bod modd i’r cyhoedd sy'n siarad cymraeg gael mynediad at wasanaethau ay'n cydymffurfio â'r gofynion statudol

Cyd-destun

Nid yw materion y Gymraeg wedi'u cynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010 ond mae ganddyn nhw gyfres o safonau o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r rhain wedi’u manylu yn y rheoliadau sydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru fel Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015.

Mae arferion gweithio mewnol yn parhau i ddatblygu i sicrhau bod yr egwyddor o gydraddoldeb ieithyddol yn cael ei pharchu ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau. I helpu'r Cyngor i fodloni gofynion Safonau'r Gymraeg ac i ddiwallu anghenion y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg yn y fwrdeistref sirol, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel: Menter Iaith Caerffili, Fforwm Iaith, ysgolion cyfrwng Cymraeg ac ati. Mae manylion ar y gwaith hwn yn Strategaeth Cymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 y fwrdeistref sirol.

Rhaid i ni gydymffurfio â holl Safonau’r Gymraeg cytunedig, yn unol â'r manylion yn Hysbysiad Cydymffurfio'r Cyngor er mwyn sicrhau bod modd i'r boblogaeth Gymraeg ei hiaith, boed yn staff, yn drigolion, yn fyfyrwyr neu'n ymwelwyr, cael mynediad at wasanaethau'r Cyngor yn Gymraeg.

Data perthnasol

Roedd data gweithlu’r Cyngor, hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2023, yn dangos bod gan 24.6% o’r gweithwyr (gan gynnwys staff mewn ysgolion) sgiliau Cymraeg gradd 1-5 yn seiliedig ar Fframwaith ALTE (Cymdeithas Profwyr Iaith Ewrop).

Yn ôl y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion 2023, mae 16.9% o boblogaeth ysgolion Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Yn 2021, roedd tua 1,400 llai o drigolion Caerffili a oedd yn siarad Cymraeg (dros dair blwydd oed) o gymharu â 2011. Cynyddodd nifer y bobl nad oeddent yn siarad Cymraeg gan 150. How life has changed in Caerphilly: Census 2021 (ons.gov.uk). Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), arhosodd canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerffili ar 10.5% yn 2021.

Themâu o 'a yw cymru'n decach? 2023’

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion gwarchodedig perthnasol

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, y Gymraeg

Dogfennau ategol

Hysbysiad Cydymffurfiaeth Safonau’r Gymraeg - Cyngor Caerffili

Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 - Cyngor Caerffili

Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 - Llywodraeth Cymru

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022-23 - Cyngor Caerffili

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 – Cyngor Caerffili

‘A Yw Cymru’n Decach? 2023’ – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Camau gweithredu

1-2 flynedd

  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ac argaeledd darparu gweithgareddau cyfrwng Cymraeg i deuluoedd
  • Gweithio gyda phobl ifanc i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg fel sgìl gwerthfawr ar gyfer hyfforddiant a chyflogaeth
  • Gweithio gyda phartneriaid i gynnal ffeiriau swyddi a dilyn i fyny gyda sesiynau o gyfweliadau ffug a chodi ymwybyddiaeth o wefannau swyddi gwag
  • Gweithredu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn fewnol ar gyfer staff ac aelodau etholedig

2-3 blynedd

  • Partneriaeth ranbarthol gyda chynghorau, Fforwm y Gymraeg mewn Addysg, a Fforwm yr Iaith Gymraeg yn cydweithio i gynllunio gweithgareddau cyfrwng Cymraeg a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg
  • Cefnogi grwpiau cymunedol i brif ffrydio defnydd y Gymraeg a rhoi cyfle i siaradwyr newydd ddefnyddio’r Gymraeg bob dydd

3-4 blynedd

  • Cynnal data Sgiliau Cymraeg ar y system gyflogres fewnol
  • Datblygu Cynllun Busnesau Cyfeillgar i’r Gymraeg newydd i annog a chefnogi busnesau lleol i ddefnyddio rhagor o Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau

Pam?

Cyfathrebu a Hygyrchedd – Rhaid bod gwybodaeth ar gael yn ddwyieithog fel sy'n ofynnol gan Safonau'r Gymraeg. Byddwn ni’n ystyried anghenion siaradwyr a dysgwyr Cymraeg wrth ddarparu unrhyw ohebiaeth. Wrth ymgynghori â thrigolion a darparu gwasanaethau rheng flaen, rhaid bod staff yn meddu ar y sgiliau Cymraeg gofynnol i ddarparu gwasanaethau fel sy'n ofynnol gan Safonau'r Gymraeg. Drwy roi cyhoeddusrwydd i wasanaethau dwyieithog y Cyngor, byddwn ni’n cynyddu'r galw am y gwasanaethau hynny ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Strategaeth Cymraeg Pum Mlynedd y fwrdeistref sirol a Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 Llywodraeth Cymru.

Llais – Ymgysylltu ac ymgynghori â grwpiau a sefydliadau Cymraeg lleol, fel Y Fforwm Iaith, Menter Iaith Caerffili, yr Urdd ac ati. Annog trigolion sy'n siarad Cymraeg i ymaelodi â Phanel Safbwynt y Cyngor er mwyn sicrhau ei fod yn gynrychioliadol. Bydd dulliau cyd-gynhyrchu yn helpu i feithrin cydberthnasau â siaradwyr a dysgwyr Cymraeg er mwyn iddyn nhw deimlo bod modd iddyn nhw ddylanwadu ar benderfyniadau a gwneud penderfyniadau am y gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn gallu helpu'r Cyngor i nodi enghreifftiau o arferion da a meysydd lle mae angen gwella.

Cael Gwared ar Rwystrau – Bydd gweithio mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau cyfrwng Cymraeg yn ein helpu i gyfathrebu â chynulleidfa ehangach. Bydd yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau i aelodau o'n cymuned, sydd o bosib o'r farn nad yw'r Cyngor yn darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Dylai meysydd gwasanaeth fwrw ati i roi cyhoeddusrwydd i'r gwasanaethau dwyieithog sydd ar gael, gan sicrhau bod siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn teimlo'n rhan o'r gymuned y maen nhw’n byw ynddi a bod modd iddyn nhw gael mynediad at wwasanaethau gan ddefnyddio eu dewis iaith heb orfod gofyn i wneud hynny.

Amcan cydraddoldeb strategol 6: gweithlu cynhwysol, amrywiol a chyfartal – creu gweithlu sy'n adlewyrchu ac yn parchu amrywiaeth y cymunedau yn y fwrdeistref sirol

Cyd-destun

Bydd creu gweithle a hyrwyddo diwylliant sy'n ddiogel a chynhwysol a lle gall pob unigolyn deimlo'n ddiogel a chael ymdeimlad o berthyn yn hybu amgylchedd gwaith cadarnhaol. Mae'r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u grymuso, sy'n eu galluogi i roi gwasanaethau o safon i'n trigolion.

Mae arnon ni angen gwell dealltwriaeth o amrywiaeth ein gweithlu. I wneud hyn, mae'n hanfodol casglu data monitro cydraddoldeb. Rhaid casglu'r data ar ddechrau'r broses gyflogi, ac ar bob cam o gylch bywyd y gweithiwr, i sicrhau bod ein harferion recriwtio a’n datblygiad polisi yn deg ac yn gynhwysol.

Mae tegwch yn y gwaith a pherfformiad da yn y swydd yn mynd law yn llaw. Mae mynd i'r afael â gwahaniaethu yn helpu i ddenu, ysgogi a chadw staff ac yn gwella enw da sefydliad fel cyflogwr cynhwysol.

Mae hyfforddiant Cydraddoldeb a’r Gymraeg yn rhoi'r sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar staff i ymgysylltu'n sensitif â thrigolion. Mae gwella sgiliau'r staff fel bod ganddyn nhw ymwybyddiaeth o nodweddion gwarchodedig yn sicrhau bod trigolion ag anghenion penodol yn derbyn gwasanaethau sy'n hygyrch ac sy'n cydymffurfio â'r gofynion.

Mae Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru (ArWAP) Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiadau i wella recriwtio ac amodau ar gyfer gweithwyr o leiafrifoedd ethnig ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys safon cydraddoldeb hiliol gweithlu newydd i fynd i’r afael â phrofiadau gwael gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol lleiafrifoedd ethnig.

Data perthnasol

Yn ôl data Cyfrifiad 2021 roedd 97.7% o boblogaeth Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Wyn gyda 2.3% o bob grŵp ethnig arall gyda’i gilydd.

Roedd data gweithlu’r Cyngor, hyd at ac yn cynnwys 31 Mawrth 2023, yn dangos bod gan 24.6% o’r gweithwyr (gan gynnwys staff mewn ysgolion) sgiliau Cymraeg gradd 1-5 yn seiliedig ar Fframwaith ALTE (Cymdeithas Profwyr Iaith Ewrop). Dangosodd yr un data fod gan 38 aelod o staff Sgiliau Iaith Arwyddion Prydain.

Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru (NSW) yn 2019-20 mai lleiafrifoedd ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd Gwyn) sydd fwyaf tebygol o brofi gwahaniaethu yn y gwaith (28%), o gymharu â grwpiau lleiafrifol Gwyn (21%) a gweithwyr Gwyn Prydeinig (9%).

Mae pobl anabl yn gyson yn llawer llai tebygol o gael eu cyflogi na phobl nad ydynt yn anabl. Mae oedolion anabl hefyd yn fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar nag oedolion nad ydynt yn anabl (yn 2019-20), fodd bynnag, culhaodd y bwlch hwn mewn anweithgarwch economaidd rhwng 2013/14 a 2019/20. Mae oedolion anabl hefyd yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith, ac ni ddangosodd maint y bwlch unrhyw newid sylweddol rhwng 2013-14 a 2019-20.

Themâu o 'a yw cymru'n decach? 2023'

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cyfiawnder a Diogelwch Personol, Cymryd Rhan

Nodweddion gwarchodedig perthnasol

Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol, Y Gymraeg

Dogfennau ategol

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 – Cyngor Caerffili

‘A Yw Cymru’n Decach? 2023’ – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Lefel 2 Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd

Hysbysiad Cydymffurfiaeth Safonau’r Gymraeg – Cyngor Caerffili

Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg 2022-23 – Cyngor Caerffili

Dyletswydd Cyfamod y Lluoedd Arfog – Cyngor Caerffili

Camau gweithredu

1-2 flynedd

  • Sicrhau bod hyfforddiant iaith Gymraeg a Iaith Arwyddo Prydain priodol ar gael i staff, o lefelau mynediad i uwch
  • Datblygu polisi ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
  • Datblygu safle Mewnrwyd newydd i weithwyr gael mynediad at wybodaeth gyflogaeth
  • Hyrwyddo Hyfforddiant Cyfamod y Lluoedd Arfog fel rhan o Raglen Hyfforddiant Cydraddoldeb a’r Gymraeg
  • Hyrwyddo a chefnogi caffi menopôs yn y gweithle ar gyfer cyflogeion

2-3 blynedd

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 ac annog unigolion i ddatgelu eu statws
  • Nodi lefelau amrywiaeth ethnig gan ddefnyddio data AD a defnyddio hwn fel meincnod i archwilio unrhyw strwythurau a rhwystrau diwylliannol
  • Hyrwyddo a dangos ymrwymiad i gynhwysiant wrth recriwtio, gan sicrhau iaith gynhwysol mewn deunyddiau a phrosesau
  • Cyfathrebu Polisi ar urddas a pharch yn y gwaith yn glir i staff
  • Darparu cyfleoedd i staff wella eu sgiliau Cymraeg presennol at ddibenion busnes
  • Darparu cyfleoedd i staff sy'n siarad Cymraeg a dysgwyr i ddefnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle

3-4 blynedd

  • Datblygu hyfforddiant cydraddoldeb ar-lein a fydd yn orfodol i bob aelod o staff
  • Datblygu hyfforddiant iaith Gymraeg ar-lein a fydd yn orfodol i bob aelod o staff
  • Hyderus o ran Anabledd – gwella ein safon
  • Cydweithio a chynnal y brand 'Cynghorau Balch' i gefnogi digwyddiadau blachder
  • Ymgorffori'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol:

% y gweithlu sydd wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Sylfaenol (Grŵp 1) / Nifer y staff wedi cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth Sylfaenol (Grŵp 1)

% y staff a nodwyd sydd wedi cwblhau hyfforddiant ‘Gofyn a Gweithredu’ (Grŵp 2)

% y staff a nodwyd sydd wedi cwblhau Hyfforddiant Pellach (Grŵp 3)

Gweithredu hyfforddiant Gloywi pan fydd ar gael ac yn briodol

Pam?

Gweithlu – Mantra Stonewall Cymru yw bod 'pobl yn perfformio'n well pan maen nhw'n gallu bod yn nhw eu hunain'. Rydyn ni hefyd o'r farn, er mwyn cael y gorau o'n cyflogeion a sicrhau eu bod nhw’n darparu'r gwasanaethau gorau i'n trigolion; rhaid i ni feithrin diwylliant diogel a chynhwysol yn y gweithle. Bydd annog rhagor o unigolion i ddatgelu eu statws yn cynorthwyo ein proses monitro cydraddoldeb ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o amrywiaeth ein gweithlu.

Mae hefyd yn bwysig bod staff yn ymwybodol o ddiwylliant, yn enwedig staff rheng flaen sy'n gweithio gyda dinasyddion bob dydd. Bydd staff yn cael cynnig hyfforddiant perthnasol ar wahanol bynciau yn ymwneud â Chydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg, Iaith Arwyddion Prydain a Hyfforddiant Cyfamod y Lluoedd Arfog, yn barhaus, a thra bo'r gyllideb yn caniatáu.

Hyderus o ran Anabledd – Rydyn ni’n gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ar hyn o bryd. Bydd cyrraedd statws achredu Lefel 3 o ran gweithredu fel hyrwyddwr Hyderus o ran Anabledd yn ein helpu i fynegi mewn ffordd dryloyw ein hymrwymiad i helpu i recriwtio, cadw a datblygu pobl ag anableddau sy'n cefnogi ein gwasanaethau i gyflawni a llwyddo fel cyflogeion gwerthfawr. Drwy gael ein cydnabod fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, gallwn ni ennill cydnabyddiaeth gan staff ag anableddau yn ein busnes, pobl ag anableddau y tu allan i'n busnes, ein cwsmeriaid a'r gymuned ehangach, drwy gofnodi anableddau, iechyd meddwl a llesiant yn y Cyngor a chyflwyno adroddiadau tryloyw mewn perthynas â hynny.

Nodi lefelau amrywiaeth ethnig gan ddefnyddio data Adnoddau Dynol a defnyddio’r data hwn fel meincnod i archwilio unrhyw strwythur a rhwystrau diwylliannol - Gall ein data cyflogau, data recriwtio a data profiad gwaith roi dealltwriaeth ar sail tystiolaeth i ni o’n gweithlu a llywio strategaeth, datblygiad polisi ac arferion recriwtio. Gan ddefnyddio’r hyn rydyn ni'n ei ddysgu o’r data hwn a gweithio gyda’n staff sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi, gallwn ni greu gweithleoedd mwy cynhwysol sy’n denu talent amrywiol. Bydd pawb yn elwa o’r amrywiaeth o feddyliau, syniadau a ffyrdd o weithio sydd gan bobl o wahanol gefndiroedd, profiadau a hunaniaethau ac mae diwylliant cynhwysol yn hanfodol er mwyn i hyn ddigwydd.

Amcan cydraddoldeb strategol 7: lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau – lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau

Cyd-destun

Mae'n ofynnol i ni edrych ar wahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau yn y Cyngor a nodi amcan a fydd yn mynd i'r afael ag unrhyw wahaniaeth sy’n cael ei nodi.

O dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol)(Cymru) 2011 mae'n ofynnol i'r Cyngor gasglu a chyhoeddi data cyflogaeth blynyddol ar draws nifer o nodweddion gwarchodedig. Dim ond mewn perthynas â menywod a dynion y dylai gwybodaeth am nifer y bobl a gyflogir gan y cyngor, wedi'i threfnu yn ôl swydd, tâl, math o gontract a phatrwm gweithio gael ei dadansoddi. Yn ogystal, rhaid i'r Cyngor gyhoeddi data ar wahaniaethau cyflog a'u hachosion, rhwng gweithwyr sydd â nodweddion gwarchodedig a hebddyn nhw.

Fel Cyngor, rydyn ni’n hyderus nad yw ein bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deillio o dalu gweithwyr gwrywaidd a benywaidd yn wahanol am yr un gwaith neu waith cyfatebol. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn deillio o'r rolau y mae dynion a menywod yn gweithio ynddyn nhw ar hyn o bryd a'r cyflogau y mae'r rolau hyn yn eu denu.

Mae'n bwlch cyflog ni rhwng y rhywiau yn adlewyrchu achosion y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar lefel gymdeithasol. Er enghraifft, mae ymchwil yn dangos bod cyfrifoldeb gofal plant yn dal i ddisgyn yn anghymesur ar fenywod, er bod rhieni'n gynyddol hyblyg. Y ffaith amdani yn y data hyn yw bod y mwyafrif mawr o swyddi rhan-amser yn cael eu dal gan fenywod ac mai'r rhain yw'r swyddi sy'n denu cyflogau yn y chwarteli isaf.

Data perthnasol

O edrych ar y data yn ein Datganiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau ar 31 Mawrth 2022, y cyfanswm nifer y gweithwyr yn y sefydliad oedd 6,368. Y nifer y Benywod oedd 4,527 (71.1%) a nifer y Gwrywod oedd 1,841 (28.9%).

Themâu o 'a yw cymru'n decach? 2023'

Addysg, Gwaith, Safonau Byw, Iechyd, Cymryd Rhan

Nodweddion gwarchodedig perthnasol

Oed, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaeth Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Rhyw

Dogfennau ategol

Cynllun Corfforaethol 2023-2028 – Cyngor Caerffili

‘A Yw Cymru’n Decach? 2023’ – Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Datganiad Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau – Cyngor Caerffili

Camau gweithredu

1-2 flynedd

  • Cyhoeddi gwybodaeth am gyflogaeth fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol)(Cymru) 2011
  • Adolygu a diweddaru polisïau adnoddau dynol yn rheolaidd i gynnwys materion fel gweithio'n hyblyg, gweithio'n rhan amser neu opsiynau rhannu swydd, absenoldeb rhiant a rennir ac ati.
  • Lle bynnag y bo modd, hysbysebwn ni swyddi fel rhai hyblyg

2-3 blynedd

  • Gwella ymwybyddiaeth o gyfleoedd swyddi a chyfleoedd busnes ymhlith grwpiau anhraddodiadol (h.y. peidio â chysylltu swyddi â rhyw benodol mewn ffordd ystrydebol)

3-4 blynedd

Adolygu'r data sy'n ymwneud â'r gweithlu a phennu'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni'r ddyletswydd gyffredinol fel y'i nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011

Datblygu strategaethau cefnogol a chynhwysol, sy'n estyn allan i weithwyr benywaidd ar draws y Cyngor, gan gynnwys gweithio hyblyg, gwneud llwybrau gyrfa yn dryloyw, adolygu prosesau recriwtio a phennu, a dadansoddi ein data ar bobl.

Pam?

Mae cyflwyno adroddiadau ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau yn ein helpu i ddeall graddau ac achosion ein bylchau cyflog a nodi unrhyw faterion y mae angen ymdrin â nhw.

Mae’r rhesymau dros y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn sefydliadol ac ar draws Cymru yn gymhleth ac yn gysylltiedig â ffactorau diwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac addysgol. Mae'r canlynol i gyd yn ffactorau sy'n cyfrannu at hyn: diffyg cyfleoedd gweithio hyblyg, menywod yn bennaf yw’r prif ddarparwyr gofal plant a chyfrifoldebau gofalu a gwahanu galwedigaethol.

Nid yw'r ffaith bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau o reidrwydd yn golygu bod achos o wahaniaethu rhwng y rhywiau neu wahaniaethu o ran cyflog. Bydd cyhoeddi a monitro bylchau cyflog yn ein helpu i ddeall y rhesymau dros unrhyw fylchau cyflog ac ystyried lle gallwn ddatblygu strategaethau a fydd yn estyn allan at y gweithwyr benywaidd ar draws y gweithlu a cheisio mynd i'r afael â'r achosion. Er enghraifft, os bydd gwaith dadansoddi yn dangos dosbarthiad anghyfartal o ddynion a menywod mewn swyddi a bod menywod wedi'u gorgynrychioli mewn swyddi â chyflogau is.

Adran 3 – datblygu amcanion cydraddoldeb a'r broses ymgysylltu

Cynllun llesiant gwent 2023-2028 – bwrdd gwasanaethau cyhoeddus gwent

Ym mis Medi 2021 daeth y pum Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwent, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen ynghyd i ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.

Ers hynny, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent ynghyd â phartneriaid, cymunedau a rhanddeiliaid wedi cynhyrchu Asesiad o Les Gwent, gan nodi’r materion sy’n cyfrannu at lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol y rhanbarth.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth honno, cyhoeddwyd Cynllun Llesiant Gwent ym mis Awst 2023. Mae’r Cynllun yn nodi’r hyn y mae’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus am ei gyflawni, mewn cydweithrediad â’r sectorau statudol, preifat a’r trydydd sector, gyda’n cymunedau ac ar eu cyfer dros y pum mlynedd nesaf. a thu hwnt.

Mae gan y Cynllun ddau Amcan lefel uchel:

  • Rydym am greu Gwent decach, decach a chynhwysol i bawb
  • Rydym eisiau Gwent sy’n barod ar gyfer yr hinsawdd, lle mae ein hamgylchedd yn cael ei werthfawrogi a’i warchod, er budd ein llesiant nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Cefnogir yr amcanion hyn gan bum cam a phedair egwyddor gyffredinol ynghylch sut y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cydweithio er budd y rhanbarth.

I wneud yn siŵr nad yw’r agweddau lleol ar lesiant yn cael eu hanwybyddu, mae pum Grŵp Cyflawni wedi’u sefydlu i helpu i gyflawni’r cynllun ar lefel leol.

Cynlluniau gweithredu manwl, ar lefel ranbarthol; ac ar lefel leol, bellach yn cael eu datblygu gan amlinellu’r hyn sydd angen ei wneud, gan wneud y defnydd gorau o adnoddau cydweithredol a gwneud y mwyaf o’r cyfraniad at nodau llesiant cenedlaethol Cymru, yn ogystal â rhannu arfer gorau, a cheisio osgoi dyblygu.

Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant (cymru) 2014

Daeth y Ddeddf i rym ym mis Ebrill 2016 ac mae’n golygu bod yn rhaid i gynghorau ddarparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau yn y ffordd y mae’r Ddeddf yn ei nodi. Mae’r Ddeddf yn rhoi mwy o lais i unigolion a’u gofalwyr yn y gofal a’r cymorth a gânt. Er mwyn cefnogi pobl i gyflawni llesiant, byddant yn gwneud penderfyniadau am eu gofal a’u cymorth mewn partneriaeth gyfartal â gweithwyr proffesiynol. Er mwyn eu helpu i wneud hynny, bydd ganddynt fynediad hawdd at wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eu hardal.

Bydd proses asesu newydd ar gyfer gofal a chymorth yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig iddynt hwy fel unigolyn. Bydd yn ystyried eu cryfderau personol a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt gan eu teulu, ffrindiau ac eraill yn y gymuned.

Mae’r Ddeddf yn canolbwyntio ar helpu pobl i aros yn iach, i fod yn ddiogel rhag niwed, i fod mor annibynnol â phosibl ac i gael eu cefnogi o fewn a chan eu cymuned leol.

Mae gan y Ddeddf bum egwyddor:

  1. Hyrwyddo Llesiant: Gweithio gyda phobl i ddeall beth sy’n bwysig iddyn nhw a’u helpu i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i’w llesiant
  2. Llais a rheolaeth: Rhoi pobl yng nghanol eu gofal; rhoi llais iddynt wrth wneud penderfyniadau am eu bywyd a rheolaeth dros gyrraedd y canlyniadau sydd o bwys iddynt
  3. Atal ac ymyrraeth gynnar: Cynyddu gwasanaethau ataliol yn y gymuned i helpu pobl i gadw’n iach a’n helpu ni i wybod pryd y gall fod angen cymorth ychwanegol arnynt i atal problemau rhag cyrraedd cam hollbwysig
  4. Cydgynhyrchu: Darparu cyfleoedd i bobl gymryd rhan yn y ffordd y caiff eu gofal a’u cymorth eu cynllunio a’u darparu
  5. Cydweithio: Gwaith partneriaeth cryf rhwng y sefydliadau amrywiol a’r bobl sy’n eu cefnogi, gan helpu pobl i fyw’r bywyd o’u dewis yn hirach

Cynllun corfforaethol bwrdeistref sirol caerffili – amcanion llesiant 2023-2028

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi’i chynllunio i helpu cyrff cyhoeddus i gydweithio i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant.

Mae’r gyfraith yn gofyn i ni ddefnyddio meddwl cynaliadwy wrth wneud penderfyniadau a datblygu ein Hamcanion Llesiant i wella bywydau ein trigolion a’r amgylchedd y maent yn byw ynddo.

Mae’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yn seiliedig ar bum ffordd o weithio:

  • Hirdymor – edrych ar atebion tymor hir heb beryglu llesiant cenedlaethau’r dyfodol
  • Integredig – helpu cyrff cyhoeddus eraill i gyflawni eu nodau er lles cyffredinol trigolion
  • Cynnwys – Cynnwys y rhai sydd â diddordeb yn llesiant yr ardal a chyflawni ein hamcanion
  • Cydweithio – gweithio gydag amrywiaeth o bobl, a rhannu syniadau ac adnoddau, i helpu i gyflawni'r canlyniadau
  • Atal – deall achosion sylfaenol problemau fel y gallwn roi'r atebion cywir ar waith i atal problemau rhag codi neu waethygu

Defnyddio’r egwyddorion uchod oedd dechrau’r broses i ddatblygu ein hamcanion Llesiant.

Dylid ystyried ein Hamcanion Llesiant fel set integredig sy’n ategu ei gilydd. Rydym wedi gosod uchelgeisiau ar gyfer y canlyniadau yr hoffem eu gweld ar ddiwedd y cyfnod o bum mlynedd. Mae’r rhain yn ‘ddatganiadau ar gyfer y dyfodol’ sy’n gosod ein bwriad ac a fydd yn ein helpu i wireddu’r hyn yr ydym am ei gyflawni.

Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n ein hwynebu, yn enwedig ein rhagolygon ariannol, ond roedd yn bwysig i ni fod yn uchelgeisiol yn yr hyn y gobeithiwn ei gyflawni ar gyfer y fwrdeistref sirol dros gyfnod ein Cynllun Corfforaethol.

Mae ein Hamcanion Llesiant wedi’u nodi fel a ganlyn:

  • Amcan 1 – Galluogi ein plant i lwyddo mewn addysg
  • Amcan 2 – Galluogi ein trigolion i ffynnu
  • Amcan 3 – Galluogi ein cymunedau i fod yn gynhwysol
  • Amcan 4 – Galluogi ein heconomi i dyfu
  • Amcan 5 – Galluogi ein hamgylchedd i fod yn wyrddach

Bydd ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol yn cefnogi dilyniant wrth hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant ar gyfer yr holl nodweddion gwarchodedig a chyflawni Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Bydd yr amcanion yn sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau fel y’u hamlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Er mwyn sicrhau bod ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol yn berthnasol, gofynnwyd am farn ynghylch a fyddai'r amcanion a amlinellwyd yn helpu'r Cyngor i leihau anghydraddoldebau yn y gweithlu a chynorthwyo mynediad a darpariaeth gwasanaeth.

Proses ymgynghori'r cynllun cydraddoldeb strategol a'r canlyniadau

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol rhwng 30 Hydref 2023 a 1 Rhagfyr 2023. Cafodd yr ymgynghoriad ei hyrwyddo’n eang, roedd yn hygyrch ar amrywiaeth o lwyfannau ac roedd ar gael yn ddwyieithog, mewn fformat hawdd ei ddarllen a fideos Iaith Arwyddion Prydain.

Cyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar wefan y Cyngor drwy dudalen Trafodaeth Caerffili. Roedd fersiynau o'r arolwg y gellid eu lawrlwytho ar gael mewn amrywiaeth o fformatau ar gais. Rhannwyd manylion yr ymgynghoriad drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor gan gyrraedd 5,324 o bobl ac arweiniodd at 43 o ymgysylltiadau. Paratowyd datganiad i’r wasg ar gyfer y cyfryngau lleol a’i hyrwyddo ar Wefan y Cyngor.

Gwnaethom ofyn am nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid allweddol. Dim ond dau randdeiliad a ymgysylltodd â ni ynghylch yr ymgynghoriad hwn a chynnig eu barn ar yr Amcanion Cydraddoldeb drafft, roeddent yn breswylydd dall cofrestredig a Grŵp Ieuenctid LHDTC+. Er y gwnaed ymdrech i ymgynghori â phob sector o'r gymuned, mae'n amlwg na chymerodd rhai rhanddeiliaid ran yn y broses.

Amlygodd ymatebion i'r ymgynghoriad nifer o themâu trosfwaol yn ogystal â materion a rhwystrau penodol mewn perthynas â'r amcanion drafft a amlinellwyd.

Yr hyn y mae pobl yn meddwl y dylem ei wneud:

  • Dylai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ofyn i drigolion dros y 2 flynedd nesaf beth yw eu heriau mynediad a gweithio ar y rhain – Amcan Cydraddoldeb 1 – Mynediad at Wasanaethau a Gwybodaeth
  • Parhau i weithio gydag aelodau'r Lluoedd Arfog – Amcan Cydraddoldeb 1 – Mynediad i Wasanaethau a Gwybodaeth a Chydraddoldeb Amcan 6 – Gweithlu Cynhwysol, Amrywiol a Chyfartal
  • Er mwyn gwella cyfleoedd addysgol, mae angen deall yr anawsterau mae pobl ag anableddau yn ei gael i gael a chynnal cyflogaeth a'r effaith y gall newid mewn amgylchiadau cyflogaeth ei gael ar fywydau pobl ag anableddau. – Amcan Cydraddoldeb 6 – Gweithlu Cynhwysol, Amrywiol a Chyfartal
  • Parhau i ddarparu hyfforddiant Tuedd Anymwybodol i staff i frwydro yn erbyn effeithiau negyddol ar y nodweddion gwarchodedig – Amcan Cydraddoldeb 3 – Cymunedau Cynhwysol, Amcan Cydraddoldeb 4 – Ymgysylltu Cynhwysol ac Effeithiol, Amcan Cydraddoldeb 5 – Y Gymraeg a Chydraddoldeb, Amcan 6 – Cynhwysol, Amrywiol a Chyfartal Gweithlu
  • Ystyried sut y gallwn gynnwys aelodau hŷn o'r gymuned a rhai ag anableddau er mwyn eu cynnwys yn fwy – Amcan Cydraddoldeb 3 – Cymunedau Cynhwysol
  • Hysbysu ymatebwyr a'r gymuned ehangach gan gynnwys y rhai o grwpiau penodol o anableddau am gynnydd y Cynllun ac ymgynghoriadau eraill a gynhelir – Amcan Cydraddoldeb 4 – Ymgysylltu Cynhwysol ac Effeithiol
  • Hysbysu ymatebwyr a'r gymuned ehangach gan gynnwys y rhai o grwpiau penodol o anableddau am gynnydd y Cynllun ac ymgynghoriadau eraill a gynhelir – Amcan Cydraddoldeb 4 – Ymgysylltu Cynhwysol ac Effeithiol
  • Fel rhieni corfforaethol, beth am ddarparu prentisiaid, profiad gwaith, hyfforddiant neu hyd yn oed gyfleoedd cyflogaeth rhan amser llawn i NEET, Plant sydd ar fin gadael CBSC Gofal ALl CBSC
  • Creu cynllun 'Mabwysiadu Mam-gu' i apelio at Wirfoddolwyr oedrannus. Ychydig iawn o gostau fyddai hyn i dalu am gostau sylfaenol; Y nod yw i rieni unigol gael eu mabwysiadu, eu cyfeillio gan gyda mam-gu ( eu tad-cu)
  • Hygyrchedd cymunedol ar linellau tlodi, goblygiadau cost i deuluoedd incwm is sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – Amcan Cydraddoldeb 1 – Mynediad at Wasanaethau a Gwybodaeth
  • Gwnaed awgrym ynghylch ceisiadau am Fudd-dal Tai ac ati, darparu opsiynau i Oedolion ag Anableddau Dysgu megis DVD, fersiwn hawdd ei darllen gyda lluniau i wella eu dealltwriaeth a hybu annibyniaeth.
  • Gwneud mwy i gefnogi pobl sy'n profi menopos yn y gweithle – Amcan 6 – Cynhwysol, Amrywiol a Chyfartal Gweithlu
  • Sicrhau isafswm cyflog
  • Dosbarth cymdeithasol ac anghenion cymdeithasol gan gynnwys gwasanaethau adsefydlu y gellid mynd i'r afael â hwy yn fanylach. Hefyd, pobl yr effeithir arnynt gan drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
  • Materion trawsrywiol – Amcan Cydraddoldeb 3 – Cymunedau Cynhwysol
  • Mae angen adolygu'r dull o gefnogi gweithwyr ag anableddau a dylid ystyried Polisi Absenoldeb Anabledd
  • Mynediad teg at hyfforddiant a datblygiad – Amcan Cydraddoldeb 3 – Cymunedau Cynhwysol, Amcan Cydraddoldeb 4 – Ymgysylltu Cynhwysol ac Effeithiol, Amcan Cydraddoldeb 5 – Y Gymraeg a Chydraddoldeb Amcan 6 – Gweithlu Cynhwysol, Amrywiol a Chyfartal
  • Ystyried sut y gallwn gynnwys aelodau hŷn y gymuned
  • Rhaid cyfathrebu a chydgynhyrchu ynghyd ag ymgysylltu effeithiol â'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, gan gynnwys yr holl staff, fod yn allweddol – Amcan Cydraddoldeb 4 – Ymgysylltu Cynhwysol ac Effeithiol
  • Mwy o gefnogaeth i les staff ac yn ystod yr argyfwng costau byw – Amcan Cydraddoldeb 1 – Mynediad at Wasanaethau a Gwybodaeth
  • Cynnal sesiynau agored mewn Llyfrgelloedd ac annog y gymuned leol i ddefnyddio’r adnodd hwn – Amcan Cydraddoldeb 4 – Ymgysylltu Cynhwysol ac Effeithiol
  • Mynediad i adeiladau CBSC ar gyfer y rhai ag anableddau – Amcan Cydraddoldeb 1 – Mynediad at Wasanaethau a Gwybodaeth
  • Darparu gwasanaethau personol yn hytrach na digidol sy'n rhwystr
  • Ystyried effaith lleihau gwasanaethau ar bobl hŷn a phobl ag anableddau – Amcan Cydraddoldeb 3 – Cymunedau Cynhwysol

Lle bo'n berthnasol rydym wedi cynnwys camau gweithredu yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn dilyn adolygiad o'r ymatebion a dderbyniwyd. Bydd y rhai nad ydynt yn cael eu cynnwys yn cael eu trosglwyddo i feysydd gwasanaeth perthnasol gan eu bod yn benodol i wasanaethau, a mater i’r meysydd gwasanaeth hynny fydd gweithredu ar yr hyn a awgrymwyd.

Er y gwnaed ymdrech i ymgysylltu â phob sector o'r gymuned, cafwyd nifer fach o ymatebion gan unigolion a oedd yn cynrychioli grwpiau crefyddol neu'r gymuned Ddu a Lleiafrifoedd Ethnig.

I weld yr adroddiad llawn ewch i https://www.caerffili.gov.uk/my-council/strategies,-plans-and-policies/equalities/strategic-equality-plan?lang=cy-gb

Adran 4 – cyflawni a monitro'r amcanion cydraddoldeb

Hunan asesiad

Gweithredwyd fframwaith adrodd o’r enw ‘Asesiadau Perfformiad Cyfadrannau’ (DPA) a darlun perfformiad lefel uchel cyffredinol o’r enw ‘Asesiad Perfformiad Corfforaethol’ (CPA). Mae'r asesiadau hyn wedi'u cynllunio i ddod ag ystod o wybodaeth adrodd ar wahân ynghyd i integreiddio gwybodaeth a deall achos ac effaith. Yn y pen draw i wella dysgu sefydliadol a gweithredu ar y dysgu i wella'n barhaus. Bydd cynnydd ar y Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cael ei gynnwys yn adroddiadau cyffredinol y Cyngor i sicrhau ein bod yn integreiddio cydraddoldeb a'r Gymraeg yn hytrach na gweithredu fel pynciau 'annibynnol'. Mae’r adroddiadau ar Berfformiad y Gyfadran a’r Asesiad Perfformiad Corfforaethol yn cynnwys gwybodaeth am gydraddoldeb a’r Gymraeg a chaiff ei adrodd hefyd i’r Pwyllgorau Craffu, Archwilio a Llywodraethu, a’r Cabinet, ac mae ar gael i’r Cyhoedd ar wefan y Cyngor.

Adroddiad monitro blynyddol y cynllun cydraddoldeb strategol

O dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i gynhyrchu a chyhoeddi Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol, sy'n adrodd ar gynnydd y Cyngor wrth ddarparu gwasanaethau yn erbyn y dyletswyddau statudol, Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, ac Amcanion Cydraddoldeb Strategol y Cyngor ei hun. Rhaid cyhoeddi'r adroddiad blynyddol erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn.