Cartref gofal hill view, aberbargod - adroddiad monitro contract

Enw'r Darparwr: Cartref Gofal Hill View, Aberbargod

Dyddiad yr Ymweliad: Dydd Iau 2 Mawrth, 2023, 12pm – 4pm / Dydd Mercher 5 Ebrill, 2023, 11.30am – 2.00pm

Swyddog(ion) ymweld: Andrea Crahart, Swyddog Monitro Contractau, Tîm Comisiynu Caerffili

Yn bresennol: Sarah Roach, Rheolwr Cofrestredig

Cefndir

Mae Cartref Gofal Hill View wedi'i leoli yn Aberbargod ac mae'n agos at amwynderau lleol (siopau, ysgolion, eglwys ac ati). Mae'r cartref yn gallu darparu gofal a chymorth i 34 o bobl sydd ag anghenion preswyl sy'n gysylltiedig â dementia ac, ar adeg yr ymweliad, roedd gan y cartref 6 gwely gwag.

Mae'r cartref yn fawr ac mae ar 3 lefel. Mae'r cartref yn ceisio rhoi pobl i fyw ar yr un llawr â phobl eraill sydd ar gam tebyg yn eu profiad o fyw gyda dementia, er mwyn lleihau unrhyw straen a brofir ac annog ymdeimlad o lesiant.

Mae'r Rheolwr wedi'i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru (corff rheoleiddio gweithlu).

Yn rheolaidd, mae rheolwr y cartref yn rhoi gwybod i Dîm Comisiynu Caerffili am unrhyw bryderon (gan gynnwys pryderon diogelu, brigiadau o achosion heintus, pryderon am breswylwyr, yr adeilad ac ati) ac yn rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru hefyd.

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru arolygiad ym mis Tachwedd 2019 a oedd, ar y pryd, wedi cyfeirio at nifer o feysydd i’w gwella ac roedd argymhellion am sut i fodloni gofynion cyfreithiol. Roedd ymweliadau monitro contractau gan Dîm Comisiynu Caerffili hefyd wedi’u cynnal ym mis Awst/Medi 2019 a Mai 2022.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, caiff y darparwr gamau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw rhai y mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â'r ddeddfwriaeth); argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Ymweliad monitro blaenorol

Camau unioni

Sicrhau Ansawdd (Adolygiad o Ansawdd Gofal) i gynnwys dadansoddiad pellach o'r Cartref (e.e. gwersi sydd wedi'u dysgu, canlyniadau adroddiadau arolygu ac ati) Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus. (Rheoliad 80, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) I'w fonitro ymhellach. (Gweithredu o ymweliad yn 2019)

Camau datblygiadol

Datblygu rhestr wirio Gofal Personol i gynnwys lle i ofalwyr gofnodi pan fydd gofal ceg yn cael ei wneud fwy nag unwaith y dydd. Fel arall, defnyddio ffurflenni Monitro Gofal Ceg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gofnodi'r wybodaeth hon. Amserlen: O fewn 2 fis. I'w wirio.

Cadw cofnodion o bob pen cawod sydd wedi'i lanhau yn y Cartref fel ei bod yn hawdd gwybod pa rai sydd wedi'u glanhau. Amserlen: O fewn 2 fis ac yn barhaus. I'w wirio

Unigolyn cyfrifol

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn parhau i roi cymorth da i'r Rheolwr Cofrestredig/tîm staff ac mae'n goruchwylio'r gwasanaeth a'i ansawdd yn barhaus.

Cafodd Datganiad o Ddiben y Cartref ei ddiwygio ym mis Mawrth 2023 ac mae’n rhoi trosolwg cynhwysfawr o’r hyn y mae’r cartref gofal yn ei ddarparu.

Ni welodd y Swyddog Monitro Ganllaw Defnyddiwr Gwasanaeth y cartref fel rhan o’r broses fonitro.

Os nad yw’r Unigolyn Cyfrifol a’r Rheolwr Cofrestredig ar gael i reoli’r gwasanaeth, y cynllun wrth gefn fyddai i’r Dirprwy Reolwr eu cyflenwi yn eu habsenoldeb.

Roedd Polisïau a Gweithdrefnau’r Cartref ar gael gan y rheolwr. Roedd y rhain yn cynnwys, e.e. diogelu, cwynion, meddyginiaeth, goruchwylio/gwerthuso staff ac ati. Cafodd y rhan fwyaf o'r polisïau eu diweddaru ym mis Awst 2022, felly, roedden nhw'n gyfredol, ond roedd rhai heb ddyddiad ar adeg yr ymweliad.

Rheolwr cofrestredig

Mae'r cartref gofal yn gweithredu system teledu cylch cyfyng (system oruchwylio) sy'n cwmpasu'r holl ardaloedd cymunedol (lolfeydd, cynteddau) yn unig. Mae'r Rheolwr wedi ceisio caniatâd gan berthnasau drwy ffurflenni caniatâd wedi'u llofnodi.

Mae modd addasu'r tymheredd mewn ystafelloedd gwely unigol drwy thermostatau'r rheiddiaduron er mwyn sicrhau nad yw pobl yn rhy gynnes nac yn rhy oer. Yn ogystal, yn ystod cyfnodau o dywydd poeth, roedd ffaniau trydan ac unedau aerdymheru ar gael.

Mae’r rheolwr yn parhau i gyflwyno hysbysiadau Rheoliad 60 sy’n fecanwaith i adrodd am ddigwyddiadau sydd wedi digwydd e.e. brigiadau o glefydau heintus, cwympiadau ac ati, ac mae'r rhain yn cael eu cyflwyno mewn modd amserol i’r gweithwyr proffesiynol perthnasol, e.e. Arolygiaeth Gofal Cymru, Tîm Comisiynu Caerffili, Iechyd yr Amgylchedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ati.

Mae’r rheolwr yn parhau i anfon adroddiadau Dyletswydd i Adrodd ymlaen at y Tîm Diogelu pan fo sefyllfaoedd wedi codi sydd angen cymorth/arweiniad ac, o bosibl, ymchwiliad pellach o ran preswylwyr unigol.

Mae’r cartref yn parhau i gael cymorth da gan weithwyr iechyd proffesiynol, h.y. Meddyg Teulu, Nyrs Seiciatrig Gymunedol a Thîm Nyrsio Ardal, sy’n sicrhau bod anghenion iechyd pobl yn cael eu diwallu.

Hyfforddiant

Mae staff naill ai wedi cyflawni NVQ/QCF Lefel 2, 3 neu 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu yn y broses o weithio tuag at gymhwyster.

Staffio

Roedd digon o staff ar ddyletswydd yn ystod yr ymweliadau monitro, ac roedd y staff yn cynorthwyo pobl yn weithredol pan oedden nhw'n cael eu cinio yn y lolfa ar y llawr gwaelod. Roedd y gofalwyr yn gyfeillgar iawn ac yn dangos amynedd ac empathi bob amser. Mae'r gwasanaeth yn parhau i gael anawsterau o ran recriwtio a chadw staff oherwydd prinder gofalwyr yn y sector gofal, a chaiff unrhyw absenoldebau eu llenwi gan y tîm staff presennol cyn belled ag y bo modd, er bod staff asiantaeth yn cael eu defnyddio pan fo angen.

Cafodd ffeiliau dau aelod o'r staff eu harchwilio i bennu a oes prosesau recriwtio cadarn ar waith. Roedd ffeiliau'r staff yn drefnus iawn ac yn cynnwys gwybodaeth megis ffurflen gais fanwl, 2 tystlythyr, cofnodion cyfweliad, ffotograff o'r aelod o staff a manylion adnabod. Dim ond 1 Contract Cyflogaeth oedd yn bresennol ar ffeil y person gan fod y llall i’w drafod gyda’r person dan sylw. Mae tystysgrifau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn cael eu cadw mewn ffeil ar wahân ac, er bod 1 yn bresennol, roedd angen llwytho'r llall i lawr o'r system electronig; fodd bynnag, roedd wedi'i phrosesu ac roedd yn bresennol. Roedd tystysgrifau hyfforddiant yn bresennol ar gyfer rhai cyrsiau yn unig ac nid oedd tystlythyrau wedi'u dilysu'n ddigonol gyda'r canolwr.

Roedd matrics goruchwylio a oedd ar gael ar ddiwrnod yr ymweliad yn cadarnhau bod mwyafrif helaeth y staff wedi cael goruchwyliaeth ym mis Ionawr 2023. Mae’r matrics wedi’i sefydlu fel y mae modd cynllunio ar gyfer y rhain ymlaen llaw bob tri mis, yn unol â rheoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae’r profforma goruchwylio yn ymdrin â materion megis cyflawniadau personol ers y sesiwn flaenorol, heriau/anawsterau a brofwyd, dysgu a datblygu, targedau i'w gosod ac ati. Cadarnhaodd y rheolwr y byddai angen i arfarniadau fod yn ffocws wrth symud ymlaen.

Archwiliad o ffeiliau a dogfennaeth

Roedd y 2 ffeil yn cynnwys dogfennaeth berthnasol gan Wasanaethau Cymdeithasol Caerffili, e.e. Asesiadau Integredig diweddar a Chynlluniau Gofal a Chymorth, a fyddai’n cael eu defnyddio i lywio Cynlluniau Personol (Cynlluniau Gofal a Chymorth) y cartref ar gyfer pob maes angen.

Roedd y ffeiliau ar gyfer dau breswylydd yn drefnus ac yn cynnwys mynegai, manylion sylfaenol am y person a ffotograff o’r person. Roedd dogfen ‘Dyma fi’ yn bresennol a oedd yn llawn gwybodaeth ac yn rhoi dealltwriaeth dda iawn i’r staff o’r person ac a fyddai wedi cynorthwyo i lenwi eu Cynlluniau Personol. (Mae'r ddogfen hon wedi'i chynhyrchu gan Gymdeithas Alzheimer ac mae’n cynnwys gwybodaeth, megis cefndir teuluol yr unigolyn, digwyddiadau pwysig mewn bywyd, pobl/lleoliadau, dewisiadau, arferion a phersonoliaeth; nod hyn yw helpu staff i leihau gofid unrhyw unigolyn a diwallu ei anghenion.)

Roedd Cynlluniau Personol (Cynlluniau Gofal a Chymorth) wedi’u hysgrifennu mewn ffordd fanwl ac mewn modd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i adlewyrchu anghenion a dymuniadau’r person. Roedd y rhain hefyd wedi cael eu hadolygu yn ystod yr wythnosau diwethaf ac, yn nodweddiadol, yn darparu gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd orau o helpu’r person o ran, e.e. eu gofal personol, anghenion gofal y geg, gofal traed, iechyd croen, symudedd/trosglwyddiadau, prydau bwyd/diodydd, dymuniadau ar farwolaeth ac ati.

Roedd y cofnodion dyddiol sy'n cael eu defnyddio i gofnodi'r gofal a'r cymorth ac sy'n cael eu rhoi yn fanwl ac wedi'u llofnodi/dyddio gan yr aelod staff.

Roedd y cofnod ymweliadau proffesiynol ar gyfer un o’r ffeiliau’n dangos bod y meddyg teulu wedi bod yn gysylltiedig â gofal y person o’i dderbyniad i’r cartref, bod y gweithiwr cymdeithasol wedi ymweld a bod y Tîm Iechyd Meddwl yn cymryd rhan hefyd.

Roedd dogfennau Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid ar gael ac yn gyfredol ar gyfer yr unigolion yn y cartref roedd angen y wybodaeth hon arnyn nhw.

Sicrwydd ansawdd

Roedd tystiolaeth bod yr Unigolyn Cyfrifol wedi cynnal ymweliadau chwarterol â'r cartref. Roedd y rhain yn cynnwys manylion ynghylch meysydd allweddol, e.e. digwyddiadau/damweiniau, unrhyw gwynion, adborth uniongyrchol gan breswylydd, aelod o’r teulu ac aelod o staff. Roedd, hefyd, sôn am welliannau amgylcheddol sydd wedi'u cyflawni, gyda rhai camau i'w cymryd.

Roedd cyfarfod staff diweddar wedi’i gynnal ym mis Chwefror 2023 a chyfeiriodd at lawer o feysydd a gafodd eu trafod, e.e. proses sefydlu, rotâu, newidiadau i anghenion preswylwyr ac ati. Dywedodd y rheolwr, hefyd, fod cyfarfodydd yn cael eu cofnodi a'u bod ar gael drwy grŵp WhatsApp y cartref fel bod staff yn gallu clywed y cyfarfod a chael yr wybodaeth ddiweddaraf os nad oedden nhw'n gallu bod yn bresennol.

Cadarnhaodd y rheolwr y byddai cyfarfod preswylwyr a pherthnasau yn ailddechrau ymhen ychydig wythnosau fel bod unigolion yn cael cyfle i gyfleu unrhyw beth maen nhw'n ei ddymuno.

Mae'n ofynnol i'r Unigolyn Cyfrifol lunio adroddiadau sicrhau ansawdd bob chwe mis ac roedd yr adroddiad diweddaraf ar gael i'w weld. Roedd hyn yn dangos bod llawer o feysydd gwasanaeth wedi'u dadansoddi'n fanwl, gan amlygu meysydd sy'n gweithio'n dda a nodi lle mae angen gwelliannau. Roedd, hefyd, yn gadarnhaol gweld bod barn y preswylwyr a'u teuluoedd yn cael ei cheisio pan fydd gwelliannau/newidiadau yn cael eu hystyried.

Cynnal a chadw'r cartref

Mae'r Unigolyn Cyfrifol yn cyflogi gofalwr sy'n cynnal gwiriadau rheolaidd ledled y cartref.

Cafodd y Swyddog Monitro Contractau gael gwybod bod y Gwasanaeth Tân wedi argymell gosod drysau tân newydd ledled y cartref, ac mae wedi'i gytuno y bydd y rhain yn cael eu gosod fesul cam. Mae gwelliannau eraill i'r amgylchedd wedi cynnwys lloriau newydd i ystafelloedd gwely amrywiol ac mae ystafell wlyb wedi newid pwrpas i ystafell fwyta ar y trydydd llawr.

Diogelwch tân/iechyd a diogelwch

Cafodd Asesiad Risg Tân diweddaraf y cartref ei gynnal ym mis Mawrth 2023 gan Tower Fire Group. Cafodd nifer o feysydd i'w cywiro/gwella eu nodi a oedd wedi eu blaenoriaethu o flaenoriaeth 1 i 4. Roedd yn amlwg o'r asesiad risg bod y cartref yn gweithredu ar yr argymhellion, gyda dyfynbrisiau wedi eu gwneud ar gyfer nifer o feysydd sydd wedi'u nodi, a rhai eisoes wedi eu cwblhau.

Mae ymarferion tân yn parhau i gael eu cynnal yn fisol gyda chofnodion da yn cael eu casglu o ran manylion yr ymarfer, e.e. nifer y staff a oedd yn bresennol gan gynnwys dad-friffio. Cafodd yr ymarfer tân diweddaraf ei gynnal ym mis Mawrth, 2023.

Rheoli arian pobl

Roedd y cofnodion ar gyfer 2 berson yn dangos bod incwm a gwariant y person wedi’u cofnodi. Pan fyddai arian yn cael ei dderbyn a'i dynnu allan, roedd dau lofnod bob amser ar gyfer y trafodion hyn, ac roedd derbynebau yn eu lle ar gyfer treuliau amrywiol y person. Rhoddwyd gwybod i’r Swyddog Monitro Contractau bod y cartref yn rheoli arian ar ran yr holl breswylwyr.

Adborth gan breswylwyr/perthnasau

Wrth siarad â pherthynas yn ystod yr ymweliad, dywedodd nad oedd ganddo ddim ond canmoliaeth i'r staff yn Hill View. Dywedodd ei fod bob amser yn teimlo bod croeso iddo, ei fod yn mwynhau prydau bwyd gyda'i wraig yn y cartref a bod rhywfaint o weithgaredd yn digwydd bob amser.

Arsylwadau

Roedd y cartref yn lân, yn arogli'n ffres iawn ac yn daclus ar adeg yr ymweliadau monitro.

Roedd y rhyngweithio rhwng y staff a'r bobl sy'n cael gofal yn gynnes, yn gyfeillgar ac roedd y bobl yn edrych yn dda. Mae gan y cartref salon trin gwallt pwrpasol sy'n ddymunol gyda chyfarpar da er mwyn gwneud gwallt ac ewinedd y preswylwyr.

Mae tudalen Digwyddiadau sydd ar gael bob mis er budd preswylwyr, perthnasau/ffrindiau sy'n rhoi gwybod i bobl beth sy'n digwydd yn y cartref. Mae hyn yn rhoi trosolwg clir o’r hyn sy’n cael ei gynnal, e.e. ar ddiwrnod yr ymweliad (5 Ebrill), roedd y preswylwyr yn gallu dathlu Diwrnod Cenedlaethol Pizza, ac roedd y dudalen hefyd yn cynnwys pryd mae penblwyddi pobl fel bod pawb yn ymwybodol.

Mae ymwelwyr yn cael croeso cynnes iawn pan fyddan nhw'n ymweld â’r cartref ac yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o lif y cartref, e.e. i rannu amserau bwyd, i fod yn rhan o weithgareddau sy'n cael eu cynnal ac ati. Mae'r lolfeydd yn gyfforddus iawn, gyda soffas a chadeiriau i bobl eu defnyddio a phethau cofiadwy i ysgogi'r synhwyrau ac eitemau cyffyrddadwy. Mae ystafelloedd gwely pobl yn edrych yn gyfforddus iawn, ac maen nhw wedi'u personoli ac wedi'u haddurno a'u dodrefnu i safon uchel.

Cafodd cysylltiadau eu ffurfio gyda'r eglwys leol (sy'n cynnal dosbarth crefftau wythnosol) a gyda'r ysgolion cynradd/meithrin lleol. Ers pandemig Covid-19, roedd angen gohirio llawer o'r cysylltiadau hyn; fodd bynnag, mae'r cartref bellach yn gallu ailddechrau'r perthnasoedd hyn ac mae preswylwyr yn elwa ar yr ymwelwyr sy'n gallu ymweld â'r cartref eto.

Mae ardal feranda awyr agored fach i bobl ei defnyddio sy'n cynnwys lle eistedd, ac sydd wedi'i haddurno ag eitemau garddio.

Arsylwadau amser bwyd

Ymunodd y Swyddog Monitro Contractau â rhai o'r preswylwyr wrth iddyn nhw fwyta eu pryd amser cinio. Roedd pobl yn cael eu helpu lle roedd angen hyn, ond, fel arall, roedd pobl yn gallu bwyta eu pryd yn ddifrys ac mewn amgylchedd dymunol iawn. Roedd y pryd yn flasus a chafodd y byrddau eu gosod gyda phopeth y byddai pobl ei angen, e.e. sawsiau, pupur a halen, matiau bwrdd, cyllyll a ffyrc, napcynau, diodydd ac ati. Roedd cerddoriaeth feddal yn chwarae yn y cefndir hefyd.

Camau gweithredu

Camau unioni/datblygiadol

Polisïau/Gweithdrefnau sydd heb eu dyddio ar hyn o bryd i gael dyddiad adolygu wedi'i ychwanegu ynghyd â dyddiad adolygu yn y dyfodol. Amserlen: O fewn 1 mis. Rheoliad 12, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Tystlythyrau staff i'w gwirio gyda'r canolwr bob amser (wedi'u llofnodi, eu dyddio a nodi unrhyw sylwadau perthnasol). Amserlen: Ar unwaith ac yn barhaus. Rheoliad 35, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Canolbwyntio ar werthusiadau ar gyfer yr holl staff. Amserlen: O fewn un flwyddyn. Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Casgliad

Mae preswylwyr yn byw mewn amgylchedd sy'n rhoi'r cyfle i bobl ffynnu, gan eu bod yn cael eu cynorthwyo i fod mor annibynnol â phosibl a chael gofal a help gan staff sydd wedi'u hyfforddi ac sy'n amyneddgar ac yn ofalgar yn eu hymagwedd.

Mae'r amgylchedd yn parhau i fod yn ysgogol a deniadol, lle mae'r lolfeydd yn gyfforddus ac yn olau, ystafelloedd gwely unigol wedi'u personoli, ardaloedd cynteddau gydag eitemau o ddiddordeb ar y waliau ac mae'r salon trin gwallt yn lle deniadol iawn.

Roedd yn amlwg o ffeiliau’r 2 breswylydd fod y ddogfennaeth yn fanwl iawn ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn yn ei dull o weithredu a’u bod wedi cael eu hadolygu’n rheolaidd. Roedd y ffeiliau staff hefyd yn dangos bod proses recriwtio gadarn wedi'i chynnal, gyda dim ond 1 maes wedi'i nodi ar gyfer gwelliant.

Hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i'r Rheolwr a'r tîm o staff am eu hamser a'u croeso yn ystod yr ymweliadau monitro.