Coedlan Goffa COVID Ynys Hywel

Ar 21 Mawrth 2022, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bwriad i greu’r drydedd goedlan goffa yng Nghymru yn Ynys Hywel, er mwyn cofio am bawb a gollodd eu bywydau yn anffodus yn ystod pandemig COVID-19 a’r ffordd wnaeth cymdeithas yng Nghymru ymdopi â bygythiad COVID-19.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cael y fraint o weithio mewn partneriaeth i gynorthwyo Prosiect Coedlannau Coffa Llywodraeth Cymru, gyda cham cychwynnol y goedlan bellach wedi’i greu ac yn agored i’r cyhoedd. Mae Ynys Hywel, sy'n cael ei reoli gan dîm Strategaeth Mannau Gwyrdd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, yn un o dair coedlan goffa sy’n cael eu creu yng Nghymru, sy’n ategu’r ddwy goedlan arall, sy'n cael eu rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yng Ngorllewin Cymru.

Mae Coedlan Goffa Ynys Hywel yn symbol o wydnwch Cymru yn ystod y pandemig ac o adfywio ac adnewyddu wrth i’r coedlannau newydd dyfu. Byddan nhw'n lleoedd i goffáu lle gall teuluoedd a ffrindiau gofio anwyliaid a gafodd eu colli a lle bydd y cyhoedd yn gallu myfyrio ynghylch y pandemig a’r effaith mae wedi’i chael ar ein bywydau ni i gyd.

Mae’r goedlan goffa wedi’i dylunio i fod yn wydn i fygythiadau hinsawdd sy’n newid, gyda chymysgedd amrywiol o goed, llwyni a bylbiau brodorol wedi’u plannu. Mae'r goedlan yn cynnwys cynefinoedd pwysig eraill ar gyfer bywyd gwyllt megis dolydd glaswelltog llawn rhywogaethau, cyrsiau dŵr agored, perthi a choed hynod. Bydd y goedlan goffa, wrth iddi sefydlu ac aeddfedu, yn cael ei rheoli i ddarparu lles i ymwelwyr, mewn amgylchedd naturiol heddychlon, sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth naturiol.

Bydd y goedlan newydd hefyd yn helpu darparu sbectrwm amrywiol o fanteision, o helpu brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd trwy gloi carbon, i ddarparu cynefinoedd gwerthfawr i blanhigion a bywyd gwyllt, gan ddarparu mannau hamdden awyr agored i bobl eu mwynhau, wrth hefyd gynorthwyo bywoliaethau gwledig trwy ôl-ofal a rheoli gweithredol.

Bydd cymunedau'n cael y cyfle nid yn unig i ymweld â'r safle, ond hefyd i gymryd rhan mewn plannu a rheoli parhaus yn y dyfodol. Wrth i'r goedlan newydd aeddfedu, bydd yn cael ei rheoli'n weithredol ochr yn ochr â'r coed aeddfed presennol yn Ynys Hywel, a fydd yn cynnwys gwaith rheoli coedlan gan gynnwys plygu perthi, prysgoedio, tocio, teneuo ac, ar adegau, torri coed heintiedig, marw neu beryglus.

Mae Coedlan Goffa Ynys Hywel yn rhan bwysig o Raglen Coedwig Genedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys rhwydwaith o goedlannau sy'n hygyrch i'r cyhoedd ledled Cymru, sy'n cynnwys coedlannau newydd a phresennol.

Contact us
  • Email Address
  • Telephone
  • Address