Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach 2024

Dyddiad : 16 Tachwedd 2024 9:00am

Lleoliad : Canol tref Ystrad Mynach, CF82 7AA

Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach 2024
Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach 2024

Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024, 9am – 5pm

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach.

Gwisgwch yn gynnes a pharatoi ar gyfer tymor y Nadolig wrth i Ffair y Gaeaf ddod i Ystrad Mynach!

Bydd Ffair y Gaeaf yn Ystrad Mynach eleni yn dod â fflach y Nadolig i ganol y dref ddydd Sadwrn 16 Tachwedd!

Bydd y ffair yn rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig yn gynnar, gyda detholiad arbennig o tua 30 stondin bwyd a chrefft, a fydd wedi’u gosod ar hyd y dref ac yn gwerthu anrhegion hardd, o addurniadau Nadolig a gemwaith i fwyd pob blasus a danteithion Nadoligaidd traddodiadol.

Bydd ychydig o reidiau ffair i blant bach ar hyd a lled canol y dref, yn ogystal â gwledd o gymeriadau Nadoligaidd yn crwydro safle'r digwyddiad i ddiddanu'r teulu cyfan. Bydd yna hefyd lwyfan cymunedol gyda pherfformiadau Nadoligaidd gan ysgolion, corau, bandiau a chantorion lleol yn helpu cael pawb yn ysbryd y Nadolig.

Yn ogystal â'r stondinau a’r adloniant, mae gan y dref ystod wych o siopau canol tref annibynnol. Cydiwch yn eich bagiau siopa chi a dewch draw i ymuno yn yr hwyl Nadoligaidd rhwng 9am a 5pm!

Mae'r digwyddiad hwn AM DDIM!

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.visitcaerphilly.com.

Ymholiadau:
📧digwyddiadau@caerffili.gov.uk
📞01443 866390

Mae Ystrad Mynach yn Dref Smart!

Archwilio'r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair y Gaeaf, Ystrad Mynach, trwy lawrlwytho'r ap VZTA Smart Towns.

Lawrlwythwch am ddim, yma.

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

LU logo-Cymraeg