Ffair y Gaeaf, Caerffili 2024, Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt

Dyddiad : 30 Tachwedd 2024 9:00am

Lleoliad : Canol tref Caerffil, CF83 1JL

Ffair y Gaeaf, Caerffili 2024, Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt
Ffair y Gaeaf, Caerffili 2024, Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt

Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024, 9am – 6pm (gorymdaith: 5pm, arddangosfa tân gwyllt: 5:45pm)

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook Swyddogol Ffair y Gaeaf, Caerffili.

Ffair y Gaeaf yng Nghaerffili ar ddydd Sadwrn 30 Tachwedd yw’r lle perffaith i chi deimlo ysbryd y Nadolig! 

Profwch olygfeydd, seiniau ac arogleuon y dref a’r castell wrth baratoi ar gyfer y Nadolig, gyda bwyd stryd blasus, arogl gwin brwd, theatr stryd gyffrous a dros 60 o stondinau bwyd, crefft a rhoddion, gan gynnwys atyniadau ffair i ddiddanu’r holl deulu!

Amseroedd digwyddiadau:

  • Ffair y Gaeaf, Caerffili: 9am-6pm
  • Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni: 5:00pm
  • Arddangosfa Tân Gwyllt: 5:45pm

Wrth ymweld â Ffair y Gaeaf yng Nghaerffili, cofiwch fynd i'r Farchnad Ffermwyr boblogaidd yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Ffair Grefftau Crafty Legs wrth y senotaff, a Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell. Mae'r holl farchnadoedd hyn yn ategu Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Caerffili, a'r cymysgedd o siopau annibynnol a siopau’r stryd fawr sydd yn y dref.

Mae'r digwyddiad hwn AM DDIM! Mae ffioedd mynediad arferol yn berthnasol i’r castell.

Ymholiadau:

Mae Cyngor Tref Caerffili yn cynorthwyo’r digwyddiad hwn.

Mae Caerffili yn Dref Smart!

Archwilio'r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair y Gaeaf, Caerffili, trwy lawrlwytho'r ap VZTA Smart Towns.

Lawrlwythwch am ddim

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. 

#CroesoCaerffili #DewisLleol #DewisLleolYNadoligHwn #UKSPF

LU-logo-welsh-translation.png