Ffair y Gaeaf, Coed Duon 2024

Dyddiad : 23 Tachwedd 2024 9:00am

Lleoliad : Canol tref Coed Duon, NP12 1AH

Ffair y Gaeaf, Coed Duon 2024
Ffair y Gaeaf, Coed Duon 2024

Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024, 9am - 5pm

Dewch draw i Ffair y Gaeaf, Coed Duon, ar ddydd Sadwrn 23 Tachwedd i brofi hwyl a chyffro'r Nadolig!

P’un a ydych chi’n dymuno prynu anrheg Nadolig gynnar i chi eich hun neu'n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig, gallwch grwydro o gwmpas detholiad bendigedig o stondinau bwyd a chrefft, yn ogystal â'r ystod wych o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr. Mae'r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle delfrydol i chi gychwyn ar eich siopa Nadolig chi.

Bydd digonedd o adloniant i’r teulu cyfan gyda dewis eang o reidiau ffair, yn ogystal â chymeriadau stryd a sioeau stryd Nadoligaidd! Bydd Cyngor Tref Coed Duon yn cynorthwyo’r digwyddiad gyda phrif lwyfan dan ei sang gyda grwpiau, dawnswyr a chantorion lleol i chi deimlo ysbryd yr ŵyl.

Mae'r digwyddiad hwn AM DDIM!

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol. Am ragor o wybodaeth, ewch i  www.visitcaerphilly.com.

Ymholiadau:

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i gynorthwyo gan Gyngor Tref Coed Duon.

Mae’r Coed Duon yn Dref Smart!

Archwilio'r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair y Gaeaf, Coed Duon, trwy lawrlwytho'r ap VZTA Smart Towns.

Lawrlwythwch am ddim

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau.  Am ragor o wybodaeth.

#CroesoCaerffili #DewisLleol #DewisLleolYNadoligHwn #UKSPF

LU-logo-welsh-translation.png