Dyddiad : 13 Gorffennaf 2024 9:00am
Lleoliad : Stryd Fawr, canol tref Coed Duon, NP12 1AH
Parti Traeth Coed Duon 2024
Dydd Sadwrn 13 Gorffenaf 2024, 9am - 5pm
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Coed Duon yn falch o gyhoeddi bod Parti Traeth Coed Duon yn dod i’r dref! Ddydd Sadwrn 13 Gorffenaf, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AH, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan!
Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall! Bydd Cyngor Tref Coed Duon hefyd yn trefnu prif lwyfan gyda rhaglen adloniant lawn drwy’r dydd, a fydd yn cynnwys cantorion, bandiau a dawnswyr lleol.
Bydd canol tref Coed Duon yn ferw o brysurdeb, gan roi hwb i nifer yr ymwelwyr â’r manwerthwyr a lleoliadau lletygarwch lleol, felly, cofiwch roi’r dyddiad yn y dyddiadur!
Ariennir y digwyddiad hwn gan Gyngor Tref Coed Duon a'i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
I gael rhagor o wybodaeth am y parti traeth, gan gynnwys y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a gweithgareddau eraill ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/events.
Mae’r Coed Duon yn Dref Smart!
Archwilio'r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi ym Mharti Traeth Coed Duon, trwy lawrlwytho'r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim