Dyddiad : 07 Rhagfyr 2024 9:00am
Lleoliad : Canol tref Bargod, CF81 8QT
Ffair y Gaeaf, Bargod 2024, yn cynnwys Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni
Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024, 9am - 6pm (Gorymdaith: 5pm)
Bydd Bargod yn dod yn fyw ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr wrth i'r dref gynnal ei ffair Nadoligaidd flynyddol, gyda Gorymdaith Llusernau Cerddoriaeth a Goleuni!
Bydd stondinau Nadoligaidd, adloniant a reidiau ffair yn dod â’r fflach Nadoligaidd ychwanegol hwnnw i’r dref, gan gynnig gwledd go iawn i drigolion lleol.
Mae gan ganol tref Bargod ystod fendigedig o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr hefyd, sy’n rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig. Profwch dref fach sydd â llawer i'w gynnig!
Mae Ffair y Gaeaf ym Margod AM DDIM!
Ymholiadau:
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i gynorthwyo gan Gyngor Tref Bargod.
Mae Bargod yn Dref Smart!
Archwilio'r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair Bwyd a Chrefft y Gaeaf, Bargod, trwy lawrlwytho'r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim
This project is part-funded by the UK Government through the UK Shared Prosperity Fund.
Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau.
#VisitCaerphilly #ChooseLocal #ChooseLocalThisChristmas #UKSPF