Tocynnau tymor
Bydd taliadau meysydd parcio yn cael eu hailgyflwyno ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili ar 2 Ionawr 2023, gan gynnwys tocynnau tymor.
Mae tocynnau tymor yn ffordd gyfleus o barcio a gallen nhw arbed arian i chi yn hytrach na thaliadau talu ac arddangos dyddiol.
Sut ydw i'n prynu neu adnewyddu tocyn tymor?
Cyhoeddir pob tocyn tymor ar y cyd â'n telerau ac amodau.
GWNEWCH GAIS A THALU NAWR
Pa mor hir bydd yn ei gymryd i gyhoeddi'r tocyn?
Mae'n cymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i ni gyhoeddi tocyn tymor a'i bostio atoch chi. Bydd yn ddilys o'r dyddiad y caiff ei gyhoeddi, nid y dyddiad prynu. Bydd unrhyw gamgymeriad neu wybodaeth sydd ar goll yn eich cais, neu fethiant i dalu'r swm cywir, yn arwain at oedi cyn cyhoeddi'ch trwydded.
Hyd nes y byddwch chi wedi derbyn eich tocyn tymor ffisegol, bydd rhaid i chi barhau i brynu tocyn talu ac arddangos dilys am hyd unrhyw arhosiad yn y maes parcio.
A ydw i'n cael defnyddio fy nhocyn tymor mewn unrhyw gerbyd?
Mae tocynnau tymor yn ddilys ar gyfer y maes parcio a'r cerbyd wedi'u nodi ar flaen y tocyn yn unig.
Beth sy'n digwydd o ran tocynnau tymor sydd wedi'u colli neu wedi'u dwyn?
Rydyn ni'n gallu amnewid tocyn tymor sydd wedi'i golli neu wedi'i ddwyn. Bydd rhaid i chi lenwi cais ar-lein newydd ac anfon dogfennau ategol atom ni, os yw'n berthnasol, yn yr un modd â chais newydd am docyn tymor. Bydd tâl o £5 am hyn.
Beth sy'n digwydd os bydda i'n newid fy ngherbyd?
Os byddwch chi'n newid eich cerbyd, bydd angen tocyn tymor newydd arnoch chi.
Bydd angen i chi lenwi cais ar-lein newydd ac anfon dogfennau ategol atom ni, os yw'n berthnasol, yn yr un modd â chais newydd am docyn tymor. Bydd tâl o £5 am hyn.
Bydd angen i chi hefyd ddychwelyd eich hen docyn tymor i'r cyfeiriad isod.
Sut ydw i'n canslo neu ildio fy nhocyn tymor?
Anfonwch eich trwydded atom ni:
Gwasanaethau Peirianneg | Cyfadran yr Amgylchedd
Tŷ Penallta, Parc Tredomen
Ystrad Mynach, Hengoed. CF82 7PG