Dyletswyddau Adrodd 2023 - 2024
Yn unol â'r dyletswyddau o dan adrannau 7 (3) a 10 (2) o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, dyma adroddiad blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y flwyddyn 2023-24.
Y camau a gymerwyd i hybu teithiau teithio llesol
|
- Datblygu cynlluniau dichonoldeb ar gyfer cynigion llwybrau Teithio Llesol ym Margod ac Aberbargod (INMC146, INMC147, INMC149, INMC150 ac INMC153), Cynlluniau 7 ac 8 tref Caerffili (INMC101, INMC370 ac INMC72a), Rhisga (INMC192), ac Ystrad Mynach (INMC319, INMC31, INMC320, INMC328, INMC25 ac INMC88). Roedd pob cynllun yn cynnwys gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymgynghori â'r cyhoedd.
- Llwybr Teithio Llesol - Aberbargod – Bargod – Cefn Fforest | Trafodaeth Caerffili
- Llwybr Teithio Llesol – Parc Lansbury a Van Road, Caerffili | Trafodaeth Caerffili
- Llwybr Teithio Llesol - Wattsville a Rhisga | Trafodaeth Caerffili
- Llwybr Teithio Llesol - Ystrad | Trafodaeth Caerffili
|
Y camau a gymerwyd i sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau a gwelliannau cysylltiedig
|
- Croesfannau heb eu rheoli i gerddwyr ar gyffordd Green Lady, tref Caerffili.
- 4 gorsaf atgyweirio beiciau yn Rhisga.
|
Costau a ysgwyddir ar gyfer cyfleusterau a llwybrau teithio llesol newydd a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig a gynhaliwyd yn y flwyddyn ariannol lawn flaenorol
|
|
Yn ogystal â’r uchod, mae’r wybodaeth a ganlyn yn rhoi trosolwg o’r seilwaith sydd wedi cael ei weithredu yn ystod y flwyddyn flaenorol:
Gwariant dangosol ar gyfer cyfleusterau a llwybrau teithio llesol newydd a gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig sy’n cael eu cyllido neu eu cyllido’n rhannol gan drydydd partïon.
|
- Datblygu'r rhwydwaith a chynlluniau: £822,000
- Datblygu strategaethau rhwydwaith ar gyfer gwella hygyrchedd, cod ymddygiad a hyrwyddo'r rhwydwaith: £81,000
- Mân waith (fel uchod): £140,000
|
Hyd llwybrau newydd (Cerdded, Beicio, Cyd-ddefnyddio)
|
Dim
|
Hyd y llwybrau wedi eu gwella (Cerdded, Beicio, Cyd-ddefnyddio)
|
Dim
|
Cyfleusterau teithio llesol newydd a gwell
|
- Gwelliannau i gerddwyr mewn un lleoliad a gorsafoedd atgyweirio beiciau mewn pedwar lleoliad.
|
Copïau caled ar gael ar gais, yn unol â Chanllawiau statudol y Ddeddf Teithio Llesol (argraffiad 2021)
Dyletswyddau Adrodd 2023/2024 - Fersiwn PDF