PC Cymru Care Ltd

Adroddiad Monitro Contract

  • Enw'r darparwr: Gwasanaeth Byw â Chymorth PC Cymru Care Ltd.
  • Dyddiad yr ymweliad: Dydd Gwener 8 Mawrth 2024, 10am-1pm / Dydd Iau 28 Mawrth 2024, 10am-12.30pm
  • Swyddog(ion) Ymweld: Andrea Crahart, Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Yn bresennol: Pamela James, Rheolwr Cofrestredig / Carl Potts, Unigolyn Cyfrifol (Ymweliad 8 Mawrth 2024)

Cyflwyniad

Mae PC Cymru Care yn darparu gwasanaeth ‘byw â chymorth ar y cyd’, lle mae staff yn cynorthwyo nifer fach o bobl mewn amgylchedd cartref, sy’n meddu ar eu cytundebau tenantiaeth eu hunain. Mae rhai o'r meysydd mae pobl yn cael cymorth gyda nhw yn cynnwys rheoli'r cartref, cyllid, sgiliau/annibyniaeth a chyfranogiad cymunedol.

Mae'r eiddo lle mae pobl yn byw ynddo mewn cymdogaeth ddymunol ac yn agos at amwynderau lleol. Nid oes unrhyw leoedd gwag ar hyn o bryd gan fod 4 o bobl yn cael eu cynorthwyo gan y tîm staff.

Ni chafodd unrhyw bryder neu fater diogelu hysbys eu hadrodd i dîm Comisiynu neu dîm Diogelu Caerffili dros y flwyddyn flaenorol.

Darparwyd Canllaw ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaeth a Datganiad o Ddiben y gwasanaeth. Roedd angen rhai mân newidiadau i ddiweddaru'r Canllaw ar gyfer Defnyddwyr y Gwasanaeth.

Yn dibynnu ar y canfyddiadau yn yr adroddiad, bydd PC Cymru Care yn cael camau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw’r rhai mae'n rhaid eu cwblhau (yn unol â deddfwriaeth) a chamau datblygiadol yw'r rhai sy'n arfer da eu cwblhau.

Argymhellion Blaenorol

Camau unioni

Dylid trefnu hyfforddiant i staff drwy flaenoriaethu hyfforddiant gorfodol i ddechrau, ac unrhyw hyfforddiant arall y byddai staff yn elwa ohono. Amserlen: O fewn 2 mis. Rheoliad 36, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Ffeiliau staff - dylid dileu tystysgrifau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o'r ffeiliau a chadw gwybodaeth gyfyngedig yn unig. Dylid cyhoeddi Contractau Cyflogaeth a dylen nhw gynnwys cyfeiriad at y cyfnod prawf, a chael eu llofnodi gan y ddau barti. Dylid casglu cwestiynau ac atebion cyfweliadau, sgorio atebion i nodi addasrwydd i'r rôl a'u llofnodi/dyddio gan y cyfwelydd. Amserlen: O fewn un mis ac yn barhaus. Rheoliad 35, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Dylid atgyweirio clo drws yr ystafell ymolchi i sicrhau bod pobl yn gallu ei agor a'i gau yn hawdd heb unrhyw broblemau. Amserlen: O fewn 1 mis. Rheoliadau 43 a 44, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Dylid gwneud pob Cynllun Personol (Cynlluniau Darparu Gwasanaeth) yn fwy manwl a gan ganolbwyntio ar yr unigolyn i adlewyrchu gofal a chymorth y person yn llawnach, a darparu rhagor o wybodaeth i staff ei dilyn. Dylai rhanddeiliaid lofnodi pob cynllun. Amserlen: O fewn 2 mis. Rheoliad 15, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Dylid gwella diogelwch tân o ran cofnodi pwy sy'n bresennol yn ystod ymarferion tân, hyd yr ymarfer, meysydd a drafodwyd, unrhyw faterion/unrhyw gamau i'w gwella. Amserlen: O fewn 6 mis ac yn barhaus. Rheoliad 57, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Dylai'r adroddiadau chwarterol a ysgrifennir gan yr Unigolyn Cyfrifol gynnwys dadansoddiad pellach o ganfyddiadau ac adborth gan bobl a gynorthwyir, staff, perthnasau a rhanddeiliaid eraill. Amserlen: O fewn 3 mis ac yn barhaus. Rheoliad 74, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Yn parhau.

Dylid cwblhau Adolygiad o Ansawdd Gofal bob 6 mis er mwyn adrodd ar ansawdd a pherfformiad y gwasanaeth. Amserlen: O fewn 1 mis. Rheoliad 80, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cam gweithredu wedi'i gyflawni, ond mae angen datblygu ymhellach.

Dylid diweddaru'r polisi rheoli heintiau i adlewyrchu'r gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu ac i gynnwys sut mae pobl yn cael eu cynorthwyo pan mae achosion o Covid-19. Amserlen: O fewn 2 mis. Rheoliad 79, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Camau datblygiadol

Diweddaru matricsau hyfforddi trwy ddileu gwybodaeth sydd wedi dyddio, ac ystyried cyfuno'r holl wybodaeth i un matrics i'w gwneud yn haws i'w gweld. Amserlen: O fewn 3 mis. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Nodi arferion dyddiol yn y nodiadau dyddiol fel y gellir cofnodi gwybodaeth fanylach ac mewn ffordd sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn. Amserlen: O fewn 3 mis. Cam gweithredu wedi'i gyflawni.

Unigolyn Cyfrifol

Yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, sy’n llywodraethu sut y dylid darparu gofal a chymorth, mae disgwyl i Unigolyn Cyfrifol y gwasanaeth ymweld â’r gwasanaeth yn rheolaidd a chynhyrchu adroddiadau yn ymwneud ag ansawdd a chydymffurfiaeth y gwasanaeth. Roedd yn amlwg bod Unigolyn Cyfrifol y gwasanaeth wedi cwblhau adroddiadau chwarterol dros y misoedd diwethaf, fodd bynnag, argymhellir rhywfaint o ddatblygiad pellach er mwyn sicrhau bod rhagor o wybodaeth yn cael ei chasglu a bod adborth gan unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth, y teulu ac aelodau staff yn dod i law.

Gofynnwyd am bolisïau a gweithdrefnau ynghylch meysydd gorfodol allweddol, er enghraifft, diogelu, meddyginiaeth, rheoli heintiau ac ati. Roedd yn amlwg bod y mwyafrif helaeth wedi’u hadolygu yn y 12 mis blaenorol, fodd bynnag, nid oedd un wedi’i adolygu ers mis Hydref 2022 a nodwyd un arall i’w adolygu ymhen 10 mlynedd.

Sefydlu a hyfforddiant

Mae PC Cymru Care Ltd. yn parhau i ddefnyddio matricsau hyfforddi electronig i gofnodi'r hyfforddiant mae staff wedi'i fynychu. Roedd yn amlwg bod staff wedi mynychu hyfforddiant allweddol dros y flwyddyn flaenorol, er enghraifft, diogelu, meddyginiaeth, awtistiaeth mewn oedran hŷn, ymwybyddiaeth tân ac ati. Roedd yn braf clywed bod y darparwr wedi buddsoddi mewn pecyn hyfforddi ar-lein (Care Skills) roedd staff yn ei ddefnyddio a gallai'r Unigolyn Cyfrifol weld y gwahaniaeth roedd wedi'i wneud. Mae hyfforddiant wyneb yn wyneb hefyd ar gael trwy Dîm Datblygu'r Gweithlu (Blaenau Gwent/Caerffili) pan fo angen.

Mae staff a gyflogir yn PC Cymru Care wedi cyflawni cymhwyster lefel 2, 3, 4 neu 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau.

Mae'r rheolwr yn ymwybodol o'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan newydd a gyflwynwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru (rheoleiddiwr y gweithlu). Mae'r fframwaith hwn yn darparu cyfnod sefydlu i ofalwyr/gweithwyr cymorth newydd, tra hefyd yn gweithio tuag at gymhwyster mewn gofal cymdeithasol.

Goruchwylio ac arfarnu

Roedd yn amlwg o’r matrics bod goruchwylio a gwerthusiadau wedi’u cynnal gyda staff ar sail un i un yn rheolaidd (hynny yw bob 3 mis ac yn flynyddol, fel y bo’n briodol).

Dogfennau staff

Edrychwyd ar ffeil staff ar gyfer yr aelod diweddaraf o staff a oedd wedi'i gyflogi'n achlysurol. Roedd y ffeil yn cynnwys mynegai a rhanwyr ac roedd gwybodaeth a gynhwyswyd ar y ffeil yn cynnwys, er enghraifft, disgrifiad swydd gweithiwr cymorth, ffurflen gais, 2 eirda ysgrifenedig wedi'u gwirio, cofnod o gyfweliad a sgoriwyd gan 2 aelod o staff, contract cyflogaeth a lofnodwyd gan y ddau barti, a gwybodaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Roedd gwybodaeth a oedd wedi'i hepgor yn cynnwys dogfen adnabod (tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru ddilys) a llun diweddar o'r gweithiwr cymorth.

Staffio

Mae PC Cymru Care yn elwa ar dîm sefydlog o staff lle mae'r bobl a gynorthwyir yn cael cymorth cyson. Mae mwyafrif y staff yn gweithio oriau rhan amser, gan gynnwys rhai staff wrth gefn ac, felly, mae'n galluogi'r rheolwr i gael yr hyblygrwydd i gyflenwi sifftiau'n haws, pan fo angen gan y tîm presennol.

Roedd y staff yn rhoi sylw i anghenion pobl ac yn cyfathrebu’n dda â’r unigolion sy’n byw yma.

Cynlluniau Personol (Cynlluniau Darparu Gwasanaeth)

Gwelwyd bod cynlluniau personol yn fwy manwl yn ystod yr ymweliad hwn ac yn esbonio'n llawnach sut i gynorthwyo pobl orau. Roedd y darparwr wedi gwneud newidiadau i ddyluniad y dogfennau ac roedd wedi ymrwymo i ddatblygu'r cynlluniau'n barhaus i sicrhau eu bod nhw'n canolbwyntio ar yr unigolyn gymaint â phosibl.

O'r ffeiliau yr edrychwyd arnyn nhw, roedd y rhain yn cynnwys manylion cyswllt pwysig, er enghraifft, meddyg teulu, gweithiwr cymdeithasol, deintydd ac ati. Hefyd yn bresennol roedd Cynlluniau Gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Adolygiadau'r Cyngor ac ati, a Chynlluniau Personol a ysgrifennwyd gan PC Cymru Care i arwain staff ar sut i gynorthwyo'r unigolion dan sylw.

Roedd Cynlluniau Personol yn ymdrin â meysydd megis gofal personol, maeth/paratoi prydau bwyd, gweithgareddau, tasgau domestig, cynnal cysylltiadau â ffrindiau/perthnasau ac ati. Roedd y cynlluniau wedi'u llofnodi gan y tîm staff i gadarnhau eu bod nhw wedi darllen a deall y cynnwys. Cyfeiriwyd at yr angen i annog unigolyn i frwsio ei ddannedd ddwywaith y dydd, a'r risg i'r dyn pe bai'n defnyddio Facebook oherwydd ei fod yn niweidiol i'w iechyd meddwl. Nodwyd manylion da hefyd mewn perthynas â’r amseroedd ac ati mae angen i’r person fod yn y gwaith, y dyddiau/amseroedd mae’n ymweld â pherthynas a sut mae’n hoffi bod yn rhan o deithiau siopa (er enghraifft, sut y bydd yn gwthio’r troli siopa, sut y bydd yn gosod eitemau yn y troli ei hun ac yna'n mwynhau mynd am goffi pan fydd y daith siopa wedi'i chwblhau).

Roedd Cynlluniau Personol wedi'u hadolygu bob 3 mis a gwahoddir y teulu i fod yn rhan o'r adolygiadau. Cadarnhaodd y rheolwr fod yr wybodaeth yn cael ei diweddaru’n amlach na bob 3 mis os bydd anghenion pobl yn newid.

Mae gan PC Cymru Care gofnod o ‘arferion dyddiol’ lle mae staff yn cofnodi a yw tasgau penodol wedi’u cyflawni neu beidio, er enghraifft, newid dillad gwely, ymolchi, newid dillad a gwybodaeth ychwanegol am fywyd bob dydd y person dan sylw.

Yr amgylchedd

Mae'r cartref yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda iawn, wedi'i ddodrefnu'n dda, yn lân ac yn daclus. Yn y flwyddyn flaenorol, roedd cegin newydd wedi'i gosod a rhoddwyd gwybod i'r swyddog monitro contractau bod cynlluniau i adnewyddu'r ystafell ymolchi.

Diogelwch tân/Iechyd a diogelwch

Roedd tystiolaeth i awgrymu bod ymarferion tân wedi'u cynnal yn yr eiddo yn ystod 2023 ac yn fwy diweddar yn 2024. Roedd y tîm staff a defnyddwyr y gwasanaeth wedi mynychu'r rhain, ac ni nodwyd unrhyw broblemau ar y pryd.

Mae Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng yn bresennol yn y ffeiliau a welwyd, ac mae 'prif' gopi ar gael i’r holl staff ei weld hefyd.

Meddyginiaeth

Edrychwyd ar gofnodion meddyginiaeth 2 o'r unigolion a oedd yn byw yn yr eiddo. Roedd y rhain yn cynnwys llun cyfredol o’r unigolyn a manylion cyswllt, er enghraifft, y Meddyg Teulu, fferyllydd lleol ac ati.

Roedd siartiau Cofnodion Rhoi Meddyginiaethau wedi'u cyrchu drwy fferyllfa leol ac wedi'u cwblhau gan staff bob dydd i gadarnhau bod meddyginiaeth wedi'i rhoi.

Mae PC Cymru Care yn cadw cofnod archwilio ar gyfer meddyginiaeth pob person i sicrhau bod y feddyginiaeth yn cael ei chyfrif yn ddyddiol fel y gellir nodi unrhyw anghysondebau yn brydlon. Mae gwiriad hefyd ar ddechrau pob sifft.

Sicrhau ansawdd

Roedd yr Unigolyn Cyfrifol wedi cwblhau adolygiad Sicrhau Ansawdd 6 misol ym mis Chwefror 2024 a oedd yn nodi nad oedd unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth o ran, er enghraifft, cwynion, materion diogelu ac ati, nid oedd unrhyw ymweliadau proffesiynol i adrodd arnyn nhw (er enghraifft Arolygiaeth Gofal Cymru) a nodwyd unrhyw welliannau a wnaed ers yr adroddiad diwethaf fel gweithredu’r hyfforddiant sgiliau gofal ar-lein i staff. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yn gryno o ran cynnwys a byddai'n elwa o gael rhagor o fanylion a dadansoddiad.

Sylwadau cyffredinol gan y Swyddog Monitro Contractau

Roedd yr holl unigolion adref yn ystod yr ymweliad ac mewn hwyliau da iawn gyda llawer o wenu a chwerthin. Roedd y bobl yn ymddangos yn dda ac wedi gwisgo'n briodol ar gyfer y tywydd.

Roedd pobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, er enghraifft, rhoi dillad ar y lein, tacluso eu hystafell wely, neu fynd allan yn y gymuned. Dangosodd rhai defnyddwyr gwasanaeth luniau i'r swyddog monitro contractau roedden nhw wedi'u tynnu ac roedden nhw'n falch o'r hyn roedden nhw wedi'i gyflawni.

Camau Unioni / Datblygiadol

Adolygu'r polisi sy’n ymwneud â ‘rheoli digwyddiadau treisgar’ (rheoli ac atal) i sicrhau ei fod yn parhau i fod mor gyfredol â phosibl, ac adolygu polisïau eraill yn rheolaidd i sicrhau eu bod nhw mor gyfredol â phosibl. Rheoliad 12, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Amserlen: O fewn blwyddyn ac yn barhaus.

Canllaw ar gyfer Defnyddwyr y Gwasanaeth – Angen gwneud rhai mân newidiadau (terminoleg a manylion cyswllt). Rheoliad 14, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Amserlen: O fewn 3 mis.

Recriwtio Staff – Sicrhau bod lluniau diweddar a dogfennau adnabod priodol yn cael eu cadw ar ffeiliau staff (tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru ddilys). Rheoliad 34, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Amserlen: Yn barhaus.

Adroddiadau'r Unigolyn Cyfrifol (chwarterol a chwe misol) – Angen cynnwys dadansoddiad pellach o ganfyddiadau’r ymweliad (hynny yw, lefelau staffio, unrhyw salwch, unrhyw ganmoliaeth a dderbyniwyd, adborth gan randdeiliaid ac ati). Rheoliad 73, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Amserlen: O fewn 3 mis ac yn barhaus.

Casgliad

Mae'r bobl sy'n byw yn y gwasanaeth yn cael eu cynorthwyo gan staff â chymwysterau addas sydd â mynediad at raglen hyfforddi ar-lein a hyfforddiant wyneb yn wyneb er mwyn cynnal a galluogi datblygiad staff.

Cefnogir unigolion i gyflawni eu nodau ac mae Cynlluniau Personol yn fwy manwl ac yn canolbwyntio mwy ar yr unigolyn nag o'r blaen. Roedd y rhain wedi'u hadolygu'n rheolaidd, gyda chyfranogiad gan aelodau'r teulu.

Roedd y darparwr wedi bodloni mwyafrif yr argymhellion a wnaed yn ystod ymweliad monitro’r llynedd.

Mae angen datblygu adroddiadau chwarterol a chwe misol yr Unigolyn Cyfrifol ymhellach i sicrhau eu bod nhw'n bodloni gofynion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Hoffai'r swyddog monitro contractau ddiolch i PC Cymru Care am eu hamser a'u lletygarwch yn ystod yr ymweliadau monitro.

  • Awdur: Andrea Crahart
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: Ebrill 2024