ALP Supported Living Services

Adroddiad Monitro Contract

  • Enw y Darparwr: ALP Supported Living Ltd
  • Dyddiad yr ymweliad: 22 Chwefror 2024 (Ymweliad â'r swyddfa, Glynebwy)
  • Swyddog Ymweld: Caroline Roberts, Swyddog Monitro Contractau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Yn bresennol: Andrea Bayliss, Unigolyn cyfrifol – Ymweliad â'r swyddfa / Leanne Bayliss, Rheolwr Cofrestredig – Ymweliad â'r swyddfa

Cefndir

Mae ALP Supported Living Services yn darparu gofal a chymorth personol i bobl ag amrywiaeth o anableddau gan gynnwys iechyd meddwl, anableddau corfforol, anableddau dysgu ac unigolion sy'n agored i niwed sydd angen cymorth i'w helpu nhw i wneud y gorau o'u potensial a'u hannibyniaeth, rhwng 18 a 70 oed. Darperir gofal personol i unigolion sy'n byw mewn dau dŷ ar wahân ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae ALP hefyd yn berchen ar eiddo yng Nghasnewydd sy'n cynnig yr un cymorth.

ALP yw'r landlord a'r darparwr cymorth.

Fel rhan o'r broses fonitro, aeth y Swyddog Monitro i'r brif swyddfa yng Nglynebwy ac un o'u heiddo. Yn ystod yr ymweliadau hyn, cynhaliwyd trafodaethau gyda'r tenantiaid a'r staff cymorth, yn ogystal ag edrych ar ddogfennau.

Mae atgyfeiriadau ar gyfer ALP Supported Living yn cael eu gwneud yn uniongyrchol trwy awdurdodau lleol. Ar ôl cael yr atgyfeiriad, bydd y darparwr yn ystyried a yw’n cyd-fynd â thenantiaid eraill a sicrhau bod digon o staff i ddiwallu anghenion yr unigolyn.

Mae unrhyw ddarpar denant newydd yn cael ei wahodd i'r eiddo ar sawl achlysur i arsylwi sut maen nhw a'r tenantiaid eraill yn rhyngweithio. Cymerir safbwyntiau a barn y tenantiaid presennol cyn symud.

Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r adroddiad, gall y darparwr gael camau unioni a datblygiadol i'w cwblhau. Camau unioni yw'r rhai y mae'n rhaid eu cwblhau, yn unol â deddfwriaeth fel Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru), ac argymhellion arfer da yw camau datblygiadol.

Argymhellion Blaenorol o 2022

Camau unioni

Unigolyn Cyfrifol i gwblhau adroddiadau chwarterol – Rheoliad 74, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol. WEDI'I GYFLAWNI.

Cynnal adolygiadau bob 3 mis neu’n gynt os nodir newidiadau – Rheoliad 16, Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol. WEDI'I GYFLAWNI.

Camau datblygiadol

Recordiadau dyddiol i fod yn fwy personol. WEDI'I GYFLAWNI.

Diweddaru Cynlluniau Personol Gadael mewn Argyfwng (PEEPS) yn flynyddol. WEDI'I GYFLAWNI

Pob ffeil i gynnwys proffiliau person coll. WEDI'I GYFLAWNI.

Gwybodaeth gan yr Unigolyn Cyfrifol a sicrhau ansawdd

Rhannodd yr Unigolyn Cyfrifol y Datganiad o Ddiben wedi'i ddiweddaru, a oedd wedi'i ddiwygio ym mis Ionawr 2024. Mae'r ddogfen yn amlinellu nodau ac amcanion y darparwr gwasanaeth.

Y cynllun wrth gefn, pe bai'r Unigolyn Cyfrifol a Rheolwr Cofrestredig yn absennol ar yr un pryd, yw y byddai'r Rheolwr Cofrestredig o wasanaeth arall yn helpu.

Mae gofyn i'r Unigolyn Cyfrifol ymweld â'r eiddo o leiaf bob tri mis (rheoliad 74) a llunio adroddiad o leiaf bob chwe mis (rheoliad 80).

Er mwyn i'r gwasanaeth weithredu'n effeithiol, mae angen polisïau a gweithdrefnau gorfodol (e.e. Diogelu, Rheoli Heintiau, Meddyginiaeth, Cwynion ac ati). Edrychwyd ar y rhain a gwelwyd eu bod nhw'n gyfredol.

Gwelwyd y 3 adroddiad chwarterol diwethaf a gwelwyd eu bod nhw'n casglu'r wybodaeth briodol fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol. Hefyd, roedd cyfeirio at adroddiad Rheoliad 80.

Mae'r Unigolyn Cyfrifol wedi mabwysiadu dull newydd o gasglu adborth gan berthnasau a gweithwyr proffesiynol eraill. Mae'r Unigolyn Cyfrifol bellach yn cysylltu ar y ffôn, yn hytrach na chyhoeddi arolygon.

Isod, mae detholiadau o adroddiad yr Unigolyn Cyfrifol:

“…….., Rwy'n hapus iawn gyda'r ffordd y mae X yn cael ei gynorthwyo. Mae X wedi cael cymorth mewn unrhyw weithgareddau a theithiau ei fod wedi gofyn amdanyn nhw gan gynnwys mynd i'r coleg, teithiau chwaraeon a chymorth i wahanol leoedd ar gyfer y gwaith elusennol. ….mae’r staff a thenantiaid eraill wedi dod yn deulu yn ogystal â ffrindiau…”

“Yn enwedig, hoffwn i ddiolch i chi a’ch tîm am yr holl gymorth a ddangoswyd gennych chi pan syrthiodd X a thorri ei glun. Roedd hwn yn gyfnod eithriadol anodd i bawb, ond roedd eich tîm nid yn unig yn rhoi cymorth i X, ond hefyd wedi dangos gofal gwirioneddol. Roedden ni'n gwybod pan ddychwelodd X adref y byddai'n ddiogel ac y byddai X yn cael cymorth wrth adfer. Mae'n dyst i'r gofal hwn na fyddech chi byth yn meddwl iddo ddioddef yr anaf hwn. Diolch am yr holl gariad a gofal rydych chi wedi'i ddangos i X dros y blynyddoedd.”

“……….Does gen i ddim byd ond canmoliaeth am y gofal a’r cymorth y mae X yn ei gael…”

“Rwy’n hollol ddiolchgar am y gofal gwych y mae mam yn ei gael”

Roedd adborth cadarnhaol hefyd gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn partneriaeth â'r darparwr ac, yn enwedig, yr unigolion.

Cwestiynau ar gyfer y Rheolwr

Yn ystod yr ymweliad, gofynnwyd cyfres o gwestiynau i'r Rheolwr Cofrestredig mewn perthynas â'r gwasanaeth.

Mae meddyginiaeth yn cael ei harchwilio bob wythnos, ac mae'r darparwr yn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud mewn modd amserol oherwydd nifer y problemau iechyd y mae un unigolyn wedi bod yn eu profi.

Mae'r feddyginiaeth wedi'i llofnodi ddwywaith os bydd dau aelod o staff ar gael; fodd bynnag, os mai dim ond un, yna dim ond un llofnod a gofnodir. Mae'r holl feddyginiaeth wedi'i storio mewn cwpwrdd cloadwy.

Ceir adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid trwy e-bost a galwadau ffôn. Yn ystod y cyfnod diwethaf, nid oedd unrhyw awgrymiadau ar gyfer newidiadau posibl. Fodd bynnag, mae'r darparwr yn agored i awgrymiadau.

Pan ofynnwyd iddo am eiriolaeth, dywedodd y Rheolwr Cofrestredig fod gan unigolion yr opsiwn i gael cymorth gan eiriolwr a bod rhai tenantiaid yn cael cymorth gan Person 2 Person.

Mae gan staff fynediad at hyfforddiant ac, yn ddiweddar, ymgymerwyd â hyfforddiant diffibriliwr mewn llyfrgell leol. Asesir ansawdd yr hyfforddiant trwy arsylwi ac wrth ei ddefnyddio'n ymarferol.

Mae rhai aelodau o staff yn gweithio dros 48 awr.

Ar hyn o bryd, nid yw’r darparwr yn darparu’r ‘Cynnig Rhagweithiol’ gan nad oes unrhyw denant sy'n cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd y Rheolwr Cofrestredig, os bydd angen, mae ganddyn nhw fynediad at y Gwasanaeth Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Cymraeg.

Dangosodd y Rheolwr Cofrestredig ei wybodaeth am y broses ddiogelu drwy esbonio'r broses i'r Swyddog Ymweld a dywedodd fod Gweithdrefn Diogelu Cymru Gyfan wedi'i lawrlwytho i'w ffonau symudol i'r holl staff.

Cwynion a Chanmoliaeth

Cynghorodd y Rheolwr Cofrestredig fod sylwadau wedi'u gwneud; fodd bynnag, dim cwynion ffurfiol. Mae staff yn delio ag unrhyw faterion dydd i ddydd y gall y tenantiaid eu codi; fodd bynnag, pe bai pryder mwy ffurfiol/difrifol, byddai hwn yn cael ei gyfeirio at y Rheolwr Cofrestredig i ddelio ag ef a cheisio ei ddatrys.

Pe bai cwyn am aelod o staff, byddai hyn yn cael ei drafod gyda nhw ar sail 1:1 a gobeithio ei ddatrys er boddhad yr achwynydd.

Gwybodaeth staffio

Dywedodd y Rheolwr Cofrestredig mai dim ond un aelod newydd o staff sydd wedi ymuno ag ALP, a'i fod yn dilyn Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru.

Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae un aelod o staff wedi gadael ALP i ddilyn gyrfa newydd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw hefyd wedi cyflogi un aelod newydd o staff.

Ar adeg y monitro, nid oedd unrhyw aelod o staff ar absenoldeb salwch hirdymor.

Nid yw'r darparwr wedi gorfod defnyddio gweithwyr asiantaeth am y tair blynedd diwethaf.

Os bydd argyfwng, mae gan staff fynediad at gymorth 24 awr drwy'r system ar alwad sydd ar waith.

Cynhelir hyfforddiant gorfodol a hyfforddiant nad yw'n orfodol. Ar ddechrau pob blwyddyn, bydd yr Unigolyn Cyfrifol a'r Rheolwr Cofrestredig yn cwrdd i drafod yr hyfforddiant gofynnol.

Edrychodd y Swyddog Monitro ar ddwy ffeil staff er mwyn sicrhau bod yr holl ddogfennau angenrheidiol yn bresennol. Ar y ddwy ffeil roedd tystiolaeth o wybodaeth gyfredol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, tystlythyrau ysgrifenedig, hanes cyflogaeth ac ati. Gwelwyd ffotograffau o'r aelodau staff hefyd. Roedd gan y ddau aelod o staff Gontract Cyflogaeth.

Roedd rhai tystysgrifau hyfforddi yn y ddwy ffeil. Fodd bynnag, mae mwyafrif y tystysgrifau wedi'u hargraffu a'u cadw gan yr aelod o staff.

Edrychwyd ar y matrics hyfforddi, a sylwyd bod yr holl hyfforddiant gorfodol priodol wedi'i gyflawni, ynghyd â hyfforddiant nad yw'n orfodol a fyddai o fudd i'r staff sy'n cynorthwyo'r unigolion.

Arsylwyd ar y matrics goruchwylio, ac roedd yn amlwg bod yr holl staff yn cael sesiynau goruchwylio rheolaidd, sy'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb ac ar sail un-i-un. Hefyd, cynhaliwyd gwerthusiadau blynyddol.

Camau unioni a datblygiadol

Camau unioni

Ni nodwyd dim.

Camau datblygiadol

Ni nodwyd dim.

Casgliad

Rhannwyd polisïau a gweithdrefnau gorfodol cyn yr ymweliad a nodwyd eu bod nhw'n cael eu hadolygu'n flynyddol neu yn ôl yr angen.

Mae gan ALP dîm cymorth sefydlog sy'n caniatáu cysondeb i'r unigolion y maen nhw'n eu cynorthwyo. Cynigir amrywiaeth o hyfforddiant i staff er mwyn caniatáu iddyn nhw gynorthwyo'r unigolion a chyflawni eu rolau.

Roedd y ddwy ffeil staff a welwyd yn cynnwys yr holl ddogfennau gofynnol.

Bydd monitro rheolaidd yn parhau, a hoffai'r Swyddog Monitro ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu hamser, yr wybodaeth maen nhw wedi'i rhannu, a'r lletygarwch maen nhw wedi'i ddangos yn ystod yr ymweliad.

  • Awdur: Caroline Roberts
  • Swydd: Swyddog Monitro Contractau
  • Dyddiad: 12 Ebrill 2024