Pwy sy'n gallu defnyddio'r cynllun?

Gall Reolwyr Gofal a gweithwyr proffesiynol iechyd gyflwyno atgyfeiriadau i unrhyw un dros 18 oed sydd wedi cael ei asesu bod angen gofal neu gymorth ychwanegol arnyn nhw.

Gall yr unigolion sy'n cael cymorth Cysylltu Bywydau fod ag anableddau dysgu neu gorfforol, gallen nhw fod yn bobl hŷn sydd yn fregus neu'n byw gyda dementia, neu bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae Cysylltu Bywydau yn hyblyg iawn ac yn gallu bod yn addas i bobl ag anghenion amrywiol. 

Mae Cysylltu Bywydau yn cynnig dewis gwahanol go iawn i fathau mwy traddodiadol o gymorth a llety ac, yn aml, mae'n cael ei ddewis gan ei fod yn seiliedig ar deuluoedd, yn hynod bersonol, ac yn rhoi cyfle i bobl ddatblygu a chynnal eu hannibyniaeth, cyfeillgarwch, perthnasau a chysylltiadau o fewn eu cymunedau eu hunain.

Gweler ein Storïau Digidol er mwyn clywed rhagor am y gofalwyr a'r unigolion hyfryd rydyn ni'n gweithio gyda nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ffoniwch ni ar 01443 864784 i sgwrsio gyda gweithiwr ar ddyletswydd, neu anfon e-bost i lleolioedolion@caerffili.gov.uk

Cysylltwch â ni