Dod yn ofalydd Cysylltu Bywydau
Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn rhannu eu cartref, eu teulu a'u bywyd cymunedol â'r unigolyn y maen nhw'n cael eu paru ag ef, gan roi cymorth i ddatblygu a chynnal sgiliau byw'n annibynnol, cyfeillgarwch a chysylltiadau yn ei ardal leol. O ganlyniad, mae llawer o'n gofalwyr yn datblygu perthynas tymor hir a gwerth chweil, gan groesawu'r unigolyn i mewn i'w deulu.
Mae ein gofalwyr yn dod o bob cefndir ac maen nhw'n dewis gofalu am amrywiaeth eang o resymau. Nid yw profiad ffurfiol o ofalu yn angenrheidiol, ond mae brwdfrydedd, cymhelliant ac ymrwymiad yn hanfodol.
Os fyddwch chi'n gwneud cais i ddod yn Ofalwr Cysylltu Bywydau, byddwch chi'n cael eich cynorthwyo drwy broses asesu drylwyr ac yn cael cymorth parhaus gan y tîm Cysylltu Bywydau. Mae ein gofalwyr yn cael cynnig hyfforddiant amrywiol ac yn cael tâl am y trefniadau y maen nhw'n eu darparu.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
- Hyblygrwydd i weithio o'ch cartref eich hun.
- Rôl foddhaus a gwerth chweil.
- Tâl am y trefniant rydych chi'n ei ddarparu.
- Cymorth ac ymweliadau rheolaidd gan un o'n tîm.
- Cyfleoedd hyfforddi parhaus.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, ffoniwch ni ar 01443 864784 i sgwrsio gyda gweithiwr ar ddyletswydd, neu anfon e-bost i lleolioedolion@caerffili.gov.uk