Newyddion Caerffili - Rhifyn 21 Mehefin 2024

Penawdau

Gŵyl Câr-ffili yn dychwelyd! Ar ôl llwyddiant yr ŵyl i ofalwyr y llynedd, rydyn ni’n cynnal un arall! Ddydd Sul 16 Mehefin rhwng 12pm a 6pm, rydyn ni'n croesawu pob gofalwr a’u teuluoedd nhw i Glwb Rygbi Coed Duon am hwyl, bwyd, cerddoriaeth, adloniant ac yn bwysicaf oll, amser da. Gan fod dydd Sul y Tadau ar y dyddiad hwn hefyd, bydd pob tad yn cael anrheg fach i ddathlu eu diwrnod arbennig.

Gweithgareddau blaenorol

Roedden ni’n meddwl yr hoffech chi weld rhai o’r pethau hyfryd rydyn ni wedi gallu eu trefnu dros y misoedd diwethaf. Rydyn ni wedi cynnal ein diwrnod maldodi a gwybodaeth ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, ein Dawns Nadolig, cinio gyda'r nos, taith ysbrydion a sesiwn ddringo yn Rock UK Summit Centre. Hefyd, rydyn ni wedi trefnu sesiynau crefft, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn. Felly, byddwn ni’n ceisio trefnu rhagor o’r gweithgareddau hyn dros y misoedd nesaf.

Rydyn ni'n gwybod bod gan bawb sefyllfa unigol, felly, byddem ni wrth ein bodd yn cael rhai awgrymiadau ar gyfer gwahanol weithgareddau ar gyfer y dyfodol.

Mae rhestr o weithgareddau sydd ar y gweill yn y rhifyn hwn o'r cylchlythyr; fodd bynnag, rydyn ni'n trefnu rhagor o bethau wrth iddyn nhw godi, felly, dyma erfyn unwaith eto i chi gofrestru drwy e-bost neu ymuno â'n grwpiau Facebook ni. (E-bostiwch ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk neu gofrestru drwy chwilio am “Caerphilly County Carers Group” neu “Caerphilly County Young Carers Group".) Wrth gwrs, rydyn ni’n deall nad yw pob un ohonoch chi ar-lein, felly, mae croeso i chi ein ffonio ni unrhyw bryd i weld a oes gennym ni ragor o bethau wedi'u trefnu.

Straeon Gofalwyr Ifanc

Da iawn Angel!

Mynychodd y gofalwr ifanc Angel Morgan y sesiynau Cymorth Cyntaf i Ofalwyr Ifanc, gan ei bod hi am ddysgu sut i gynorthwyo ei thad sy’n epileptig a diabetig. Fe wnaeth Angel fwynhau cymaint, cysylltodd ei mam Karen â'r Moch Daear Cymorth Cyntaf i weld sut y gallai ymuno, gan ei bod hi'n awyddus i gynorthwyo eraill pe bai'r angen yn codi, heb fod yn nerfus nac yn ofnus. Mae Angel wedi caru bod yn rhan o'r Moch Daear ac ym mis Medi, mae'n gobeithio symud ymlaen i'r Cadetiaid. Mae hi hefyd yn gallu datblygu ei gallu i siarad Cymraeg gyda'r Hyfforddwr Cymorth Cyntaf/Parafeddyg, Leighton.

Os oes gan unrhyw ofalwr sy'n oedolyn neu ofalwr ifanc ddiddordeb yn yr hyfforddiant cymorth cyntaf, cysylltwch ag aelod o'r tîm i ychwanegu eich enw at y rhestr aros.

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc Heolddu

Fe wnaeth gofalwyr ifanc a’r arweinydd gofalwyr ifanc Mrs Alison Lavelle ddathlu'r diwrnod mewn steil! Cafodd gefnogaeth dda yn Ysgol Gyfun Heolddu, a gynhaliodd ffair gacennau i godi ymwybyddiaeth ac fe gafodd £140 ei godi, a fydd yn cael ei ddefnyddio ar dripiau a danteithion i ofalwyr ifanc.

Hefyd, fe gawson nhw eu gwobr am gynorthwyo gofalwyr ifanc mewn ysgolion, a gafodd ei chyflwyno yn ystod gwasanaeth ynghylch gofalwyr ifanc gan y Pennaeth, Nerys Davies. Fe wnaeth Rosie Richmond o The Care Collective ei chyflwyniad terfynol cyn i The Care Collective ddod i ben ddiwedd mis Mawrth 2024.

Paid rhoi'r gorau iddi!

Yn chwech oed, daeth Jaylee Maylin Coles yn ofalwr ifanc i’w brawd pedair oed ac, yn 12 oed, roedd hithau'n cael ei gofalu amdani. Roedd y straen yn ei gwneud hi'n anodd iddi ymgysylltu â'r ysgol.

Dywedodd Jaylee fod yr aflonyddwch a’r straen wedi ei gwneud hi’n “wrthryfelgar ac anghwrtais”. Roedd hi’n ddigalon ar ôl cael ei gwahanu oddi wrth ei brawd a’i mam ac yn “grac gyda’r byd”.

“Wnes i ddim dewis bod yn ofalwr ifanc. Ceisiais fy ngorau glas i helpu gofalu am fy nheulu, yn enwedig fy mrawd ieuengaf, trwy goginio bwyd, gwneud pecynnau bwyd, a sicrhau bod dillad yn lân. Roeddwn i'n delio â llawer o gyfrifoldeb gartref.

Cafodd Jaylee ei gwahardd o dair ysgol a'i diarddel o Goleg y Cymoedd.

Dywedodd Jaylee, “Roedd yn teimlo fel bod pawb o fy nghwmpas yn fy ngweld fel person cas. Roeddwn i'n grac ac yn isel. Roedd ysgolion eisiau fy nghynorthwyo, ond nid oeddwn eisiau’r cymorth hwnnw.

Cafodd Jaylee “flwyddyn o seibiant” cyn i’r coleg gytuno i’w haildderbyn ar gwrs busnes. Cafodd hi gynnig help a dywedodd ei bod wedi tyfu lan digon i'w dderbyn.

Mae Jaylee yn cael ei chynorthwyo gan swyddog lles y Coleg a'r arweinydd gofalwyr, Laura Wilson, sydd wedi helpu Jaylee i ddatblygu patrwm gweithio mwy hyblyg sy’n cynorthwyo ei hastudiaethau a’r rôl ofalu sydd ganddi gartref o hyd.

Fel eiriolwr lles a llysgennad dysgu ar gyfer Coleg y Cymoedd, mae Jaylee wedi cynnal sgyrsiau ar gampws Nantgarw, gan fynychu diwrnodau agored a digwyddiadau, a chwrdd a helpu arwain gofalwyr ifanc eraill sy'n wynebu rhwystrau yn ymwneud â'r coleg.

Ers gweddnewid ei bywyd, mae Jaylee yn benderfynol o fynd i’r brifysgol ac yn gweithio gyda phrosiect 'Ymestyn yn Ehangach’ y Coleg, gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, sy’n helpu gofalwyr ifanc ac “unigolion sy'n cael eu tangynrychioli” gyda cheisiadau am leoedd ym mhrifysgolion Cymru.

Gofalwr Ifanc y Flwyddyn 2024 – llongyfarchiadau i Dewi Miles

Cafodd Dewi Miles ei gyflwyno ar gyfer y wobr, ar ôl dod o'r rhaglen i ofalwyr ifanc, grŵp prosiect a chabinet Fforwm Ieuenctid Caerffili, lle mae'n cyflawni ei rôl newydd fel swyddog codi arian.

Dywedodd Neil Griffiths o’r Fforwm Ieuenctid, “trwy gasglu’r holl wybodaeth, daeth yn amlwg y dylid enwebu Dewi am y wobr hon a chydnabod y dyletswyddau ychwanegol mae’n eu cyflawni, a rhoi’r gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu iddo, fel gofalwr ifanc.”

Cafodd y Fforwm Ieuenctid wybod am ddyletswyddau gofalu Dewi gan Dîm Gofalwyr Caerffili a'i fam, Tammy, yn dysgu sut mae Dewi’n cynnig cymorth dyddiol i'w deulu.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn Neuadd Goffa Trecelyn, gyda Dewi yn helpu paratoi ar gyfer y digwyddiad. Pan gafodd yr enillydd ei gyhoeddi, dywedodd Dewi, “cefais sioc, gan nad oeddwn i'n gwybod bod gwobr, ond roeddwn i'n hapus." Ychwanegodd Dewi, “Mae’r rhan fwyaf o’r amser yn gallu bod yn eithaf anodd, gan fyswn i’n hoffi mynd allan gyda fy ffrindiau yn fwy aml, ond dyma fy rôl fel brawd mawr i ofalu amdanyn nhw.

Ychwanegodd Dewi fod ei fam yn falch ohono, gan ei bod yn cael y pleser o wybod ei fod yn helpu rhywun. Mae Dewi, 12 oed, yn benderfynol o wneud yn dda yn yr ysgol, ac yn bwriadu gwneud cymwysterau Safon Uwch, mynychu'r brifysgol a dod yn gwnselydd er mwyn iddo allu helpu pobl.

Grwpiau i Ofalwyr

Dyma'ch cyfle i siarad â ni ac eraill sydd â phrofiad o ofalu. Er bod pob grŵp yn cwrdd am awr a hanner, mae croeso i chi alw heibio am gyhyd ag y dymunwch chi ac aros yno am gyhyd ag y dymunwch chi wedyn! Mae rhagor o fanylion ar ein grŵp Facebook ni, neu cysylltwch â ni.

Grŵp Bargod

Murray’s (Y Stryd Fawr Uchaf, Bargod) ar ddydd Llun cyntaf y mis rhwng 11am a 12.30pm.

Grŵp Coed Duon

McKenzie’s Cafe ar ddydd Mawrth olaf y mis rhwng 10.30am a 12 canol dydd.

Grŵp Caerffili

Yr Hen Lyfrgell, Caerffili, ar drydydd dydd Gwener y mis o 2pm tan 3.30pm.

Grŵp Rhisga

The Coffee Mill, Rhisga, ar ail ddydd Iau'r mis o 12 canol dydd tan 1.30pm.

Os bydd unrhyw un o’r dyddiadau hyn ar ŵyl banc, fel arfer, byddwn ni’n symud i’r wythnos ganlynol ar yr un diwrnod, ond os ydych chi'n ansicr, gallwch chi wirio ar Facebook neu gysylltu â’r tîm.

Cardiau Adnabod Gofalwyr Ifanc

Rydyn ni'n dal i allu darparu cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc, sydd wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc sydd â rôl ofalu mewn lleoliadau addysg ac iechyd. I wneud cais am un, anfonwch e-bost at Gofalwyr@caerffili.gov.uk am ffurflen gais.

Gweithgareddau Gofalwyr Mis Mehefin i fis Medi 2024

Cysylltwch â ni i ofyn am leoedd ar unrhyw un neu ragor o'r gweithgareddau isod a byddwn ni'n ychwanegu eich enw at raffl. Yna, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi dim ond os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus.

Oedolion sy'n gofalu

  • Dydd Mercher 5 Mehefin o 12 hanner dydd - Te prynhawn yn The Coffee Mill, Rhisga.
  • Dydd Llun 10 Mehefin o 1pm – Diwrnod sba i chwe gofalwr yng ngwesty Bryn Meadows. Bwyd ar gael am 4.30pm.
  • Dydd Llun 10 Mehefin o 12 hanner dydd – Casglu pysgod a sglodion o Fish Kitchen 1854, Maes-y-cwmwr
  • Dydd Gwener 14 Mehefin o 8pm - Noson gomedi yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon.
  • Dydd Sadwrn 15 Mehefin o 12 hanner dydd tan 2pm – Padlfyrddio yn llyn Coedwig Cwmcarn.
  • Dydd Sadwrn 22 Mehefin am 10.30am – Brecwast i ddau ym Murray’s, Bargod.
  • Dydd Llun 24 Mehefin o 12 hanner dydd – Diwrnod yn rasys Cas-gwent. Casglu/gollwng i'w cadarnhau.
  • Dydd Iau 11 Gorffennaf – Taith undydd i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gâr
  • Dydd Mawrth 16 Gorffennaf o 9am – Diwrnod sba i chwe gofalwr yng ngwesty Bryn Meadows. Bwyd ar gael am 12.30pm.
  • Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf am 7pm – bwffe cyri yn Bengal Cymru, Rhisga.
  • Dydd Mercher 14 Awst o 1pm – Diwrnod sba i chwe gofalwr yng ngwesty Bryn Meadows. Bwyd ar gael am 4.30pm.
  • Dydd Llun 26 Awst – Dydd Sul 1 Medi – Wythnos sinema yn Sinema Maxime, Coed Duon.
  • Dydd Llun 26 Awst – Deg bocs te prynhawn i ddau, i'w casglu o Hancox’s Pies, Caerffili
  • Dydd Sadwrn 31 Awst am 2pm – Pryd bwyd dau gwrs yn Casa Mia, Caerffili.
  • Dydd Sadwrn 7 Medi - Taith a bwyd yn Tiny Rebel, Tŷ-du.
  • Dydd Sul 15 Medi am 12.30pm – Cinio dydd Sul yng Nghlwb Bowls Islwyn.

Gofalwyr ifanc

  • Dydd Mawrth 28 Mai o 2pm tan 4pm – Sesiwn sglefrfyrddio ym Mharc Sglefrio Oakdale.
  • Dydd Sadwrn 8 Mehefin – Ogofa gydag Anturiaethau Caerffili, gan gynnwys teithio a bwyd.
  • Dydd Sul 30 Mehefin am 5pm – Ticedi ar gyfer Madagascar yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru
  • Dydd Gwener 19 Gorffennaf – Beth’s Bakes yn dosbarthu i 10 cartref (un i bob tŷ).
  • Dydd Llun 22 Gorffennaf o 10am tan 3pm – Profiad fel diffoddwr tân am ddiwrnod gyda Gorsaf Dân Caerffili. Lleoedd ar gael ar gyfer hyd at ddeg gofalwr ifanc rhwng 11 a 25 oed. Ni fydd cinio yn cael ei ddarparu.
  • Dydd Mawrth 30 Gorffennaf o 2pm tan 4pm – Sesiwn sglefrfyrddio ym Mharc Sglefrio Lansbury.
  • Dydd Mercher 31 Gorffennaf – Taith i Thorpe Park.
  • Dydd Mawrth 6 Awst o 10am tan 12 hanner dydd - Gwaith coed a phyrograffeg gyda Salvaged Creations yng Nghanolfan Gymunedol Cefn Hengoed. 15 o leoedd ar gael.
  • Dydd Gwener 9 Awst, casglu am 8.30am, a gadael Abertawe am 4pm– Taith i Plantasia, Abertawe. Gweithdy, teithio a chinio wedi'i gynnwys. Lleoedd ar gyfer 14 o ofalwyr ifanc.
  • Dydd Mawrth 13 Awst 10am tan 1pm – Profiad hebogyddiaeth gyda lluniau i 15 o ofalwyr ifanc yng Nghanolfan Gymunedol Cefn Hengoed.
  • Dydd Mercher 14 Awst – Taith i Legoland ar gyfer gofalwyr ifanc a'u teuluoedd nhw. Angen talu blaendal o £5 y person.
  • Dydd Llun 26 Awst – Dydd Sul 1 Medi – Wythnos sinema yn Sinema Maxime, Coed Duon.
  • Dydd Sadwrn 14 Medi – Diwrnod ar y traeth gydag Anturiaethau Caerffili ym Mhorthcawl, gan gynnwys teithio.

Mae'r holl weithgareddau hyn am ddim i chi i ddweud diolch am fod yn ofalwyr di-dâl gwych. Cofrestrwch i gael diweddariadau e-bost ac ymuno â'n grŵp Facebook ni i gael gwybod am y gweithgareddau a digwyddiadau sy'n cael eu hychwanegu drwy'r amser. Rydyn ni'n ychwanegu ein gweithgareddau ni ar Facebook tua mis cyn iddyn nhw ddigwydd.

Os oes rhywbeth, yn eich barn chi, a fyddai’n dda i ofalwyr ei wneud nad ydyn ni wedi meddwl amdano nac wedi rhoi cynnig arno, rydyn ni’n glustiau i gyd. Rhowch wybod i ni!

Hyfforddi

Rydyn ni wedi creu partneriaeth â bwyty newydd cyffrous Geshmak yng Nghaerffili, i ddarparu rhai sesiynau coginio sylfaenol i ofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion yn y misoedd nesaf. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch â ni am ragor o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb. Y dyddiadau sydd wedi'u nodi am y tro yw dydd Sul 9 Mehefin (gofalwyr sy'n oedolion) a dydd Sul 23 Mehefin (gofalwyr ifanc).

Mae gennym ni hefyd gynnig anhygoel gan Heddlu Tredegar Newydd, sy’n gallu cynnig cwrs wythnos o hyd i ofalwyr ifanc, gan gynnwys tri diwrnod o sesiynau magu hyder, ac yna dwy daith undydd i Ninja Warriors, Caerdydd ac Oakwood. Bydd cinio yn cael ei gynnwys a'r dyddiadau yw dydd Llun 12 Awst i ddydd Gwener 16 Awst. Cysylltwch â ni i gofrestru eich diddordeb.

Aelodaeth Hamdden

Mae unrhyw ofalwyr ifanc hyd at 16 oed yn gallu cael aelodaeth Plant Actif am ddim. I wneud hyn, y cyfan fydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybod i ni beth yw enw, cyfeiriad a rhif Cerdyn Smart y gofalwr a byddwn ni'n trefnu i aelodaeth gael ei chymhwyso am flwyddyn.

Mae aelodaeth Plant Actif yn rhoi'r hawl i ofalwyr ifanc nofio, defnyddio'r gampfa a mynd i rai dosbarthiadau i blant am ddim. Yn anffodus, mae'n rhaid i chi fod yn 11 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r gampfa.

Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr

Mae’n debyg eich bod chi i gyd yn ymwybodol erbyn hyn bod The Care Collective, a oedd yn gyfrifol am weinyddu’r cyllid rydyn ni'n ei ddarparu ar gyfer grantiau bach i ofalwyr, wedi rhoi’r gorau i fasnachu. Mae trefniadau ar y gweill i fudiad arall fabwysiadu'r cynllun grantiau, felly peidiwch ag ofni, bydd yn parhau! Ar adeg cyhoeddi, mae'r manylion terfynol yn dal i gael eu penderfynu, ond byddwn ni'n darparu diweddariadau wrth i ni gael gwybod beth ydyn nhw.

Asesiadau Gofalwyr

Mae asesiad gofalwr yn gyfle i chi ddweud wrthym ni am eich sefyllfa chi. Gallwch chi ddweud wrthym ni am yr hyn rydych chi'n ei wneud, sut mae gofalu'n effeithio arnoch chi, a pha help yr hoffech chi ei gael.

Weithiau, mae gofalwyr yn poeni am siarad â ni oherwydd teyrngarwch, euogrwydd, ofn peidio ag ymdopi, neu falchder. Peidiwch â gadael i'r teimladau hyn eich atal chi rhag cysylltu â ni. Drwy roi gwybod i ni am eich sefyllfa chi, gallwn ni sicrhau eich bod chi'n cael gwybodaeth a chyngor a allai fod o gymorth i chi.

Gall asesiad gofalwr:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a allai eich helpu chi gyda'ch rôl ofalu.
  • Cynnig cymorth emosiynol i'r gofalwr.
  • Dechrau sgwrs “beth sy'n bwysig?”
  • Darparu gwybodaeth am ba gymorth ymarferol sydd, efallai, ar gael i ofalwyr.
  • Siarad am gryfderau’r gofalwr a’i helpu i ddod o hyd i’w atebion ei hun i broblemau a sefyllfaoedd.
  • Agor drws i rwydwaith o ofalwyr eraill, gan ddarparu rhagor o gymorth a chyngor.
  • Cynnig grwpiau cymorth a chyfleoedd cymdeithasol.
  • Helpu gyda cheisiadau ar gyfer y Cynllun Grantiau Bach i Ofalwyr am bethau fel eitemau cartref, gwersi gyrru, cyrsiau i alluogi'r gofalwr i barhau â'i rôl ofalu, seibiant.
  • Trafod unrhyw anghenion hyfforddi a fyddai'n cynorthwyo gyda'r rôl ofalu a cheisio cael mynediad at yr hyfforddiant hwn.
  • Cynnig seibiannau untro neu seibiannau tymor byr iawn rhag gofalu.
  • Darparu gwybodaeth am sefydliadau gofal os yw'r person eisiau talu am gymorth yn breifat.
  • Darparu Cerdyn Argyfwng Gofalwr fel bod pobl eraill yn cael gwybod bod y gofalwr yn ofalwr pe bai'n cael damwain neu mewn argyfwng.
  • Cyfeirio at sefydliadau neu dimau eraill a allai fod o gymorth.

Nid yw asesiad gofalwr yn gallu:

  • Cael ei ddefnyddio yn lle asesiad o anghenion y person sy'n cael y gofal.
  • Darparu “seibiant” parhaus.
  • Cyflwyno pecyn gofal parhaus (drwy gyllid gan y Gwasanaethau Cymdeithasol)

Gallwch chi ofyn am asesiad gofalwr trwy ffonio'r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0808 100 2500 neu drwy e-bostio GCChOedolion@caerffili.gov.uk.

Os ydych chi wedi cael asesiad o’r blaen a hoffech chi iddo gael ei adolygu (efallai bod eich rôl ofalu chi wedi newid), rhowch wybod i ni.

Tîm Gofalwyr Caerffili

Rhag ofn eich bod chi'n newydd i ni, y tîm yw:

Hayley Jenkins, Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr – 01495 233218 or 07808 779367 neu e-bost: jenkihl@caerphilly.gov.uk.

Stacey Turner, Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr – 07872 418927 neu e-bost turnesr@caerphilly.gov.uk.

Leanne Gallent, Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr – 07449 710996 neu e-bost gallel@caerphilly.gov.uk.

Hannah Hawkins, Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr – 07849 700386 neu e-bost hawkih@caerphilly.gov.uk.

Helen Jones, Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr – 07849 700387 neu e-bost joneshd1@caerphilly.gov.uk.

Becky Forward, Gweithiwr Cymorth i Ofalwyr – 07395 357189 neu e-bost forwab@caerphilly.gov.uk.

Geraldine Powell, Cydlynydd Gofalwyr - 01443 864658 neu 07713 092795 neu e-bost powelg4@caerphilly.gov.uk.

Mae llawer o ffyrdd i chi gysylltu â ni. Cysylltwch â ni drwy e-bostio Gofalwyr@caerffili.gov.uk, ar Facebook, ar X (@CarerCaerphilly), neu drwy www.caerffili.gov.uk/gofalwyr.

Adnoddau

  • Cerdyn Argyfwng Gofalwr – Os hoffech chi gael un, cysylltwch â ni drwy Gofalwyr@caerffili.gov.uk.
  • Seibiant o ofalu – Efallai y gallwn ni eich helpu chi i gael seibiannau tymor byr neu untro o'ch rôl ofalu. Cysylltwch â ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.
  • Mae gennym ni rai cardiau “Max Card” ar gael am ddim i'r rhai sydd â phlant o dan 25 oed. Mae'n cynnig gostyngiadau ar ddiwrnodau allan a gweithgareddau. Mae rhagor o fanylion ar gael yma: www.mymaxcard.co.uk. Cysylltwch â ni os hoffech chi gael un.

Cadwch y dyddiad!

Rydyn ni wrth ein bodd bod Dawns y Nadolig yn dychwelyd eleni.Y dyddiad fydd dydd Iau 21 Tachwedd, felly rhowch hwnnw yn eich dyddiaduron. Dyma ddigwyddiad mwyaf y flwyddyn!

Newyddion Gofalwyr Ifanc a Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc

Gŵyl Gofalwyr Ifanc Cymru 2024

Rydyn ni'n hynod gyffrous i fod yn rhan o Ŵyl Gofalwyr Ifanc unwaith eto eleni.Bydd yn cael ei chynnal .Mae gennym ni leoedd i 13 o ofalwyr rhwng 11 a 25 oed.Bydd gennym ni ragor o wybodaeth yn y misoedd nesaf, ond os hoffech chi gofrestru eich diddordeb chi, anfonwch e-bost atom ni ar Gofalwyr@caerffili.gov.uk neu ffonio Geraldine ar 07713 092795.

Eleni, mae gennym ni hefyd docynnau ar gyfer gŵyl gofalwyr ifanc y DU gyfan yn Southampton. Rydyn ni eisoes wedi llenwi rhai lleoedd gyda’r gofalwyr ifanc a fynychodd ŵyl Cymru y llynedd, ond os oes gennych chi ddiddordeb mewn mynychu, cysylltwch â Hannah Hawkins.Bydd yr ŵyl hon yn cael ei chynnal rhwng dydd Gwener 28 Mehefin a dydd Sul 30 Mehefin 2024.

Ac yn olaf…

Byddwn ni'n anfon ein cylchlythyr nesaf atoch chi drwy'r post neu drwy e-bost nes ymlaen yn 2024 gyda rhagor o newyddion, gweithgareddau a gwybodaeth ddefnyddiol i chi. Os ydych chi'n adnabod rhywun a fyddai'n hoffi cael copi o'n cylchlythyrau, rhowch wybod i ni.

Hefyd, os nad ydych chi'n ofalwr bellach ac eisiau cael eich tynnu oddi ar restr bostio'r cylchlythyr, rhowch wybod i ni a gallwn ni dynnu'ch manylion oddi ar y rhestr.