-
Ysgol Cwm Gwyddon yn agor Tachwedd 2023.
-
Estyniad Ysgol Bro Allta wedi ei gwblhau erbyn Tachwedd 2023.
-
Estyniad Ysgol Cwm Derwen wedi ei gwblhau erbyn Rhagfyr 2023.
-
Adeilad darpariaeth gofal plant pwrpasol yn Ysgol Ifor Bach wedi ei gwblhau erbyn Haf 2023 (yn amodol ar gymeradwyaeth LlC i gyllid ychwanegol).
-
Estyniad Gofal Plant Cymraeg (gofal dydd llawn) i Lyfrgell Pengam wedi’i gwblhau yn ystod Haf 2023 (yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i gyllid ychwanegol).
-
Cyflwyno prosiectau cyfalaf gofal plant penodol a gweithredu i ehangu darpariaeth gofal plant Cymraeg.
-
Defnyddio Cynllun Grant Cyfalaf Bach i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg i gyflwyno darpariaeth gofal plant cynhwysol o safon ar gyfer ehangu Dechrau’n Deg.
-
Parhau i weithio gyda Mudiad Meithrin i ddatblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg pellach mewn ardaloedd ehangu gofal plant Dechrau’n Deg yn y dyfodol.
-
Gweithio gyda Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, Rhwydwaith Rhieni a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent i gefnogi grwpiau cefnogi cyfoedion yn y gymuned i gael eu datblygu a’u rhedeg gan wirfoddolwyr.
-
Bydd y Gwasanaeth Ieuenctid yn gweithio gyda Menter Iaith, yr Urdd a phartneriaid ehangach i fapio canran y ddarpariaeth ieuenctid a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg a chydweithio i gynyddu’r targed i 26% erbyn 2032.
-
Cefnogi’r Ffordd i Ddwyieithrwydd ar gyfer lleoliadau gofal plant cyfrwng Saesneg i symud ymlaen drwy’r continwwm tuag at ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg categori 3, gan gynyddu’r nifer sy’n symud i gategori 2 ac yna’n symud i gategori 3.
-
Gweithio gyda staff lleoliadau gofal plant CBSC a gynhelir i gefnogi datblygiad y Gymraeg er mwyn eu symud tuag at gyflwyno sesiynau trochi dwyieithog a/neu Gymraeg.
-
Gweithio gydag ysgolion unigol a chynllun busnes y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i osod targedau i gynyddu sgiliau iaith y gweithlu.
-
Parhau i weithio gyda’n hysgolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio a ffedereiddio wrth i gyfleoedd godi.
-
Gweithio gyda’n pobl ifanc yn yr ysgol uwchradd a Gyrfa Cymru i hyrwyddo gyrfaoedd mewn gofal plant, addysg, a chyfleoedd gweithlu ehangach i siaradwyr Cymraeg.
-
Gweithio fel Tîm Blynyddoedd Cynnar gyda Mudiad Meithrin a Menter Iaith ynghyd ag ysgolion uwchradd ar draws y rhanbarth, Coleg y Cymoedd a Choleg Gwent yn ogystal â darparwyr hyfforddiant preifat i ddatblygu ein gweithlu gofal plant.
-
Cynyddu'r gweithlu sy'n siarad Cymraeg ar draws y timau Addysg, gofal plant ac ysgolion.