Grant Hanfodion Ysgol 2024/2025

Mae'r grant hwn yn rhoi £125 (ac eithrio blwyddyn 7, sy'n cael £200) i brynu gwisg ysgol, offer, gwisg chwaraeon a gwisg ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r ysgol i'ch plentyn.

Bydd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben ar 31 Mai 2025.

Mae'r grant hwn yn berthnasol i bob disgybl cymwys o grwpiau blwyddyn gorfodol (Derbyn – Blwyddyn 11), Plant sy'n Derbyn Gofal, a'r rhai sy'n cael eu hystyried fel Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus.

Gall dysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd gael y grant hwn os ydyn nhw:

  • yn dechrau yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1, 2, 3, 4, 5 a 6 yn yr ysgol gynradd ym mis Medi 2024.
  • yn dechrau blwyddyn 7, 8, 9, 10 ac 11 yn yr ysgol uwchradd ym mis Medi 2024.
  • yn 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14 neu 15 oed mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion (grwpiau blwyddyn fel y manylir uchod).
  • Y grant ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 7 yw £200, gan gydnabod y costau uwch sydd yn gysylltiedig â dechrau’r ysgol uwchradd.

Mae'r cyllid hwn ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar hyn o bryd, ac nid yw'n ymestyn i gynnwys y disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim dan drefniadau amddiffyn wrth bontio neu Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion.

Os ydych chi'n credu eich bod chi'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim ac nad ydych chi wedi gwneud cais eisoes, yna llenwch ein ffurflen gais Prydau Ysgol Am Ddim ar-lein.

Mae'r cyllid ar gael i BOB plentyn o oedran ysgol gorfodol sy'n derbyn gofal, beth bynnag yw'r cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim.

Does dim angen i deuluoedd gyflwyno cais penodol am y grant hwn bellach. Bydd teuluoedd disgyblion cymwys yn cael llythyr gan Swyddfa’r Post, yn caniatáu casglu taliad arian parod o unrhyw gangen Swyddfa'r Post. Nodwch fod y llythyrau hyn yn dod i ben ar ôl 1 mis felly mae angen iddyn nhw gael eu cyfnewid am arian yn brydlon.

Mae disgwyl y bydd llythyrau ar gyfer disgyblion cymwys yn dod i law yn ystod mis Gorffennaf 2024.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch y grant hwn ar gyfer 2024/25, anfonwch e-bost at GrantHanfodionYsgol@caerffili.gov.uk neu ffonio ein Tîm Cymorth Arlwyo ar 01443 864055.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyllid hwn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.