Gweithio am Arlwyo

Kids in the canteen

Os ydych chi’n chwilio am gyfle cyffrous yn ystod tymor yr ysgol, gallai gyrfa ym maes arlwyo gyda Chaerffili fod yn gam perffaith i chi. P'un a ydych chi'n weithiwr arlwyo proffesiynol neu eisiau dechreuad newydd, gallwn ni eich helpu chi i ddarganfod gyrfa werth chweil sy'n gweithio i chi. 

Storïau go iawn gan dîm Caerffili 

Mae gennym ni nifer o gyfleoedd arlwyo ar gael mewn ysgolion. Gwrandewch ar rai o'n staff yn trafod sut beth yw ymuno â Thîm Caerffili. I weld ein swyddi gwag presennol, edrychwch ar ein Ffurflen Swyddi Gwag.

Cogydd Cynorthwyol

Mae Louise yn gweithio fel rhan o dîm cegin Ysgol Gynradd Ty'n-y-Wern. Roedd hi'n edrych am newid gyrfa o'i rôl weinyddol, felly, dechreuodd weithio fel Cynorthwyydd Arlwyo gan ei bod hi'n hoff iawn o'r amgylchedd cyflym. Ers hynny, mae hi wedi symud ymlaen i fod yn Gogydd Cynorthwyol, sy'n gweithio o dan oruchwyliaeth y Cogydd â Gofal. Dywedodd Louise mai dyma'r cam gorau mae hi erioed wedi’i gymryd ac, er nad oedd ganddi hi unrhyw brofiad, mae hi wedi cael ei hyfforddi'n llawn a'i chefnogi i setlo i mewn.

Gradd 3: £10.79 - £10.98 yr awr

Oriau Cyfartalog: 12 – 20 awr yr wythnos


CYSYLLTWCH Â NI

Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol / Goruchwyliwr Clwb Brecwast

Mae Naomi yn rhan o dîm y gegin yn Ysgol Gynradd Bro Sannan. Mae hi wedi gweithio mewn llawer o rolau gwahanol cyn ymuno â Thîm Caerffili fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol a Goruchwyliwr Clwb Brecwast, lle mae hi wedi setlo i mewn yn dda ac yn gobeithio gweithio ei ffordd i fyny at Gogydd â Gofal un diwrnod. Daeth Naomi i'r rôl hon heb unrhyw brofiad blaenorol mewn arlwyo, ond mae wedi cael cymorth lawn gan Gaerffili i wneud y swydd y mae hi'n ei charu.

Gradd 1: £10.50 yr awr

Oriau Cyfartalog: General Kitchen Assistant: 5hrs – 17.5hrs per week  | Breakfast Supervisor: - 5hrs per week


CYSYLLTWCH Â NI

Cysylltu â ni

Ffôn: 01443 864227
E-bost: adfywiocymun@caerffili.gov.uk

Dolenni Perthnasol

Prydau ysgol a chlybiau brecwast