Rhoi gwybod am broblemau gyda ffensys, atalfeydd a chelfi eraill ar strydoedd
Rhoi gwybod am broblemau gyda ffensys, atalfeydd a chelfi eraill ar strydoedd
Mae eitemau o’r fath yn cynnwys y canlynol:
- Y rhan fwyaf o arwyddion a bolardiau sydd wedi’u goleuo neu sydd heb eu goleuo
- Signalau traffig ac arwyddion amrywiol sy’n rhoi negeseuon
- Ffensys ar y briffordd
- Rhwystrau diogelwch
- Waliau (nad ydynt yn eiddo preifat)
- Atalfeydd
- Biniau sbwriel
- Meinciau
- Llochesau bysiau
Gallant hefyd gynnwys eitemau addurnol megis goleuadau stryd addurnol, basgedi crog a chafnau â phlanhigion ynddynt.
I roi gwybod am broblem gyda ffens neu rwystr diogelwch ar briffordd gyhoeddus ym mwrdeistref sirol Caerffili, llenwch y ffurflen ganlynol.
Fel arall, ffoniwch dîm gofal cwsmer yr adran briffyrdd.