Ymgynghoriadau a hysbysiadau

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) (Diwygio) 2017

Hysbysiad ar gyfer Gwaith Lliniaru Llifogydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Hysbysir drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu gwneud gwaith lliniaru llifogydd yn y lleoliadau a nodir yn yr amserlen isod, o dan Reoliad 5(1) o'r rheoliadau uchod ac nid yw'n bwriadu paratoi Datganiad Amgylcheddol gan fod y gwaith yn adnewyddu strwythurau presennol ac yn gyfyngedig o ran maint ac effaith ofodol.

  • Cyf. Prosiect: TH1403
  • Lleoliad/Cyfeiriad: Gwaith Lliniaru Llifogydd – Tir yn agos i Millbrook House, Mill Road, Deri, Bargod CF81 9HF
  • Crynodeb o'r Gwaith: Mae'r gwaith yn cynnwys ailosod sgriniau malurion presennol yng Nghwrs Dŵr Nant-y-Felin lan yr afon o'r llwybr troed, a chreu bwnd onglog i ailgyfeirio unrhyw orlifiau o sianel y nant uwchlaw'r llwybr troed, yn ôl i'r sianel islaw'r llwybr troed.

Os oes angen rhagor o fanylion arnoch chi am y cynllun, anfonwch gais drwy e-bost at draenio@caerffili.gov.uk.

Bydd y gwaith yn rhoi gwell gwrthsafiad i lifogydd i drigolion Mill Road, Jenkins Row a Bailey Street trwy ganiatáu i ddŵr storm lifo'n rhydd heb rwystr i Nant Bargod Rhymni.

Dylid cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau mewn perthynas â'r cais yn ysgrifenedig, gan roi cyfeiriad y mae modd anfon gohebiaeth yn ymwneud â'r sylw neu wrthwynebiad iddo, trwy e-bost at draenio@caerffili.gov.uk neu drwy’r post at Mr Mark Goodger, Prif Beiriannydd (Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol), Tŷ'r Priffyrdd, Depo Penmaen, Ystâd Ddiwydiannol Penmaen, Coed Duon NP12 2DY o fewn 30 diwrnod i ddyddiad yr hysbysiad hwn, gan ddyfynnu'r cyfeirnod prosiect perthnasol uchod.

Dyddiad: 30/05/2024