FindMyStreet

Rhestr Strydoedd Genedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr

Mae FindMyStreet yn dangos pob stryd yng Nghymru a Lloegr sy'n cael eu cadw ar y Rhestr Strydoedd Genedlaethol. Mae'n dweud wrthych chi ble mae stryd, beth yw ei henw swyddogol, a phwy sydd â'r cyfrifoldeb am gynnal a chadw’r stryd honno. Mae’r data’n cael ei greu a’i gynnal gan awdurdodau lleol ac yn cael ei gasglu a’i reoli’n ganolog gan GeoPlace. 

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn darparu cynlluniau diffiniol gan nad ydyn nhw ar gael o'n systemau ni, dim ond llinellau canol ffyrdd y gallwn ni eu darparu, sydd eisoes ar gael ar FindMyStreet.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi ynghylch hyd mabwysiedig stryd neu gyngor pellach, gallwch chi gael hyn drwy dalu ffi o £30 ymlaen llaw drwy e-bostio YmholiadMabwysiaduPriffordd@caerffili.gov.uk. Gallwch chi dalu'r ffi hon drwy ffonio Gofal Cwsmeriaid ar 01443 866570, gan ddyfynnu'r cod 3500/T358 gyda manylion eich cais a rhif derbynneb eich taliad. 

Mae'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar y wefan at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig ac mae'n destun dilysu parhaus. Felly, ni ddylid gwneud unrhyw benderfyniadau cyfreithiol neu benderfyniadau busnes ar sail gwybodaeth o'r fath

Mae rhagor o wybodaeth am lwybrau troed cofrestredig ar gael ar y wefan bwrpasol, sy'n mynd â chi at y map diffiniol. Sylwch, gall hyn newid.

Beth yw'r Rhestr Strydoedd Genedlaethol?

Mae hon yn rhestr o enwau, lleoliadau ac yn ddangosydd ar gyfer y cyfrifoldeb cynnal a chadw am yr holl strydoedd o fewn y Rhestr Strydoedd Genedlaethol – sydd wedi'u rhestru yn ôl awdurdod priffyrdd lleol.

Dim ond i ddangos a yw stryd yn un sy'n cael ei chynnal a'i chadw'n gyhoeddus ai peidio y dylid defnyddio’r rhestr hon. Dylid cael manylion llawn a maint y cyfrifoldeb cynnal a chadw gan yr awdurdod priffyrdd lleol perthnasol trwy chwiliadau Pridiannau Tir Lleol (Con29), y mae modd ailgodi tâl amdanyn nhw yn y ffynhonnell. 

Mae atebion i'r rhan fwyaf o gwestiynau i'w gweld ar y dudalen cwestiynau cyffredin

Wedi'u cynnal ar draul y cyhoedd

Fel Awdurdod Priffyrdd, mae gennym ni ddyletswydd i gynnal a chadw priffyrdd mabwysiedig i safonau diogel a defnyddiol, a chaiff y priffyrdd mabwysiedig hyn eu cynnal a'u cadw ar draul y cyhoedd. O dan y statws mabwysiedig hwn, mae'n rhaid i'n staff ni warchod hawliau'r cyhoedd i ddefnyddio a mwynhau priffyrdd o'r fath trwy sicrhau eu bod nhw'n rhydd rhag niwsans, perygl, rhwystrau, tagfeydd anghyfreithlon, ymyrraeth a thresmasu.

Heb eu cynnal ar draul y cyhoedd 

Mae 'stryd breifat' yn stryd nad yw'n cael ei chynnal a'i chadw ar draul y cyhoedd. Mae hyn yn golygu nad ydyn ni fel awdurdod priffyrdd o dan unrhyw rwymedigaeth i wneud gwaith atgyweirio neu waith glanhau ar y stryd, er y gallai fod yn hawl tramwy cyhoeddus lle mae'n bosibl gweithredu cyfraith priffyrdd a thraffig. Mae ffyrdd preifat yn ffyrdd lle nad oes hawl tramwy cyhoeddus. Preswylwyr yn unig sy'n gyfrifol am unrhyw atgyweiriadau. Gallwch chi wirio Cofrestrfa Tir EF am fanylion perchnogaeth eiddo ledled y DU.

Gwneud cais ffurfiol

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi ynghylch hyd mabwysiedig stryd, gallwch chi ei chael drwy dalu ffi o £30 ymlaen llaw drwy e-bostio YmholiadMabwysiaduPriffordd@caerffili.gov.uk. Gallwch chi dalu'r ffi hon drwy ffonio Gofal Cwsmeriaid ar 01443 866570, gan ddyfynnu'r cod 3500/T358 gyda manylion eich cais a rhif derbynneb eich taliad.