Archwilio gwaith adeiladu
Rydym yn archwilio gwaith adeiladu yn rheolaidd wrth iddo fynd yn ei flaen er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â’r rheoliadau adeiladu.
Camau o'r gwaith y mae’n ofynnol eu harchwilio
Ceir naw cam posibl o waith adeiladu y mae’n ofynnol eu harchwilio (er na fydd pob un o’r naw yn berthnasol i bob darn o waith).
-
Dechrau'r gwaith
-
Cloddio’r seiliau cyn gosod concrid
-
Ar ôl gosod y seiliau
-
Haen goncrid cyn gosod slab y llawr
-
Draeniau
-
Adeiladwaith (lloriau/toeon/trawstiau)
-
Inswleiddio
-
Meddiannu (yn achos eiddo newydd)
-
Cwblhau'r prosiect
Mae’n bosibl y bydd eich swyddog rheoli adeiladu yn cynnal archwiliadau eraill yn ogystal â’r rhai uchod. Bydd angen cynnal archwiliadau penodol ychwanegol ar gyfer rhai mathau o waith, megis atgyfnerthu strwythurau concrid a gwaith i ddiogelu strwythur rhag tân. Yn ogystal, gall archwilydd alw yn ddirybudd ar adegau eraill i archwilio’r gwaith sy’n mynd rhagddo.
Trefnu archwiliad
Cyn trefnu archwiliad, bydd rhaid i chi gyflwyno cais dilys a thalu'r ffi ofynnol.
Cais am archwilio gwaith adeiladu>
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
I wneud cais am gynnal archwiliad ar yr un diwrnod, rhaid cyflwyno'r cais erbyn 09:30 ar y diwrnod hwnnw.