Olrhain eich achau
Gall pob un o’n llyfrgelloedd eich helpu ag ymholiadau hanes lleol, ac mae gan bob llyfrgell, heblaw y rhai lleiaf, gasgliadau hanes lleol sy’n cynnwys llyfrau, erthyglau papur newydd a ffotograffau sydd ar gael i chi eu gweld.
Rydym yn cadw ffurflenni cyfrifiad lleol ar gyfer y cyfnod 1841-1901 a’r Mynegeion Cofrestru Sifil ar gyfer y cyfnod 1837-2002 – sy’n cynnwys genedigaethau, priodasau a marwolaethau. Ymhlith yr adnoddau eraill ceir cofrestri plwyf lleol ar ficrofiche, arysgrifau cofebol, mapiau degwm a mapiau Arolwg Ordnans hanesyddol. Mae nifer o bapurau newydd lleol o’r cyfnod cyn 1950 ar gael ar ficroffilm hefyd, gan gynnwys y South Wales Echo a’r Merthyr Express.
Deunydd cyfeirio a help gyda gwaith ymchwil
Llyfrgell Bargod Llyfrgell Fargod yw’r prif ganolfan ar gyfer hel achau. Mae gan y llyfrgell ardal ddysgu ar y llawr daear sy’n cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol, gyda staff wrth law i roi cymorth i chi.
Bydd y cyfleusterau canlynol ar gael i chi:
- Darllenydd ac argraffydd microffilm a microfiche
- Mynediad i’r rhyngrwyd – gan gynnwys mynediad i Ancestry.com
- Detholiad o lyfrau ar hanes teuluol
- Detholiad o lyfrau hanes cyffredinol a llyfrau hanes lleol
- Mynediad i gatalog casgliad yr Amgueddfa a gwrthrychau o’r casgliad hwnnw
- Y Mynegeion Cofrestru Sifil (Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau 1837-2006)
- Cofrestri plwyf mewn llyfrynnau ac ar ficrofiche
- Cyfeiriaduron Masnach
- Y Gofrestr Etholiadol
- Detholiad o Bapurau Newydd a ddefnyddir yn fynych, gan gynnwys y Merthyr Express a’r Bargoed, New Tredegar and Caerphilly Journal
- Argraffydd/llungopïwr
Gallwn eich helpu â’ch gwaith ymchwil. Cysylltwch â Llyfrgell Bargod am fwy o fanylion.