Cyfrifiaduron a wifi
Mae pob llyfrgell yn cynnig mynediad am ddim i'r rhyngrwyd i aelodau'r llyfrgell ar ein cyfrifiaduron personol. Gallwch hefyd gael mynediad i'r rhyngrwyd ar eich dyfeisiau symudol – gliniaduron, llechi a ffonau symudol – drwy'r Wi-Fi sydd ar gael am ddim.
Cyfrifiaduron Mynediad Cyhoeddus
Os ydych yn aelod o'r llyfrgell gallwch ddefnyddio'r Rhyngrwyd a meddalwedd Microsoft Office ym mhob un o'n llyfrgelloedd.
Er nad yw archebu yn hanfodol rydym yn argymell eich bod yn archebu cyfrifiadur o flaen llaw drwy gysylltu â'r llyfrgell.
Rydym yn cynnig y cyfleusterau canlynol ar bob un o'n cyfrifiaduron llyfrgell:
- Mynediad i'r rhyngrwyd
- Microsoft Word ar gyfer prosesu geiriau
- Microsoft Excel ar gyfer taenlenni
- Microsoft PowerPoint ar gyfer cyflwyniadau
- Adobe Acrobat Reader er mwyn gweld dogfennau PDF
- Llwybrau byr i'n cronfeydd data ar-lein
- Mynediad o'r brif sgrin i'n catalog llyfrgell
- Printio
- Sganio
Gallwch ddefnyddio dyfeisiau USB.
Mae printio'n costio 10c yr ochr ar gyfer A4 ac A3 mewn du a gwyn, a 50c yr ochr ar gyfer A4 ac A3 mewn lliw.
WiFi ac Argraffu WiFi
Rydym hefyd yn eich annog i ‘Ddod â'ch Dyfais Eich Hun’ i gynnig mwy o hyblygrwydd a defnyddio ein mynediad WiFi am ddim.
Mae Argraffu WiFi hefyd ar gael yn Bargod, Coed Duon, Caerffili, Rhymni, Rhisga ac Ystrad Mynach.
Gallwch argraffu yn awr i unrhyw un o beiriannau argraffu'r llyfrgell (ar safleoedd sy'n cymryd rhan), unrhyw bryd, unrhyw le o ddyfais Android neu iOS ac yna ei gasglu yn ystod oriau agor y llyfrgell Gellir cael mwy o wybodaeth yma.
Dyddiau Gwener Ddigidol
Gall staff y llyfrgell gynnig cymorth sylfaenol i gwsmeriaid gyda'u problemau TG, ond am gymorth pellach i fynd ar-lein neu ddefnyddio technoleg dylech chi ystyried un o'n sesiynau Dyddiau Gwener Digidol mynediad agored, galw heibio sydd ar gael mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Caerffili. Mae'r sesiynau yn addas i bawb (16+) ac yn hamddenol ac anffurfiol.
Wythnos Addysg Oedolion
Bob blwyddyn yn ystod mis Mai, mae llyfrgelloedd ym mwrdeistref sirol Caerffili yn cynnal wythnos o ddigwyddiadau sy’n cynnig sesiynau dysgu blasu am ddim.
Siartr i DdysgwyrMae gwybodaeth o beth y gallwch ddisgwyl fel dysgwr/wraig o'ch llyfrgell leol wedi amlygu yn ein. Edrychwch ar eu pamffled diweddaraf.