Cyflwyniad i Dai Lloches

Beth yw tai lloches?

Grŵp o unedau llety heb ddodrefn sydd wedi cael eu cynllunio i ddiwallu anghenion pobl hŷn, sydd fel arfer yn 60 oed neu’n hŷn ac sy’n dymuno aros yn annibynnol, ond fyddai’n hoffi elwa ar wasanaethau a chymorth ychwanegol y cynllun. Gall pobl a chanddynt anableddau sydd o dan 60 oed hefyd fod yn gymwys yn amodol ar asesiad pellach.

Gall cynlluniau tai lloches amrywio o ran maint a math o eiddo ond mae gan bob cynllun gyfleusterau cymunedol a chymorth hyblyg dyddiol gan Swyddog Tai Lloches. Cefnogir y gwasanaeth gan y Tîm Tai Pobl Hŷn yn ystod oriau swyddfa.

Mae’n bwysig bod preswylwyr a pherthnasau yn deall rôl y Swyddog Tai Lloches. Bydd Swyddog Tai Lloches yn darparu cymorth o ran materion tai ond nid oes disgwyl iddo roi gofal personol neu gynorthwyo preswylwyr gyda thasgau y gallent eu gwneud eu hunain neu gyda chymorth asiantaethau eraill fel gofal personol, glanhau, golchi dillad, siopa neu gasglu pensiynau neu bresgripsiynau. Gofynnir i bob preswylydd gydweithio gyda’r Swyddog Tai Lloches wrth sicrhau bod diogelwch yn cael ei gynnal o fewn y cynllun yn gyffredinol ac o fewn eu cartrefi eu hunain.

Mae pob annedd wedi ei chysylltu i system larwm o’r enw Gwasanaeth Larwm Cymunedol Llinell Ofal Caerffili. Gellir ei ddefnyddio unrhyw bryd i gysylltu â’r Swyddog Tai Lloches am help neu gyngor pan fydd ar ddyletswydd. Pryd bynnag na fydd y Swyddog Tai Lloches ar ddyletswydd, bydd yr holl alwadau a wneir drwy Wasanaeth Larwm Cymunedol Llinell Ofal Caerffili yn cael eu hateb gan y Ganolfan Reoli. Bydd rheolwyr galwadau sydd wedi eu hyfforddi’n llawn ar gael i gynnig help a chymorth. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. 

Mae gan bob cynllun tai lloches gyfleusterau cymunedol sy’n cynnig y cyfle i wneud ffrindiau a chymdeithasu. Codir tâl gwasanaeth ar ddeiliaid contract tai lloches am wasanaethau ychwanegol y byddant yn eu derbyn. Bydd y tâl hwn yn amrywio yn dibynnu ar ba gynllun tai lloches maen nhw’n byw ynddo. Bob blwyddyn, mae pob deiliad contract tŷ lloches yn cael rhestr o’r tâl a godir am wasanaethau i roi gwybod iddyn nhw faint byddan nhw’n ei dalu am y flwyddyn i ddod. Ceir canllaw ar wahân i ddeiliaid contract sy’n cynnig rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd ar daliadau gwasanaeth. 

Beth yw manteision tai lloches?

Mae tai lloches yn cynnig lleoliad sy’n galluogi’r preswylwyr i fyw bywydau annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw wneud ffrindiau a rhannu bywyd cymdeithasol drwy ddefnyddio’r lolfa gymunedol a chyfleusterau a gweithgareddau cymunedol eraill. Rhestrir rhai o’r manteision, fydd yn amrywio o gynllun i gynllun, isod:

  • Cymorth Swyddog Tai Lloches
  • Gwasanaeth monitro gyda larwm penodedig 24 awr/365 diwrnod y flwyddyn
  • Adeiladau diogel gyda systemau drws mynediad a chloeon sy’n gweddu
  • Teledu Cylch Cyfyng
  • Lifft i deithwyr
  • Lolfa gymunedol gyda theledu
  • Cyfleusterau cegin gymunedol
  • Ardaloedd gardd gymunedol
  • Cyfleusterau golchi dillad cymunedol
  • Cyfleusterau ystafell ymolchi/cawod/tŷ bach cymunedol
  • Gwasanaeth casglu presgripsiynau
  • Defnydd o ystafell ymwelwyr
  • Cyfarfodydd ddeiliaid contract rheolaidd er mwyn rhannu syniadau a safbwyntiau
  • Digwyddiadau cymdeithasol a chymorth gan Gydlynydd Gweithgareddau
  • Clybiau cinio a chyfleoedd Canolfan Ddydd
  • Cymorth i gael mynediad at asiantaethau eraill a gwasanaethau cymorth

Cynlluniau Tai Lloches Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Mae 32 o gynlluniau tai lloches ar gael ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gyda rhai yn dai unllawr a/neu fflatiau gydag adeilad cymunedol ar wahân a rhai eraill yn fflatiau mewn adeilad lle mae popeth dan yr un to. Ceir disgrifiadau isod o’r gwahanol gynlluniau:

Cwrt Alexandra, Ynysddu NP11 7JF - 01495 201494 Cynllun deulawr gyda’r cyfan o dan yr un to yw Cwrt Alexandra. Ceir cyfanswm o 19 o anheddau a chyfleusterau cymunedol o fewn yr adeilad. Mae yna gymysgedd o 18 o fflatiau ag ystafelloedd gwely sengl neu ddwbl, ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf ac un tŷ â thair ystafell wely.

Cwrt Britannia, Maryland Road, Rhisga NP11 6BL - 01633 613320 Cynllun gyda phopeth dan yr un to yw Cwrt Britannia gyda 21 o fflatiau ag ystafelloedd gwely sengl neu ddwbl dros dri llawr ac un tŷ â thair ystafell wely. Mae’r cyfleusterau cymunedol o fewn yr adeilad.

Heol y Bryn, Palmer Place, Coed Duon NP12 1WN - 01495 225950 Mae Cynllun Tai Lloches Heol y Bryn yn cynnwys 21 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely ar Gibbs Close, a 15 o dai unllawr ag un ystafell wely ac un tŷ â dwy ystafell wely ar Palmers Place. Ceir adeilad cymunedol ar wahân lle mae’r cyfleusterau cymunedol yn hygyrch ar gyfer eu defnyddio gan y deiliad contract.

Glynderw, Parc Churchill, Caerffili CF83 3EZ - 029 2085 1217 Ceir 32 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely yng Nghynllun Tai Lloches Gynderw. Mae yna adeilad cymunedol ar wahân gyda chyfleusterau cymunedol sy’n hygyrch ar gyfer eu defnyddio gan y deiliad contract.

Glynsyfi, Tref Eliot, Tredegar Newydd NP24 6DE - 01443 875079 Mae gan gynllun Glynsyfi 31 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely ac un tŷ â dwy ystafell wely . Mae’r ardal gymunedol yng nghanol y cynllun gan gynnig y cyfle i ddeiliaid contract ddefnyddio’r cyfleusterau cymunedol.

Erwau Gleision, Greenacre Drive, Bedwas CF83 8HG - 029 2085 1556 Ceir 31 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely yng Nghynllun Tai Lloches Erwau Gleision. Mae’r cyfleusterau cymunedol mewn bloc ar wahân wrth fynedfa’r cynllun.

Gelli 1 a Gelli 2, Grove Estate, Tretomos CF82 8DH - 029 2085 1794 a 029 2085 1366 Rhennir Cynllun Tai Lloches Gelli yn ddau gynllun ar wahân. Mae Gelli 1 yn cynnwys 26 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely ac un tŷ â thair ystafell wely. Mae Gelli 2 yn cynnwys 34 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely a dwy fflat â thair ystafell wely. Mae gan bob cynllun floc cymunedol gyda chyfleusterau cymunedol ar gyfer y deiliaid contract i’w defnyddio a’u mwynhau.

Cwrt Gwyddon/The Ranks, Y Sgwâr, Abercarn NP11 5GW - 01495 248700 Cynllun tri llawr gyda phob dim o dan yr un to yw Cwrt Gwyddon, gydag 11 o fflatiau ag un neu ddwy ystafell wely. Mae blociau fflatiau allanol y Ranks hefyd yn rhan o’r cynllun hwn ac yn cynnig 25 o fflatiau ag un neu ddwy ystafell wely ar y lloriau gwaelod a chyntaf. Maent wedi’u lleoli ar draws y brif heol o gynllun Cwrt Gwyddon. Mae’r cyfleusterau cymunedol yn yr adeilad o dan yr un to i’w defnyddio gan ddeiliaid contract Cwrt Gwyddon a’r Ranks.

Heol Islwyn, Nelson, Treharris CF46 6HG - 01443 450066 Cynllun sy’n cynnig 31 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely ac un tŷ â thair ystafell wely yw Heol Islwyn. Mae’r cyfleusterau cymunedol ar gael mewn bloc cymunedol ar wahân yng nghanol y cynllun.

Cwrt y Cae Uchaf, Y Stryd Fawr, Trecelyn NP11 4GS - 01495 248008 Cynllun 4 llawr gyda phob dim o dan yr un to yw Cwrt y Cae Uchaf, gyda 20 o fflatiau ag un ystafell wely ar y llawr gwaelod, y llawr cyntaf a’r ail lawr. Mae’r cyfleusterau cymunedol o fewn yr adeilad.

Cwrt Horeb, Pentwyn Road, Trinant NP11 3HZ - 01495 214498 Mae gan gynllun Cwrt Horeb gymysgedd o 20 o fflatiau ag un ystafell wely ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, ac un fflat â thair ystafell wely ar y llawr cyntaf. Mae’r cyfleusterau cymunedol yng nghanol y cynllun mewn bloc cymunedol ar wahân.

Maesteg, Pentwyn-mawr NP11 4HH - 01495 245939 Mae Cynllun Tai Lloches Maesteg yn gymysgedd o dai unllawr a fflatiau ag un ystafell wely ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, ac un fflat â thair ystafell wely. Ceir cyfanswm o 27 o anheddau ac mae’r cyfleusterau cymunedol ar gael mewn bloc cymunedol yng nghanol y cynllun.

Tir y Deri, Gilfach, Bargod CF81 8QE - 01443 875971 Ceir cymysgedd o 31 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely yng Nghynllun Tai Lloches Tir y Deri. Mae’r cyfleusterau cymunedol mewn bloc cymunedol ar wahân o flaen y cynllun. 

Lle Hyfryd, Pen-yr-heol, Caerffili CF83 2NX - 029 2085 1315 Mae Lle Hyfryd yn cynnig cymysgedd o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely; ceir 31 o dai o fewn y cynllun. Mae’r cyfleusterau cymunedol mewn bloc ar wahân o fewn y cynllun.

Lle’r Olygfa, Abertyswg, Rhymni NP22 5AB - 01685 841818 Mae Lle’r Olygfa yn cynnig 30 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely. Mae’r cyfleusterau cymunedol mewn bloc ar wahân o flaen y cynllun.

Santes Clare, Rhymni Isaf NP22 5JN - 01685 841182 Ceir 32 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely yn Santes Clare. Mae’r cyfleusterau cymunedol yng nghanol y cynllun.

Cwrt Santes Gwladys, Bargod CF81 8UG - 01443 875757 Ceir 12 o fflatiau ag un ystafell wely ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf yng Nghynllun Tai Lloches Cwrt Santes Gwladys yn ogystal ag un tŷ unllawr â dwy ystafell wely gyda’r cyfan o dan yr un to. Ceir cymysgedd hefyd o 8 fflat ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf mewn dau floc ar wahân ond sydd o fewn ardal y cynllun, gyferbyn â’r prif adeilad. Mae’r cyfleusterau cymunedol yn y prif adeilad.

Cwrt y Santes Fair, Exchange Road, Rhisga NP11 6HB - 01633 612121 Cynllun gyda phob dim o dan yr un to yw Cwrt y Santes Fair ac mae ynddo 33 o fflatiau gyda mynedfa gymunedol. Ceir 21 o fflatiau ag un ystafell wely ddwbl ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, 11 o fflatiau un ystafell ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, ac 1 tŷ â thair ystafell wely. Mae’r cyfleusterau cymunedol o fewn yr adeilad.

Clos Sant Pedr /Tir-y-Pwll Terrace, Cefn-y-pant, Trecelyn NP11 5GF - 01495 243969 Ceir dwy ardal wahanol wedi eu gosod yn agos at ei gilydd o fewn Clos Sant Pedr yn Tir-y-Pwll Terrace a Clos Sant Pedr. Yn Tir-y-Pwll Terrace, ceir 18 o dai unllawr â dwy ystafell wely tra bod gan Clos Sant Pedr 10 o dai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely ac un tŷ â thair ystafell wely. Mae’r cyfleusterau cymunedol mewn adeilad ar wahân yng nghanol y cynllun rhwng y ddwy ardal.

Yr Helyg, Bedwas CF83 8BB - 029 2085 1933 Mae gan Gynllun Tai Lloches yr Helyg 29 o anheddau yn cynnwys tai unllawr ag un neu ddwy ystafell wely ac un tŷ â thair ystafell wely. Mae’r cyfleusterau cymunedol yng nghanol y cynllun mewn bloc cymunedol ar wahân.

Cwrt Tredegar, Tredegar Street, Crosskeys NP11 7QA - 01495 271732 Yng nghynllun Cwrt Tredegar, ceir 12 o fflatiau ag un ystafell wely mewn blociau ar wahân o fewn tir y cynllun (fflatiau Tredegar Street) a 26 o fflatiau ag un ystafell wely o dan yr un to yn y prif adeilad, sef Cwrt Tredegar. Mae’r cyfleusterau cymunedol ym mhrif adeilad Cwrt Tredegar sydd ar 3 lefel gyda lift ar gael i’w ddefnyddio gan yr holl ddeiliaid contract.

Tŷ Bedwellte, Bryn Road, Cefn Fforest NP12 3JJ – 01443 835889 Cynllun gyda phob dim o dan yr un to yw Tŷ Bedwellte wedi’i leoli dros 2 lawr gyda chymysgedd o 25 o fflatiau sengl a dwbl ag un neu ddwy ystafell wely. Mae’r cyfleusterau cymunedol yng nghanol yr adeilad ger y fynedfa i’r cynllun ac mae yna lift ar gael i ddeiliaid contract.

Tŷ Isaf, Park Avenue, Pont-y-meistr NP11 6NB - 01633 613995 Ceir 12 o fflatiau sengl/dwbl ag un ystafell wely mewn lleoliad o dan yr un to yn Nhŷ Isaf. Mae yna 3 llawr gyda 2 fflat ar y llawr gwaelod a 5 fflat yr un ar y llawr cyntaf ac ar yr ail, gyda lifft sy’n mynd i bob lefel. Mae’r cyfleusterau cymunedol ar gael ar y llawr gwaelod ger mynedfa’r cynllun.

Tŷ Melin, Croespenmaen, NP11 3BX - 01495 247454 Adeilad yw Tŷ Melin gyda phob dim o dan yr un to a chymysgedd o 32 o fflatiau ag un ystafell wely ar y llawr gwaelod, y llawr cyntaf a’r ail lawr, yn ogystal â thŷ â thair ystafell wely. Mae cyfleusterau cymunedol ar gael o fewn yr adeilad i’r deiliaid contract gael eu defnyddio.

Tŷ Mynyddislwyn, Gelligroes Road, Pontllan-fraith NP12 2JE - 01495 229404 Mae gan Gynllun Tai Lloches Tŷ Mynyddislwyn gymysgedd o 28 o fflatiau sengl/dwbl, ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf, mewn adeilad lle mae popeth o dan yr un to. Mae lifft ar gael er mwyn cael mynediad i’r llawr cyntaf. Mae’r cyfleusterau cymunedol ar y llawr gwaelod ger mynedfa flaen y cynllun.

Tŷ Waunfawr, Crosskeys NP11 7AN - 01495 270994 Mae Tŷ Waunfawr ar dair lefel ac ynddo mae 22 o fflatiau ag un ystafell wely neu fflatiau un ystafell ac un fflat â thair ystafell wely. Mae lifft ar gael ar gyfer deiliaid contract. Mae’r cyfleusterau cymunedol ar gael ar y llawr gwaelod o fewn y cynllun.

Waunrhydd, Gelligaer, Hengoed CF82 8HY - 01443 875096 Mae Waunrhydd yn cynnig 16 o fflatiau â dwy ystafell wely ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf o fewn 4 bloc allanol. Ceir 1 tŷ hefyd â thair ystafell wely ac 14 o dai unllawr â dwy ystafell wely. Mae’r cyfleusterau cymunedol o fewn bloc cymunedol ar wahân yng nghanol y cynllun ar gyfer eu defnyddio gan yr holl ddeiliaid contract. 

Trem y Coetir, Islwyn Road, Wattsville NP11 7QE – 01495 270263 Mae gan Gynllun Tai Lloches Trem y Coetir 20 o fflatiau ag un ystafell wely ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf mewn blociau ar wahân, ac un fflat â dwy ystafell wely ar y llawr cyntaf. Mae’r cyfleusterau cymunedol wrth ddrws y brif fynedfa yn un o flociau’r fflatiau.

Y Glyn, Maes-y-cwmwr, Hengoed CF82 7PY - 01443 813708 Ceir 35 o fflatiau ag un ystafell wely a fflatiau un ystafell ar y llawr gwaelod yn y Glyn. Mae yna un fflat â dwy ystafell wely hefyd ar y llawr gwaelod ac un tŷ â thair ystafell wely. Mae’r cyfleusterau cymunedol mewn adeilad ar wahân yng nghanol y cynllun sydd ar gael i’r holl ddeiliaid contract.

Ynyswen, Sirhowy View, Pontllan-fraith NP12 2GW – 01495 223044 Mae Ynyswen yn cynnwys 13 o fflatiau un ystafell wely mewn un adeilad. Mae’r eiddo i gyd wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod ac mae’r prif gyfleusterau cymunedol ar gael ger mynedfa’r cynllun.

Ysgwyddgwyn, Deri, Bargod CF81 9HY - 01443 875051 Cynllun gyda phob dim o dan yr un to yw Ysgwyddgwyn gyda 9 tŷ unllawr â dwy ystafell wely’r un wedi eu lleoli gyferbyn â’r prif adeilad. Yn y prif adeilad ceir 14 o fflatiau ag un neu ddwy ystafell wely ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf ac un tŷ â thair ystafell wely. Mae cyfleusterau cymunedol ar gael o fewn y prif adeilad ger y fynedfa. 

Os hoffech chi wneud cais am gartref yn un o’n cynlluniau tai lloches, gallwch chi lenwi’r ffurflen gais ar-lein ar ein gwefan, sef, www.caerffili.gov.uk neu gysylltu â’r adran Dyraniadau a Chyngor Tai ar 01443 873521 neu DyraniadauAChyngorTai@caerffili.gov.uk am ragor o gymorth.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un neu ragor o’r cynlluniau tai lloches uchod, cysylltwch â’r Tîm Tai Pobl Hŷn ar 01443 811431 neu TaiPoblHyn@caerffili.gov.uk