Beth yw Cymorth Hyblyg

Gwasanaeth cymorth fel y bo’r angen yw Cymorth Hyblyg, sy’n eich helpu i reoli eich materion a byw mor annibynnol â phosib.

Y prif egwyddorion yw:

  • Cefnogi pobl i gael mynediad at eu llety eu hunain, ei gynnal a’i reoli.
  • Helpu pobl i ddatblygu neu gynnal y sgiliau sydd eu hangen i fyw mor annibynnol â phosib.
  • Atal yr angen i symud i fath o lety sy’n fwy dibynnol.
  • Atal digartrefedd.

Mae hwn yn wasanaeth hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn helpu pobl i fod yn annibynnol ac i wneud dewisiadau drostyn nhw eu hunain. Mae’r gwasanaeth wedi’i gyllido’n llwyr gan y llywodraeth, ac mae am ddim i’r rhai yr asesir bod angen cymorth arnynt gyda’r canllawiau llywodraethol gofynnol.

Ynghylch tîm Cymorth Hyblyg Cartrefi Caerffili

Mae ein Swyddogion Cymorth Hyblyg wedi’u hyfforddi’n arbennig i ddarparu cyngor a chymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Maen nhw’n darparu cefnogaeth tymor byr yn ymwneud â thai, ond gall y gefnogaeth hon barhau am gyfnod hirach os bydd angen.

Bydd ein Swyddog Cymorth Hyblyg yn trafod hyn gyda chi, ac os ydych yn gymwys am gefnogaeth, bydd y Swyddog yn cytuno ar gynllun cymorth gyda chi sy’n bodloni eich anghenion.

Bydd y cynllun cymorth yn nodi’r camau y cytunwyd arnynt, ac am ba gyfnod y mae angen y cymorth. Bydd cynllun gweithredu yn manylu ar y cynnydd a’r canlyniadau. Bydd y cynllun cymorth yn cael ei adolygu’n rheolaidd, a gellir cynyddu neu leihau’r cymorth yn dibynnu ar eich anghenion. Mae ein tîm yn cael atgyfeiriadau gan y tîm Cefnogi Pobl, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y cawn atgyfeiriad ac ar ôl i ni gwblhau asesiad desg cychwynnol.

Byddwn:

  • Yn asesu eich atgyfeiriad yn syth ar ôl ei gael.
  • Yn gwneud apwyntiad i ymweld â chi ymhen 7 diwrnod gwaith.
  • Yn gwrando ar yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthon ni.
  • Yn cytuno ar gynllun cymorth a chynllun gweithredu gyda chi, er mwyn sicrhau bod eich cymorth yn cael ei ddarparu’n effeithiol.
  • Yn parchu eich cyfrinachedd.
  • Yn cynnig cefnogaeth yn ymwneud â thai sy’n bodloni’ch anghenion.

Pa gefnogaeth fydda i’n ei chael?

Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar eich anghenion cymorth gyda chi yn ystod ein hymweliad cyntaf.

Gallwn roi cymorth i’ch cynorthwyo gyda:

  • Cynyddu incwm a chyngor ar fudd-daliadau lles. 
  • Gwneud ceisiadau am gyllid grant.
  • Adrodd am atgyweiriadau, datrys materion yn ymwneud â rhent.
  • Canllawiau ar gadw’ch tŷ’n gynnes, yn ddiogel ac yn gyfforddus; cyngor ynni.
  • Perygl digartrefedd.
  • Rheoli neu ddatrys dyledion ariannol.
  • Rheoli eich incwm, biliau a chyllidebu.
  • Helpu gyda sgiliau byw bob dydd.
  • Ymateb i ohebiaeth, llenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau.
  • Eich cyfeirio at wasanaethau eraill a all fod o fudd i chi.
  • Eich cyfeirio at wasanaethau i gael cymorth er mwyn lleihau unigrwydd ac ynysu.
  • Eich cysylltu gyda’r gymuned leol.

NI fydd modd i ni eich cynorthwyo chi’n bersonol gyda:

  • Cludiant i apwyntiadau.
  • Cael gwared â dodrefn.
  • Addurno, glanhau neu arddio.
  • Gwasanaethau o amgylch tŷ neu atgyweirio.
  • Gwasanaethau cwnsela neu gyfeillio.
  • Gofal personol neu roi meddyginiaeth.
  • Siopa, ymdrin ag arian neu wasanaethau bancio.

Nid yw’r rhestrau uchod yn gynhwysfawr, a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn yn cwrdd â chi beth allwn ni ei wneud i’ch cefnogi, a beth na allwn ni ei wneud.

Alla i wneud cais am y gwasanaeth yma?

Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un dros 16 oed ar draws unrhyw ddaliadaeth sydd angen cymorth yn ymwneud â thai. Mae’n rhaid eich bod chi’n barod i gytuno ac i dderbyn cynllun cymorth a chynllun gweithredu cysylltiedig i’ch cynorthwyo chi wrth dderbyn cefnogaeth. Mae’n rhaid i chi hefyd ddod i gyswllt â Swyddog Cymorth Hyblyg a derbyn ymweliadau ganddynt er mwyn datblygu eich cynllun cefnogaeth.

Sut mae cael mynediad at y cymorth?

Gallwch hunan-atgyfeirio’n uniongyrchol drwy ein porth Cefnogi Pobl, neu gall rhywun arall eich atgyfeirio i gael cymorth drwy wefan Cefnogi Pobl, drwy www.caerphilly.gov.uk/cefnogipobl, neu drwy anfon e-bost at CefnogiPobl@caerffili.gov.uk Gallwch hefyd ffonio’r tîm Cefnogi Pobl yn uniongyrchol drwy 01443 864548. 

Mae sawl asiantaeth ar gael drwy Cefnogi Pobl, gan gynnwys Tîm Cymorth Hyblyg Cartrefi Caerffili, a byddwch yn cael eich atgyfeirio at yr asiantaeth fwyaf addas i fodloni’ch anghenion.

Sut i gysylltu gyda ni

Gallwch gysylltu â Thîm Cymorth Hyblyg Cartrefi Caerffili yn ystod oriau swyddfa arferol dros y ffôn neu drwy e-bost fel a ganlyn: