Benthyciadau Gydol Oes
Mae benthyciadau cyfandaliad ar gael i gefnogi perchnogion tai sy'n methu'r meini prawf ar gyfer Benthyciadau Perchen-feddianwyr.
Pwy all wneud cais?
Efallai y bydd y benthyciadau ar gael i berchnogion tai ym mwrdeistref sirol Caerffili sydd wedi methu'r meini prawf ar gyfer Benthyciadau Perchen-feddianwyr ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol eraill.
Rhoddir y benthyciadau ar gyfer gwelliannau i wneud cartrefi yn saff, yn gynnes ac yn ddiogel ac i fynd i'r afael â pheryglon a nodwyd yn y system statws iechyd a diogelwch tai.
Faint allaf fenthyg?
Mae benthyciadau ar gael hyd at £25,000.
Mae 'Benthyciad Gydol Oes' yn fenthyciad cyfandaliad lle caiff unrhyw log a all fod yn daladwy ei chyflwyno dros y tymor llawn. Mae’r benthyciad wedyn yn ad-daladwy wrth werthiant neu waredu’r eiddo.
Sut i wneud cais
Oherwydd materion yn ymwneud â'r pandemig, mae'r Cyngor wedi penderfynu atal dros dro gymryd ymholiadau newydd am grantiau atgyweirio'r cartref. Sylwch y bydd unrhyw geisiadau brys yn dal i gael eu hystyried. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan reolwyr tai a bydd y system yn cael ei hadfer cyn gynted â phosibl.
Fodd bynnag, mae benthyciadau di-log ar gael i berchen-feddiannwyr a landlordiaid er mwyn gwneud atgyweiriadau i'ch eiddo. Os hoffech chi ymholi am y rhain, ffoniwch 01443 811378 neu ddilyn y ddolen hon i gael y ffurflen ymholiadau ar-lein
Gwneud cais am benthyciad gwella cartrefi >
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!