Grant atgyweirio’r cartref
Mae’r cymorth grant hwn ar gael i berchen-feddianwyr a thenantiaid sy’n gyfrifol am wneud gwaith atgyweirio sy’n angenrheidiol ym marn y Cyngor. Y mathau arferol o waith y rhoddir y grant hwn ar eu cyfer yw gosod drysau a ffenestri newydd, atgyweirio’r to a gosod system wresogi newydd.
Pwy all wneud cais?
Mae’r grantiau hyn ond ar gael i’r canlynol:
- Eiddo sydd dros 10 oed
- Eiddo ym mandiau A-D y dreth gyngor
- Ymgeiswyr sy’n derbyn Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn Gwarantedig, Budd-dal Tai, Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (sy’n seiliedig ar incwm) neu sy’n gallu dangos cyfraniad o ddim gan ddefnyddio prawf modd y Cyngor
- Ymgeiswyr sy’n prynu eiddo am y tro cyntaf, neu
- Ymgeiswyr sydd wedi meddiannu’r eiddo am o leiaf 1 flwyddyn yn union cyn gwneud cais
Faint o grant fyddaf yn ei gael?
Rhoddir grant o 100%, hyd at uchafswm o £10,000.
Un o amodau’r grant yw y bydd rhaid meddiannu’r eiddo am 10 mlynedd ar ôl derbyn y grant.
Sut i wneud cais
Oherwydd y pandemig, mae'r Cyngor wedi penderfynu atal dros dro gymryd ymholiadau newydd am grantiau atgyweirio cartrefi ac ymholiadau newydd ar gyfer yr holl gynhyrchion benthyciadau tai o 22 Hydref 2020. Sylwch y bydd unrhyw geisiadau brys yn dal i gael eu hystyried. Bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd gan reolwyr tai a bydd y systemau'n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl.